xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(1);
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2);
“ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;
ystyr “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yw—
yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(1) o Ddeddf 1989—
yn achos taliadau uniongyrchol o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gwasanaeth gofal cymunedol o fewn yr ystyr a roddir i “community care service” gan adran 46 o Ddeddf 1990;
mae i “gwasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano” (“chargeable service”) yr ystyr a bennir yn adran 13 o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010(7);
ystyr “P” (“P”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 4, sy'n dod o fewn is-adran (2)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001 ac is-adran (5A)(8) o'r adran honno neu y credir yn rhesymol gan yr awdurdod cyfrifol(9) ei fod yn dod o fewn yr is-adran honno;
ystyr “person rhagnodedig” (“prescribed person”) yw person o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu 5, sy'n dod o fewn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu adran 17A(2) o Ddeddf 1989;
ystyr “S” (“S”) yw'r person addas y cyfeirir ato yn rheoliad 9(1);
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 8 neu 9.
Diwygiwyd adran 46 gan baragraff 14 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) a chan baragraffau 128 a 129 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43).
Gweler adran 17A(2) o Ddeddf Plant 1989 (p.41) am y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”.
Diwygiwyd adran 17 gan adran 7(1) a (2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), gan baragraffau 15 a 16 o Atodlen 3 i Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), gan adran 116(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), gan adran 53(1) o Ddeddf Plant 2004 (p.31), gan baragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (c. 5), gan adran 24 o Ddeddf plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) a chan baragraff 1 o Atodlen 1, paragraffau 1 a 2 o Atodlen 3 a chan Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.
2010 mccc 2. Mae adran 13(2) yn cynnwys y rhestr o wasanaethau y caniateir codi ffioedd amdanynt, sef —
gwasanaeth a ddarperir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (p.29) oni bai bod y gwasanaeth yn un y caniateir ei gwneud yn ofynnol codi tâl amdano o dan adran 22 neu 26 o'r Ddeddf honno;
gwasanaeth a ddarperir o dan adran 45(1) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (p. 46);
gwasanaeth a ddarperir o dan Atodlen 15 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
gwasanaeth a ddarperir o dan baragraff 1 o Ran II o Atodlen 9 i Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41) oni bai bod y gwasanaeth yn un y gall fod taliad yn ofynnol amdano o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;
gwasanaeth a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) oni bai i'r gwasanaeth gael ei ddarparu ar ffurf gofal preswyl.
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r rhestr o wasanaethau a ragnodir gan adran 13(2).
Mewnosodwyd adran 57A o'r Ddeddf gan adran 146(6) o Ddeddf 2008.
Gweler adran 57(2) o'r Ddeddf am y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”.