xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 966 (Cy.140)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed

26 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mawrth 2011

Yn dod i rym

22 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraff 1 o Atodlen 9 iddi(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 22 Ebrill 2011.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989

2.—(1Mae Atodlen 1A i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1—

(a)yn lle is-baragraff (1)(b), rhodder—

(b)the demand notice or notices were served in the financial year beginning on 1 April 2007, 1 April 2008, 1 April 2009, 1 April 2010 or 1 April 2011.; a

(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—

(c)which is made on or before 31 March 2011..

(3Ym mharagraff 2—

(a)yn lle is-baragraff (2)(b), rhodder—

(b)provide for the backdated liability to be discharged—

(i)in instalments over a period not exceeding eight years commencing on the day that the agreement is reached; or

(ii)over a period not exceeding eight years commencing on the day that the agreement is reached in instalments beginning on or after 1 April 2012.; and

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)ar ôl “it is in force” rhodder “and instalments are payable”;

(ii)yn lle paragraff (b), mewnosoder—

(b)B equals—

(i)in relation to an agreement mentioned in sub-paragraph (2)(b)(i), the total number of days the agreement will be in force,

(ii)in relation to an agreement mentioned in sub-paragraph (2)(b)(ii), the total number of days the agreement will be in force but ignoring any day before 1 April 2012; and.

(4Ar ôl paragraff 2, mewnosoder—

Replacement of existing agreements to reschedule backdated liability

2A.(1) This paragraph applies where a billing authority and a ratepayer have entered into an agreement under paragraph 2 on or before the date that these Regulations come into force (“the existing agreement”).

(2) Where this paragraph applies, a billing authority and a ratepayer may agree that backdated liability should be discharged in the manner provided by a further agreement under paragraph 2 (“the new agreement”) which will replace, from the day the new agreement is reached, the existing agreement.

(3) The new agreement may relate to any backdated liability which should have been discharged under the existing agreement prior to the day the new agreement is reached but has not been so discharged, notwithstanding the service of a notice under regulation 8 (as modified by paragraph 4) requiring payment of the unpaid balance or any action taken under Part 3.

(4) The new agreement may not—

(a)relate to any backdated liability which has already been discharged under the existing agreement, prior to the day the new agreement is reached;

(b)provide for the period of the new agreement (including any period during which instalments are not payable) to extend beyond eight years from the day the existing agreement was reached; and

(c)be entered into after 31 March 2012..

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

26 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1A i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”) (O.S. 1989/1058) o ran Cymru. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) (O.S. 2009/461) (Cy.48) i wneud darpariaeth arbennig mewn perthynas â chasglu dyled ardrethi annomestig ôl-ddyddiedig benodol.

Mae Rheoliadau 1989 yn darparu bod dyled ardrethi blynyddol talwr ardrethi yn cael ei thalu mewn rhan-daliadau mewn llawer o achosion. Er hynny, os dyroddir hysbysiad galw am dalu — neu fil ardrethi — ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi, perir i'r swm fod yn daladwy yn llawn. Gall hyn ddigwydd os dangosir hereditament ar restr ardrethu am y tro cyntaf yn effeithiol o ddyddiad yn y flwyddyn honno yn dilyn diwygiad i'r rhestr ardrethu nas gwneir tan ar ôl i'r flwyddyn ddod i ben.

Mae Atodlen 1A yn darparu y gall yr awdurdod bilio a'r talwr ardrethi, ar yr amod bod y meini prawf ym mharagraff 1 wedi eu bodloni, os yw talwr ardrethi yn ddarostyngedig i ddyled ôl-ddyddiedig nad yw eisoes wedi ei thalu, gytuno i aildrefnu talu'r ddyled sydd wedi cronni yn y cyfnod rhwng y dyddiad y daw'r diwygiad a wneir i'r rhestr ardrethu'n effeithiol a'r dyddiad y gwnaed y diwygiad mewn gwirionedd, dros gyfnod nad yw'n fwy nag wyth mlynedd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 1A, sydd yn caniatáu i awdurdod bilio a'r talwr ardrethi, ar yr amod bod y meini prawf presennol wedi eu bodloni, gytuno bod rhaid i'r ddyled ôl-ddyddiedig, nad yw eisoes wedi ei thalu, gael ei thalu dros gyfnod nad yw'n fwy nag wyth mlynedd. Mae'r diwygiadau yn rhoi'r pŵer i'r talwr ardrethi a'r awdurdod bilio i gytuno bod rhaid i ran-daliadau o daliad y ddyled ôl-ddyddiedig gael eu gohirio tan 1 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny, o fewn y cyfnod o wyth mlynedd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 1A fel y gall cytundeb fod yn gymwys i hysbysiadau galw am dalu a gyflwynwyd o ganlyniad i un neu fwy o newidiadau a wneir i restr, os cyflwynwyd yr hysbysiad o fewn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011, ac sy'n ymestyn dyddiad newid y rhestr berthnasol i 31 Mawrth 2011 neu cyn hynny.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn mewnosod paragraff 2A newydd i Atodlen 1A sy'n caniatáu i dalwr ardrethi ac awdurdod bilio sydd eisoes wedi ymrwymo i gytundeb o dan baragraff 2 cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau i rym, ymrwymo i gytundeb newydd o dan baragraff 2 sy'n disodli'r cytundeb presennol. Caiff y cytundeb newydd ymwneud ag unrhyw ddyled ôl-ddyddiedig a ddylai fod wedi ei thalu o dan y cytundeb presennol, ond sydd heb ei thalu, ond ni chaiff ymwneud ag unrhyw ddyled ôl-ddyddiedig sydd eisoes wedi ei thalu o dan y cytundeb presennol. Rhaid iddynt, fodd bynnag, fod wedi ymrwymo iddo cyn 31 Mawrth 2012 a rhaid i'r cyfnod pan fo'r rhan-daliadau'n cael eu talu beidio â bod yn fwy nag wyth mlynedd o ddiwrnod y cytundeb presennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1989/1058, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/461 (Cy.48); y mae yna offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.