- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Rhaid i ddefnyddiwr gwasanaeth neu, yn ddarostyngedig i baragraff (3) neu (4), gynrychiolydd defnyddiwr gwasanaeth, ddarparu ymateb i'r awdurdod lleol o fewn 15 diwrnod gwaith (neu ba bynnag gyfnod hwy y caiff awdurdod lleol, yn rhesymol, ei ganiatáu yn unol â rheoliad 9) ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y gwahoddiad.
(2) Mae defnyddiwr gwasanaeth yn cydymffurfio â'r gofyniad a bennir ym mharagraff (1) os yw'r person hwnnw, neu gynrychiolydd y person hwnnw—
(a)yn gofyn am i'r awdurdod lleol gynnal asesiad o'i fodd yn unol ag adran 5(1) o'r Mesur;
(b)yn gofyn am gymorth gan unrhyw gyfleuster ymweliadau cartref a ddarperir, os oes angen cymorth o'r fath;
(c)yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol, yn y fformat y cytunodd yr awdurdod lleol i dderbyn yr wybodaeth ynddo;
(ch)yn darparu'r ddogfennaeth y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod lleol;
(d)yn gofyn am estyniad amser, os oes angen un, er mwyn darparu'r wybodaeth neu'r dogfennaeth (neu'r ddwy) y gofynnwyd amdani neu amdanynt yn unol â rheoliad 7(1)(d), gan roi rheswm neu resymau pam y mae angen estyniad amser.
(3) Pan fo defnyddiwr gwasanaeth wedi penodi cynrychiolydd i weithredu ar ei ran, rhaid i'r defnyddiwr gwasanaeth ddarparu'r canlynol i'r awdurdod lleol —
(a)enw a chyfeiriad y cynrychiolydd,
(b)cadarnhad bod y cynrychiolydd yn fodlon gweithredu ar ei ran,
(c)manylion ynghylch natur a maint cyfranogiad y cynrychiolydd yn y broses o asesu modd, ac
(ch)manylion ynghylch natur a maint yr wybodaeth y caiff yr awdurdod lleol ei rhannu gyda chynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth.
(4) Pan fod cynrychiolydd wedi ei benodi i weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth, gan y Llys Gwarchod neu'n unol â Deddf Atwrneiaeth Barhaus 1985(1) neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(2), rhaid i'r dirprwy neu'r atwrnai a benodir felly ddarparu i'r awdurdod lleol—
(a)y fersiwn wreiddiol neu gopi ardystiedig o'r atwrneiaeth barhaus, neu atwrneiaeth arhosol neu gopi ardystiedig o'r gorchymyn llys priodol, a
(b)dogfennaeth i brofi enw a chyfeiriad yr atwrnai neu ddirprwy a'r defnyddiwr gwasanaeth y mae'n gweithredu ar ei ran.
(5) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, pan fo cynrychiolydd wedi ei benodi yn unol â pharagraff (3) neu (4), mae unrhyw gyfeiriad at ddefnyddiwr gwasanaeth yn y rheoliad hwn neu yn rheoliadau 9 i 13 yn cynnwys cynrychiolydd y person hwnnw.
(6) Caniateir i unrhyw gais a wneir yn unol â pharagraff (2), neu benodiad a wneir yn unol â pharagraff (3), gael ei wneud neu'i gyfleu ar lafar neu mewn ysgrifen gan ddefnyddiwr gwasanaeth, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau gan awdurdod lleol mewn ysgrifen neu mewn unrhyw fformat arall sy'n briodol ar gyfer anghenion cyfathrebu'r defnyddiwr gwasanaeth.
1985 p. 29 (“Deddf 1985”). Disodlwyd Deddf 1985 gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“Deddf 2005”), a disodlwyd atwrneiaeth barhaus yr un pryd gan atwrneiaeth arhosol (ond bydd atwrneiaethau parhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007 yn parhau'n ddilys). Mae Deddf 2005 yn caniatáu i'r Llys Gwarchod benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran personau nad oes “galluedd” ganddynt yn yr ystyr a roddir i “capacity” gan Ddeddf 2005 Act. Bydd dirprwyon (“deputies”) yn cymryd lle “derbynwyr” (“receivers”) (ond bydd unrhyw dderbynnydd a benodwyd cyn 1 Hydref 2007 yn cadw ei bwerau ond yn cael ei drin fel dirprwy gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (sy'n cymryd lle'r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: