Diwygio

9.  Yn rheoliad 26—

(a)ar ôl y geiriau “gwrs dynodedig” ym mharagraff (1) mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae'n ymgymryd ag ef”; a

(b)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â chwrs dysgu o bell oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru.