xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mawrth 2011
Yn dod i rym
19 Ebrill 2011
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011 a daw i rym ar 19 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(3); a
(b)mae i “grant ffioedd newydd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2011.
2. Mae'r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 2011(4), wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(5)—
(a)swyddogaethau yn ymwneud â thalu grant ffioedd newydd o dan reoliad 65 o Reoliadau 2011;
(b)swyddogaethau yn ymwneud ag adennill gordalu'r grant ffioedd newydd o dan reoliad 70 o Reoliadau 2011; ac
(c)swyddogaethau yn ymwneud â gwneud cais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2011 a chael yr wybodaeth honno, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant ffioedd newydd.
3. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 2.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 69(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi unrhyw swyddogaethau atodol yn ymwneud â darparu addysg sydd yn eu barn hwy yn briodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu osod y swyddogaethau atodol hynny arno.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau atodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae'r swyddogaethau a roddir gan y Gorchymyn hwn yn swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu harfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sy'n ymwneud â thalu grant ffioedd dysgu i sefydliadau addysg uwch (ac adennill y grant hwnnw) mewn perthynas â myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau addysg uwch dynodedig ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny.
1992 p.13; diwygiwyd adran 89(4) gan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 (p.25), adran 26 ac Atodlen 1, paragraff 11.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 69(5), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) — gweler y cyfeiriad at Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 69(6) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn disgrifio'r amgylchiadau pan fo swyddogaeth yn swyddogaeth atodol o ran y Cyngor Cyllido.
A sefydlwyd gan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.