- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arddangosiad sy'n destun cais(1) yn cael ei wneud i unigolyn (“A”) sy'n 18 oed neu drosodd.
(2) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco mewn uned storio, i unigolion ac eithrio A—
(a)os yw'r arddangosiad—
(i)o ganlyniad i'r arddangosiad sy'n destun cais yn unig, a
(ii)yn parhau am gyfnod nad yw'n hwy na'r amser y mae ei angen i dynnu'r cynnyrch sy'n destun cais o'r uned storio; a
(b)os nad yw arwynebedd yr uned storio a arddangosir yn fwy nag 1.5 metr sgwâr.
(3) Ni chyflawnir unrhyw dramgwydd o dan adran 7A(1) o'r Ddeddf (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco) drwy arddangos cynhyrchion tybaco ac eithrio mewn uned storio, i unigolion ac eithrio A, os yw'r arddangosiad—
(a)o ganlyniad i'r arddangosiad sy'n destun cais yn unig, a
(b)yn parhau am gyfnod nad yw'n hwy na'r arddangosiad sy'n destun cais.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y cynnyrch sy'n destun cais” (“the requested product”) yw'r cynnyrch y gofynnodd A i'w brynu neu i gael gwybodaeth amdano.
Gweler adran 7(B)8 o'r Ddeddf i gael y diffiniad o “requested display”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: