Diwygio
11.—(1) Yn rheoliad 74(2)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “ac”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (ch), yn lle “.” rhodder “; a”; ac
(c)ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—
“(d)yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.”
(2) Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(5) Mae cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—
(a)os yw myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 83 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; a
(b)pe byddai'r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.”