Diwygio
9. Yn rheoliad 26—
(a)ar ôl y geiriau “gwrs dynodedig” ym mharagraff (1) mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae'n ymgymryd ag ef”; a
(b)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.”