RHAN 7GOFYNIAD AR GYRFF GIG, AC EITHRIO CYRFF GIG CYMRU, I YSTYRIED IAWN, A'R WEITHDREFN SYDD I'W DILYN GAN GORFF GIG CYMRU PAN GAIFF HYSBYSIAD O BRYDER YN UNOL Å DARPARIAETHAU'R RHAN HON

Cyngor cyfreithiol a chyfarwyddo arbenigwyr meddygol

47.—(1Pan fo corff GIG Cymru wedi penderfynu bod atebolrwydd cymwys naill ai'n bodoli, neu y gall fodoli, yn unol â rheoliad 40 a'r Rhan hon, rhaid i'r corff GIG Cymru sicrhau—

(a)bod cyngor cyfreithiol ar gael i berson sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; a

(b)os oes angen cyfarwyddo arbenigwr neu arbenigwyr meddygol, y cyflawnir y cyfarwyddo ar y cyd gan y corff GIG Cymru a'r person a hysbysodd y pryder.

(2Rhaid ceisio cyngor cyfreithiol gan y ffyrmiau cyfreithwyr hynny, yn unig, sydd ag arbenigedd cydnabyddedig ym maes esgeuluster clinigol. Cydnabyddir bod gan ffyrm yr arbenigedd angenrheidiol os oes ganddynt o leiaf un partner neu gyflogai sy'n aelod o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr(1) neu Weithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol(2).

(3Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau y bydd cyngor cyfreithiol di-dâl ar gael i'r person a hysbysodd y pryder mewn perthynas â'r materion canlynol—

(a)cyfarwyddo arbenigwyr meddygol ar y cyd, gan gynnwys ceisio eglurhad gan y cyfryw arbenigwyr ar faterion sy'n codi o'u hadroddiadau;

(b)unrhyw gynnig a wneir yn unol â'r Rhan hon;

(c)unrhyw wrthodiad i wneud cynnig o'r fath; ac

(ch)unrhyw gytundeb setlo a gynigir.

(4Yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau sydd gan gorff GIG Cymru i adennill gwariant o'r fath oddi ar gorff GIG Lloegr, rhaid i gost y cyfryw gyngor cyfreithiol a chostau sy'n codi o gyfarwyddo'r cyfryw arbenigwyr meddygol gael eu dwyn yn gyfan gwbl gan y corff GIG Cymru.

(1)

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX) sy'n arbenigo mewn achosion o esgeuluster clinigol. Mae gan gyfreithwyr a Chymrodyr ILEX hawl i gael eu rhestru fel aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr os ydynt yn gallu dangos, yn unol â gweithdrefn gyhoeddedig Cymdeithas y Cyfreithwyr, fod ganddynt ddigon o arbenigedd mewn materion esgeuluster clinigol.

(2)

Elusen yw Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol (AVMA) a sefydlwyd i hybu diogelwch cleifion. Mae'n rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX). Gall cyfreithwyr a Chymrodyr ILEX sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni meini prawf cyhoeddedig ar gyfer dangos arbenigedd ym maes esgeuluster clinigol ddod yn aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol AVMA.