Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011 a daw i rym ar 19 Ebrill 2011.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
a
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 20113; a
b
mae i “grant ffioedd newydd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2011.
Swyddogaethau Atodol
2
Mae'r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 20114, wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru5—
a
swyddogaethau yn ymwneud â thalu grant ffioedd newydd o dan reoliad 65 o Reoliadau 2011;
b
swyddogaethau yn ymwneud ag adennill gordalu'r grant ffioedd newydd o dan reoliad 70 o Reoliadau 2011; ac
c
swyddogaethau yn ymwneud â gwneud cais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2011 a chael yr wybodaeth honno, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant ffioedd newydd.
3
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 2.