Datganiad o wybodaeth ynghylch ffioedd19
1
Pan fo awdurdod lleol wedi gwneud yn ofynnol bod D yn talu swm (neu wedi newid swm y taliad) tuag at gost sicrhau darpariaeth o wasanaeth, rhaid iddo ddarparu datganiad i D mewn ysgrifen, ac mewn unrhyw fformat hygyrch arall y gofynnir amdano yn rhesymol gan D.
2
Rhaid i unrhyw ddatganiad a ddarperir gan awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gynnwys y canlynol—
a
disgrifiad o'r gwasanaeth y gwneir yn ofynnol bod D yn talu tuag at sicrhau darpariaeth ohono;
b
manylion ynghylch y swm safonol y mae awdurdod lleol yn gwneud yn ofynnol bod D yn ei dalu tuag at y gost o sicrhau'r gwasanaeth;
c
os nad y swm safonol yw'r swm y gwneir yn ofynnol bod D yn ei dalu, manylion ynghylch swm y taliad gofynnol;
ch
esboniad o'r modd y cyfrifwyd y swm y gwneir yn ofynnol bod D yn ei dalu (gan gynnwys manylion ynghylch unrhyw asesiad modd a ymgymerwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn); a
d
manylion ynghylch hawl D i herio neu gwyno ynghylch swm y taliad, neu eglurder y modd y mynegwyd y datganiad.
3
Rhaid darparu datganiad i D yn unol â'r rheoliad hwn—
a
yn ddi-dâl; a
b
o fewn un diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y gwnaed y penderfyniad i wneud taliad yn ofynnol (neu i'w newid).
4
Yn y Rheoliadau hyn, bydd datganiad, wedi ei “ddarparu” (“provided”) ar y dyddiad y'i dyroddir gan awdurdod lleol.