Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011 a daw i rym ar 19 Ebrill 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(1); a

(b)mae i “grant ffioedd newydd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2011.

Swyddogaethau Atodol

2.  Mae'r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 2011(2), wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(3)

(a)swyddogaethau yn ymwneud â thalu grant ffioedd newydd o dan reoliad 65 o Reoliadau 2011;

(b)swyddogaethau yn ymwneud ag adennill gordalu'r grant ffioedd newydd o dan reoliad 70 o Reoliadau 2011; ac

(c)swyddogaethau yn ymwneud â gwneud cais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2011 a chael yr wybodaeth honno, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant ffioedd newydd.

3.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 2.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2011