xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1288 (Cy.165) (C.45)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012

Gwnaed

14 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau sydd wedi eu cynnwys yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009(1).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” (“relevant floor area”), mewn perthynas â siop, yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy'n cynnwys, neu sy'n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009;

mae i “gwerthwr tybaco arbenigol” yr ystyr a roddir i “specialist tobacconist” yn adran 6 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002(2);

ystyr “pecyn” (“package”) yw unrhyw flwch, carton neu gynhwysydd arall;

ystyr “pecyn gwreiddiol” (“original package”) yw'r pecyn y cyflenwyd y sigaréts neu'r tybaco rholio â llaw ynddo gan y gweithgynhyrchwr neu'r mewnforiwr at ddibenion manwerthu;

ystyr “siop fawr” (“large shop”) yw siop lle y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn fwy na 280 o fetrau sgwâr; ac

ystyr “swmpwerthwr tybaco” (“bulk tobacconist”) yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) ac y mae ei gwerthiannau sigaréts neu dybaco rholio â llaw, a fesurir yn unol â pharagraff (4), yn cydymffurfio â'r amodau canlynol—

(i)

bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigaréts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a

(ii)

bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau tybaco rholio â llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol;

(4Mae'r gwerthiannau y cyfeiriwyd atynt yn y diffiniad o “swmpwerthwr tybaco” i'w mesur yn ôl y pris gwerthu—

(a)yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu

(b)yn ystod y cyfnod ers sefydlu'r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i'r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.

Diwrnodau penodedig

2.—(11 Mehefin 2012 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Atodlen 4 i'r Ddeddf—

(a)paragraff 7(6);

(b)paragraff 8(1) a pharagraff 8(3); ac

(c)paragraff 2 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau a restrir yn (a) a (b).

(23 Rhagfyr 2012 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac i'r graddau y mae'n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco, arddangosiadau tybaco: eithriadau ac amddiffyniad ac arddangosiadau: prisiau cynhyrchion tybaco), at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco nac yn werthwyr tybaco arbenigol;

(b)y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny—

(i)paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r is-baragraff hwnnw;

(ii)paragraff 10;

(iii)paragraffau 11 a 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;

(iv)paragraff 2 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau a restrir yn (i) i (iii).

(36 Ebrill 2015 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)adran 20 (gwaharddiad ar hysbysebu: eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i'r graddau y mae'n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, ac i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny—

(i)paragraff 2 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(ii)paragraff 3; a

(iii)paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r is-baragraffau hynny.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, yng Nghymru, ddarpariaethau adrannau 20 a 21 o'r Ddeddf, sy'n gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth flaenorol mewn perthynas â thybaco.

Mae hefyd yn dwyn i rym, yng Nghymru, ddarpariaethau yn Atodlen 4 i'r Ddeddf (sy'n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â thybaco). Mae'r mân ddiwygiadau a'r diwygiadau canlyniadol hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym ar 1 Mehefin 2012 ac sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gymryd drosodd yr achosion sy'n ymwneud â throsedd a gyflawnwyd yng Nghymru ac a gychwynnwyd yng Nghymru a Lloegr gan berson arall o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 neu unrhyw reoliadau a wneir odani.

Mae darpariaethau mewn perthynas ag arddangos prisiau cynhyrchion tybaco yn cael eu cychwyn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 3 Rhagfyr 2012 at ddibenion siopau mawr (fel y'u diffinnir) ac at bob diben arall ar 6 Ebrill 2015.

Mae darpariaethau mewn perthynas â gwahardd arddangosiadau tybaco ac â'r eithriadau ac amddiffyniad sy'n gysylltiedig â hwy yn cael eu cychwyn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 3 Rhagfyr 2012 at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco (fel y'u diffinnir) a gwerthwyr tybaco arbenigol (fel y'u diffinnir yn adran 6 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002) ac at bob diben arall ar 6 Ebrill 2015.

Mae darpariaethau mewn perthynas ag eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol o'r gwaharddiad ar hysbysebu yn cael eu cychwyn ar 6 Ebrill 2015.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63) ac O.S. 2011/2362 (Cy.248) (C.83).

Y DdarpariaethY Dyddiad Cychwyn
Adran 191.4.2010 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 14 i 17, 18 a 19 o Atodlen 3).
Adran 221.2.2012 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym).
Atodlen 3, paragraffau 14 i 171.4.2010.
Atodlen 3, paragraffau 18 a 191.4.2010.

Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 3619.1.2010.2010/30 (C.5).
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymu mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno.1.10.2011.2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49).
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymu mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno.6.4.2012.2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49).

Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S. 2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S. 2011/1255 (C.49).