xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
RHAGOFALON TÅN, CYMRU
Gwnaed
8 Ebrill 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Ebrill 2012
Yn dod i rym
12 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 24 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag erthygl 24(4) o'r Gorchymyn hwnnw mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau neu gyrff o bersonau yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Tân (Galluoedd Cyflogeion) (Cymru) 2012.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Mai 2012.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Rhaid i bob cyflogwr, wrth roi tasgau yng ngofal cyflogeion, ystyried galluoedd y cyflogeion hynny o ran iechyd a diogelwch, i'r graddau y mae'r galluoedd hynny yn ymwneud â thân.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
8 Ebrill 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu bod yn rhaid i gyflogwyr ystyried galluoedd cyflogeion o ran diogelwch tân wrth roi tasgau yn eu gofal. Maent yn rhoi ar waith erthygl 6(3)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/391/EEC ddyddiedig 12 Mehefin 1989 ar gyflwyno mesurau i annog gwelliannau i ddiogelwch ac iechyd gweithwyr yn y gwaith ac yn adlewyrchu rheoliad 13(1) o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (O.S. 1999/3242).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/1541; a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/484; y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2006 (O.S. 2006/1458). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).