- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD MEDDWL, CYMRU
Gwnaed
8 Mai 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45, 46 a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(1).
Mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(5)(b) o'r Mesur, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym—
(a)i'r graddau y maent yn ymwneud â darpariaeth ranbarthol ar gyfer Rhan 1 o'r Mesur, yn union ar ôl i adran 45 (Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol) o'r Mesur ddod i rym ar 8 Mai 2012; a
(b)at bob diben arall, yn union ar ôl i adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol) o'r Mesur ddod i rym ar 6 Mehefin 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol yn unol â'r hyn a ddarperir yn adran 45 o'r Mesur mae Rhan 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) o'r Mesur wedi ei datgymhwyso o ran ardaloedd yr awdurdodau lleol a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae Rhan 1 ac i'r graddau y mae angen hynny mae Rhannau 5 (cyffredinol) a 6 (amrywiol ac atodol) o'r Mesur wedi eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol a nodir ac a grwpir gyda'i gilydd fel rhanbarthau yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion Rhan 1 o'r Mesur mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw adrannau 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol), 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill) ac 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd) wedi eu datgymhwyso at ddibenion paragraff (1) nac wedi eu cymhwyso at ddibenion paragraff (2) ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cynllun y cyfeirir ato yn adran 2(4) neu 2(5) (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) i'r rhanbarth yn adrannau 7(6) ac 8(2) a (5).
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), er mwyn sicrhau darpariaeth ranbarthol yn unol â'r hyn a ddarperir yn adran 46 o'r Mesur mae Rhan 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o'r Mesur wedi ei datgymhwyso o ran ardaloedd yr awdurdodau lleol a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae Rhan 3 ac i'r graddau y mae angen hynny mae Rhannau 5 (cyffredinol) a 6 (amrywiol ac atodol) o'r Mesur wedi eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol a nodir ac a grwpir gyda'i gilydd fel rhanbarthau yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion Rhan 3 o'r Mesur mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Nid yw adrannau 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd), 22 (hawl i asesiad) a 29 (penderfynu man preswylio arferol), wedi eu datgymhwyso at ddibenion paragraff (1) nac wedi eu cymhwyso at ddibenion paragraff (2) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r canlynol—
(i)hawl oedolyn i gael asesiad; a
(ii)penderfynu man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw er mwyn sefydlu'r hawl i gael asesiad ar y sail bod man preswylio arferol yr oedolyn hwnnw mewn ardal awdurdod lleol.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2012
Rheoliadau 3(1) a 4(1)
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cyngor Caerdydd
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir Mynwy
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Sir Ynys Môn
Dinas a Sir Abertawe
Rheoliadau 3(2) a (3) a 4(2) a (3)
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Ardaloedd yr awdurdodau lleol (neu'r rhannau ohonynt) a gymhwysir fel rhanbarthau | Y partneriaid iechyd meddwl lleol |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Cyngor Gwynedd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
Cyngor Sir Ddinbych | Cyngor Gwynedd |
Cyngor Sir y Fflint | Cyngor Sir Ddinbych |
Cyngor Sir Ynys Môn | Cyngor Sir y Fflint |
Cyngor Sir Ynys Môn | |
Cyngor Sir Caerfyrddin | Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda |
Cyngor Sir Ceredigion | Cyngor Sir Caerfyrddin |
Cyngor Sir Penfro | Cyngor Sir Ceredigion |
Cyngor Sir Penfro | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
Dinas a Sir Abertawe | Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr |
Dinas a Sir Abertawe | |
Cyngor Bro Morgannwg | Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Cyngor Caerdydd | Cyngor Bro Morgannwg |
Cyngor Caerdydd | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful | Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf | |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent | Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen | Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
Cyngor Dinas Casnewydd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen |
Cyngor Sir Mynwy | Cyngor Dinas Casnewydd |
Cyngor Sir Mynwy |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer darpariaeth ranbarthol at ddibenion Rhannau 1 a 3 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).
2. Mae Rhannau 1 a 3 o'r Mesur yn cael eu datgymhwyso o ran ardaloedd yr holl awdurdodau lleol sydd wedi eu rhestru yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3(1) a 4(1)).
3. Wedyn mae Rhannau 1 a 3 o'r Mesur ac i'r graddau y mae angen hynny, mae Rhannau 5 a 6 o'r Mesur yn cael eu cymhwyso o ran ardaloedd cyfun yr awdurdodau lleol sydd wedi eu grwpio gyda'i gilydd yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn. Yr enw ar ardaloedd cyfun y grwpiau hyn o awdurdodau lleol yw “rhanbarthau” (rheoliadau 3(2) a 4(2)).
4. Mae'r partneriaid iechyd meddwl lleol i bob rhanbarth wedi eu dyrannu yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3(3) a 4(3)).
5. Mae eithriad yn cael ei wneud i'r modd y mae Rhan 1 o'r Mesur yn cael ei datgymhwyso a'i chymhwyso at ddibenion adrannau 6, 7 ac 8. Mae'r eithriad hwn yn golygu nad yw darpariaeth ranbarthol yn gymwys at ddibenion adrannau 6, 7 ac 8, ac eithrio i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â chynllun ar gyfer rhanbarth (fel y cyfeirir ato yn adran 2(4) a (5) o'r Mesur) yn adrannau 7(6) ac 8(2) a (5) (rheoliad 3(4)).
6. Mae eithriad yn cael ei wneud i'r modd y mae Rhan 3 o'r Mesur yn cael ei datgymhwyso a'i chymhwyso at ddibenion adrannau 19, 22 a 29. Mae'r eithriad hwn yn golygu nad yw darpariaeth ranbarthol yn gymwys at ddibenion adrannau 19, 22 a 29 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â hawl oedolyn i gael asesiad, neu â phenderfynu man preswylio arferol oedolyn yn ôl ardaloedd yr awdurdodau lleol er mwyn sefydlu hawl yr oedolyn hwnnw i gael asesiad (rheoliad 4(4)).
7. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: