xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 706 (Cy.109)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

9 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 457(4)(b)(iii) a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio

3.—(1Yn lle rheoliad 4 o Reoliadau 2003 rhodder–

Credydau Treth Rhagnodedig

4.  Rhagnodir Credyd Treth i Blant at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Deddf 1996–

(a)pan fo gan riant C hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio; a

(b)pan fo rhiant C yn cael Treth Credyd i Blant yn rhinwedd dyfarniad sydd wedi ei seilio ar incwm blynyddol nad yw'n uwch na'r swm o £16,190..

(2Ar ôl rheoliad 4 o Reoliadau 2003 mewnosoder—

Credyd Pensiwn y Wladwriaeth

5.  Mae Credyd Pensiwn y Wladwriaeth sy'n daladwy o dan adran 1 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(6) wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf 1996 mewn amgylchiadau pan yw'r rhiant yn derbyn y credyd gwarant..

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

9 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy'n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 er mwyn ychwanegu budd-dal neu lwfans ychwanegol sy'n rhoi'r hawl i blentyn hawlydd gael prydau bwyd a llety am ddim ar daith breswyl.

Mae Credyd Pensiwn y Wladwriaeth wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 cyhyd â bod yr hawlydd yn derbyn y rhan credyd gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhagnodi, at ddibenion adran 457(4)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 1996, pan fo gan riant C hawl i Gredyd Treth i Blant ond nid i Gredyd Treth i Bobl sy'n Gweithio ac mae'n cael Credyd Treth i Blant yn seiliedig ar incwm blynyddol nad yw'n uwch na £16,190, bydd hawl gan C i gael ciniawau ysgol am ddim.

(1)

1996 p.56. Disodlwyd adran 457(4)(b) gan adran 200 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002 a'u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).