Search Legislation

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 8 a 9

ATODLEN 2DEDDFIADAU Y GELLIR GOSOD RHWYMEDIGAETH ODANYNT I DDERBYN GWSANAETHAU PERTHNASOL, Y CANIATEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL MEWN PERTHYNAS Å HWY

Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 8(1)(a) a 9(4)(a) yw—

(a)Rhan 1 o Atodlen 1A i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylltra) 1964(1);

(b)adran 8, 17 neu 17B o Ddeddf 1983 neu adran 40(2) a ddarllenir ar y cyd ag adran 8 o'r Ddeddf honno(2);

(c)adran 57A o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(3) neu Atodlen 4 i'r Ddeddf honno;

(ch)adran 41, 53, 127, 179, 221 neu 224 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (yr Alban) 2003 neu adran 66 a ddarllenir ar y cyd ag adran 64 neu 65 o'r Ddeddf honno(4);

(d)adran 177 neu 189 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(5) i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n destun gofyniad triniaeth iechyd meddwl o fewn yr ystyr a roddir i “mental health treatment requirement” gan adran 207 o'r Ddeddf honno;

(dd)adran 41 neu 51 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(6);

(e)adrannau 228 i 230 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sydd o dan ofyniad i dderbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(7);

(f)adran 22 neu 26 o Ddeddf Carchardai (Yr Alban) 1989 i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(8);

(ff)adran 12 Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (Yr Alban) 1993(9);

(g)adran 37(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 i'r graddau y mae'n ymwneud â pherson sy'n ddarostyngedig i amod ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer ei gyflwr meddyliol(10).

(2)

1983 p.20 (diffinnir “Deddf 1983” yn rheoliad 2). Diwygiwyd adran 8 gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12) (“Deddf 2007”). Diwygiwyd adran 17 gan adran 3(3) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 (p.52) a chan adrannau 9(3) a 33(2) o Ddeddf 2007. Mewnosodwyd adran 17B gan adran 33(2) o Ddeddf 2007.

(3)

1995 p.46. Mewnosodwyd adran 57A gan adran 133 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003. Diwygiwyd adran 57A gan O.S.A. 2005/465. Diwygiwyd Atodlen 4 gan baragraff 21 o Atodlen 1 i Ddeddf Trosedd a Chosb (Yr Alban) 1997 a chan O.S.A. 2005/465.

(4)

2003 dsa 13. Diwygiwyd adrannau 127 a 179 gan O.S.A. 2005/465.

(5)

2003 p.44. Diwygiwyd adran 207 gan O.S. 2009/1182.

(6)

Gweler y troednodyn ar baragraff (ch) o Atodlen 1.

(7)

Gweler y troednodyn ar baragraff (dd) o Atodlen 1.

(8)

Gweler y troednodyn ar baragraff (e) o Atodlen 1.

(9)

1993 p.9. Diddymwyd adran 12 gan Atodlen 5 i Ddeddf Dedfrydau o Garchar ac Arfau (Yr Alban) 2007 (dsa 17) o ddyddiad sydd i'w bennu.

(10)

1991 p.53. Diddymwyd adran 37 gydag arbedion gan Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources