xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 991 (Cy.145)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mawrth 2011

Yn dod i rym

21 Ebrill2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at y dibenion o wneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.

Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 21 Ebrill 2011.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

Yr awdurdod cymwys

2.—(1Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Teitl II o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac yn ymwneud â labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion(5);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000(6);

(c)Erthygl 113b o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ac Atodiad X1a i'r Rheoliad hwnnw, sy'n sefydlu trefn gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac yn ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer rhai cynhyrchion amaethyddol(7);

(d)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 566/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â marchnata cig anifeiliaid buchol sy'n 12 mis oed neu'n iau(8).

Yr awdurdodau gorfodi

3.—(1Mewn perthynas â chyflenwi drwy fanwerthu, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.

(2Fel arall, gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol, yr awdurdod iechyd porthladd a Gweinidogion Cymru.

Tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd

4.—(1Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol yn neddfwriaeth yr UE yn euog o dramgwydd—

(a)y darpariaethau canlynol o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor–

(i)Erthygl 11 (gofyniad i labelu);

(ii)Erthygl 13(1) (rheolau cyffredinol);

(iii)Erthygl 13(2) (dynodiadau ar y label);

(iv)Erthygl 13(5) (gwybodaeth ychwanegol ar y label);

(v)Erthygl 14 (labelu briwgig eidion);

(vi)Erthygl 15 (cig eidion o drydydd gwledydd);

(vii)Erthygl 16(4) (labelu gwirfoddol);

(viii)Erthygl 17(1) (labelu cig eidion o drydydd gwledydd yn wirfoddol);

(b)y darpariaethau canlynol o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000

(i)Erthygl 1 (olrheiniadwyedd);

(ii)Erthygl 2 (labelu);

(iii)Erthygl 4 (maint a chyfansoddiad grŵp);

(iv)Erthygl 5(2) (briwgig eidion);

(v)Erthygl 5a (tocion);

(vi)Erthygl 5b (cig a dorrwyd sydd wedi ei ragbecynnu);

(vii)Erthygl 5c (cig a dorrwyd sydd heb ei ragbecynnu);

(viii)Erthygl 6(3) (cig eidion mewn pecynnau bach i'w fanwerthu);

(ix)Erthygl 7 (mynediad i fangreoedd a chofnodion);

(c)y darpariaethau canlynol Rheoliad Cyngor (EC) Rhif 1234/2007

(i)Erthygl 113b (marchnata cig anifeiliaid buchol 12 mis oed neu'n iau);

(ii)Paragraff II o Atodiad X1a (dosbarthu yn y lladd-dy);

(iii)Paragraff III o Atodiad X1a (disgrifiadau gwerthu);

(iv)Paragraff IV o Atodiad X1a (gwybodaeth orfodol ar y label);

(v)Paragraff V o Atodiad X1a (gwybodaeth opsiynol ar y label);

(vi)Paragraff VI o Atodiad X1a (cofnodi);

(vii)Paragraff VIII o Atodiad X1a (cig o drydydd gwledydd);

(d)y darpariaethau canlynol o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 566/2008

(i)Erthygl 4(1) (gwybodaeth orfodol ar y label);

(ii)Erthygl 4(2) (dynodi oed);

(iii)Erthygl 5 (cofnodi gwybodaeth).

(2At ddibenion paragraff IV(2) o Atodiad X1a i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, rhaid i'r wybodaeth sy'n ofynnol gael ei harddangos yn agos at y cig, fel y gall y defnyddiwr terfynol adnabod yr wybodaeth yn hawdd, a rhaid iddi fod yn eglur a darllenadwy.

(3Rhaid dal gafael ar gofnodion (gan gynnwys cofnodion electronig) am gyfnod o 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod ynddi.

Hysbysiadau

5.—(1Pan fo cig eidion neu gig llo wedi ei labelu a'i farchnata mewn modd nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, caiff swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â'r cig eidion neu'r cig llo yn ei feddiant, gan wneud yn ofynnol—

(a)ail-labelu'r cig ar unwaith yn unol â'r Rheoliadau hyn, neu

(b)roi'r gorau ar unwaith i'w gynnig ar werth, hyd nes bo'r cig wedi ei ail-labelu yn unol â'r Rheoliadau hyn, neu'i waredu rywfodd arall,

a bydd unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw yn euog o dramgwydd.

(2Rhaid i hysbysiad ddatgan bod hawl i apelio i lys ynadon, ac o fewn pa gyfnod y caniateir dwyn apêl.

(3Caiff unrhyw berson a dramgwyddir oherwydd hysbysiad apelio i lys ynadon.

(4Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn, a bydd Deddf Llysoedd yr Ynadon 1980(9) yn gymwys i'r gweithrediadau.

(5Y cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo yw un mis ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad.

(6Yn dilyn apêl, caiff y llys ddileu neu gadarnhau'r hysbysiad, ac os bydd yn ei gadarnhau, caiff wneud hynny naill ai ar ei ffurf wreiddiol neu gyda'r cyfryw addasiadau ag y gwêl y llys yn dda o dan yr amgylchiadau.

(7Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad llys ynadon mewn apêl o dan y rheoliad hwn apelio i Lys y Goron.

Pwerau mynediad

6.—(1Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi, ar ôl dangos awdurdodiad dilysedig os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw awr resymol at y diben o ganfod–

(a)a oes, neu a fu yn y fangre honno unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)a oes yn y fangre honno unrhyw dystiolaeth o unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff y swyddog fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef, a ystyrir yn angenrheidiol gan y swyddog, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

(3Os bodlonir ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1), ac—

(a)bod mynediad i'r fangre honno wedi ei wrthod, neu y disgwylir gwrthodiad, a bod hysbysiad o'r bwriad i ofyn am warant wedi ei roi i'r meddiannydd,

(b)os byddai cais am gael mynediad yn tanseilio'r diben o fynd i mewn, neu

(c)os yw'r fangre'n wag, neu'r meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant lofnodedig, awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen.

(4Bydd gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am un mis.

(5Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

7.  Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod gorfodi sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn—

(a)archwilio unrhyw gig eidion neu gig llo sy'n bresennol yn y fangre honno;

(b)cymryd samplau o unrhyw gig eidion neu gig llo yn y fangre honno ac, os oes angen, anfon y samplau i'w profi;

(c)archwilio unrhyw labeli a chofnodion busnes perthnasol (gan gynnwys cofnodion electronig), y gall fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achosion o dan y Rheoliadau hyn.

Rhwystro

8.  Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith,

(b)heb esgus rhesymol, yn peidio â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdano neu amdani at y diben o gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, neu

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

9.—(1Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd hwnnw wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod, ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd, a bydd yn agored i'w erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei fusnes gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Cosbau

10.  Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu

11.  Dirymir Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(10).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig,

29 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001 ac y maent yn awr yn gymwys i labelu cig llo yn ogystal â chig eidion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i orfodi Teitl II o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynglŷn â labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion, a Rheoliadau perthynol y Comisiwn. Maent hefyd yn gorfodi'r darpariaethau ynglŷn â chig anifeiliaid buchol sy'n 12 mis oed neu'n iau yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefn gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac yn ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer rhai cynhyrchion amaethyddol, yn ogystal â darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 566/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn perthynas â marchnata cig anifeiliaid buchol sy'n 12 mis oed neu'n iau.

Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gorfodi Erthyglau 5a, 5b a 5c o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 (rheoliad 4(1)(b)) ac yn darparu rheolau ynglŷn â darparu gwybodaeth yn y man gwerthu ynghylch cig heb ei ragbecynnu o anifeiliaid buchol 12 mis oed neu'n iau (rheoliad 4(2)).

Gorfodir y Rheoliadau gan yr awdurdod lleol, awdurdod iechyd porthladd neu weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 3.

Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi, yn dilyn collfarn ddiannod, â dirwy o ddim mwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Ni wnaed asesiad effaith rheoleiddiol, oherwydd na ddisgwylir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.

(1)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(5)

OJ Rhif L 204, 11.8.2000, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.1).

(6)

OJ Rhif L 216, 26.8.2000, t.8 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 275/2007 (OJ Rhif L76, 16.3.2007, t.12)

(7)

OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 513/2010 (OJ Rhif L150, 16.6.2010, t.40). Ychwanegwyd y darpariaethau hyn gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 361/2008, OJ Rhif L 121, 7.5.2008, t.1.

(8)

OJ Rhif L 160, 19.6.2008, t.22.

(9)

1980 p.43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 47.