RHAN 2DYLETSWYDD I WNEUD TREFNIADAU AR GYFER TRIN AC YMCHWILIO I BRYDERON

Y swyddog cyfrifol7

1

Rhaid i bob corff cyfrifol ddynodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y swyddog cyfrifol, i ymgymryd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am weithredu'r trefniadau o ddydd i ddydd i ymdrin â phryderon yn effeithiol ac mewn modd integredig.

2

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “modd integredig” yw yr ymgymerir â'r broses o drin pryderon, ac, os oes dyletswydd o dan y Rheoliadau i ystyried achosion o atebolrwydd cymwys, adrodd am reoli hawliadau, o dan yr un trefniant llywodraethu.

3

Rhaid i'r swyddog cyfrifol fod—

a

yn achos corff GIG Cymru, yn aelod sy'n swyddog neu'n gyfarwyddwr gweithredol o'r corff hwnnw, fel y bo'n briodol;

b

yn achos unrhyw gorff cyfrifol arall, y person sy'n gweithredu fel prif swyddog gweithredol y corff hwnnw neu, os nad oes un—

i

y person sy'n unig berchennog y corff cyfrifol;

ii

os yw'r corff cyfrifol yn bartneriaeth, partner; neu

iii

mewn unrhyw achos arall, cyfarwyddwr y corff cyfrifol, neu berson sy'n gyfrifol am reoli'r corff cyfrifol.

4

Caniateir i swyddogaethau'r swyddog cyfrifol gael eu cyflawni gan y person hwnnw neu gan unrhyw berson a awdurdodir gan y corff cyfrifol i weithredu ar ran y swyddog cyfrifol, ar yr amod bod y person a awdurdodir felly o dan reolaeth a goruchwyliaeth uniongyrchol y swyddog cyfrifol.