xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gwnaed
14 Mai 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Mai 2012
Yn dod i rym
6 Ebrill 2015
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2015.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 2 o'r Ddeddf (gwaharddiad ar hysbysebu tybaco) os yw'r hysbyseb dybaco—
(a)mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol(3);
(b)yn un nad yw ar gyfer sigaréts neu dybaco rholio â llaw; ac
(c)yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn y paragraffau a ganlyn.
(2) Ni chaniateir i hysbyseb dybaco fod yn weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.
(3) Rhaid i bob hysbyseb gynnwys adran (“yr adran wybodaeth”) (“the information area”) lle yr arddangosir ynddi—
(a)rhybudd iechyd fel a bennir ym mharagraff (4); a
(b)yr wybodaeth iechyd a ganlyn—
“Llinell Gymorth i Ysmygwyr yng Nghymru
0800 169 0 169
Smokers' Helpline Wales”.
(4) Rhaid i'r rhybudd iechyd ddatgan—
(a)mewn achos lle mae hanner neu ragor o arwynebedd hysbyseb ac eithrio'r adran wybodaeth (“yr adran hysbysebu”) (“the advertisement area”) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebu cynhyrchion tybaco y bwriedir iddynt gael eu hysmygu—
““Mae ysmygu yn lladd / Smoking kills” neu
“Mae ysmygu yn achosi niwed difrifol i chi ac eraill o'ch cwmpas / Smoking seriously harms you and others around you””; a
(b)ym mhob achos arall—
“Gall cynhyrchion tybaco achosi niwed difrifol i'ch iechyd a gallwch fynd yn gaeth iddynt / Tobacco products can seriously damage your health and are addictive”.
(5) Rhaid i'r adran wybodaeth o dan baragraff (3)—
(a)mewn achos lle y mae cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yn fwy na 75 o gentimetrau sgwâr, fod o leiaf 22.5 o gentimetrau sgwâr; a
(b)mewn unrhyw achos arall, beidio â bod yn llai na 30% o gyfanswm arwynebedd yr hysbyseb,
ac, at ddibenion y paragraff hwn, ystyr cyfanswm arwynebedd yr hysbyseb yw'r adran hysbysebu a'r adran wybodaeth.
(6) Rhaid i'r rhybudd iechyd a'r wybodaeth iechyd y mae'n ofynnol iddynt gael eu harddangos o dan baragraff (3)—
(a)bod yn annileadwy;
(b)bod yn ddarllenadwy;
(c)bod wedi eu printio mewn teip Helvetica du trwm ar gefndir gwyn;
(d)bod mewn maint ffont sy'n gyson drwy'r testun sy'n sicrhau bod y testun yn llenwi'r gyfran fwyaf posibl o'r adran wybodaeth;
(e)bod mewn teip â phriflythrennau a llythrennau bach fel y'u defnyddiwyd yn yr wybodaeth iechyd ym mharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, yn y rhybudd iechyd o dan sylw ym mharagraff (4);
(f)bod wedi eu canoli yn yr adran lle y mae'n ofynnol i'r testun gael ei brintio ynddi;
(g)cael eu harddangos yn gyfochrog â'r llawr;
(h)bod wedi eu hamgylchynu ag ymyl ddu y tu allan i'r adran wybodaeth y mae'n rhaid iddi beidio â bod yn llai na 3 milimetr a dim mwy na 4 milimetr ei lled, a honno'n ymyl nad yw'n ymyrryd â thestun y rhybudd na'r wybodaeth; ac
(i)bod wedi eu printio ar yr hysbyseb yn y fath fodd fel na ellir eu tynnu oddi arni neu wedi eu gosod ar yr hysbyseb drwy gyfrwng sticer na ellir ei dynnu oddi yno.
3. Ni chyflawnir unrhyw drosedd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco)(4) drwy arddangos cynhyrchion tybaco os yw'r arddangosiad—
(a)mewn mangre gwerthwr tybaco arbenigol; a
(b)yn un nad yw'n weladwy o'r tu allan i fangre'r gwerthwr tybaco arbenigol.
4. Mae Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) 2004(5) wedi eu dirymu o ran Cymru.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiadau mewn perthynas â gwerthwyr tybaco arbenigol rhag y gwaharddiad ar hysbysebion tybaco a osodwyd gan adran 2 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (“y Ddeddf”) a'r gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco a osodwyd gan adran 7A o'r Ddeddf. Siopau yw gwerthwyr tybaco arbenigol sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco drwy fanwerthu ac y mae dros hanner o'u gwerthiannau yn deillio o werthiant sigârs, snisin, tybaco pib ac ategolion ysmygu.
Mae rheoliad 2 yn caniatáu ar gyfer cyhoeddi hysbysebion ar gyfer cynhyrchion tybaco, nad ydynt yn sigaréts neu dybaco rholio â llaw, mewn mangreoedd gwerthwyr tybaco arbenigol ar yr amod nad yw'r hysbyseb yn weladwy o'r tu allan i'r fangre a'i bod yn cynnwys y rhybudd iechyd a'r wybodaeth iechyd ddwyieithog sy'n ofynnol ar y ffurf ofynnol. Mae'r gofyniad am rybudd iechyd a gwybodaeth iechyd ddwyieithog yn gymwys i'r hysbyseb ac nid i'r cynhyrchion tybaco eu hunain.
Mae rheoliad 3 yn caniatáu ar gyfer arddangos cynhyrchion tybaco, gan gynnwys sigaréts a thybaco rholio â llaw, mewn mangreoedd gwerthwyr tybaco arbenigol os nad yw'r cynhyrchion tybaco yn weladwy o'r tu allan i'r mangreoedd.
Mae Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Gwerthwyr Tybaco Arbenigol) 2004 wedi eu dirymu o ran Cymru gan reoliad 4.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Cwrs Bywyd, yr Is-adran Gwella Iechyd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2002 p.36. Mewnosodwyd adran 6(A1) ac adran 7B(3) gan Ddeddf Iechyd 2009 (p.21), adrannau 20 a 21. Gweinidogion Cymru yw'r “appropriate Minister” o ran Cymru o dan adran 21(1) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (“y Ddeddf”), a amnewidiwyd gan adran 24 o Ddeddf Iechyd 2009, a pharagraffau 2 a 12 o Atodlen 4 iddi.
Gweler adran 6(2) a (3) o'r Ddeddf i gael diffiniad o “specialist tobacconist”.
Mewnosodwyd adran 7A o'r Ddeddf gan Ddeddf Iechyd 2009 (p.21), adran 21.