RHAN 7GOFYNIAD AR GYRFF GIG, AC EITHRIO CYRFF GIG CYMRU, I YSTYRIED IAWN, A'R WEITHDREFN SYDD I'W DILYN GAN GORFF GIG CYMRU PAN GAIFF HYSBYSIAD O BRYDER YN UNOL Å DARPARIAETHAU'R RHAN HON

Cyngor cyfreithiol a chyfarwyddo arbenigwyr meddygol47

1

Pan fo corff GIG Cymru wedi penderfynu bod atebolrwydd cymwys naill ai'n bodoli, neu y gall fodoli, yn unol â rheoliad 40 a'r Rhan hon, rhaid i'r corff GIG Cymru sicrhau—

a

bod cyngor cyfreithiol ar gael i berson sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; a

b

os oes angen cyfarwyddo arbenigwr neu arbenigwyr meddygol, y cyflawnir y cyfarwyddo ar y cyd gan y corff GIG Cymru a'r person a hysbysodd y pryder.

2

Rhaid ceisio cyngor cyfreithiol gan y ffyrmiau cyfreithwyr hynny, yn unig, sydd ag arbenigedd cydnabyddedig ym maes esgeuluster clinigol. Cydnabyddir bod gan ffyrm yr arbenigedd angenrheidiol os oes ganddynt o leiaf un partner neu gyflogai sy'n aelod o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr22 neu Weithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol23.

3

Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau y bydd cyngor cyfreithiol di-dâl ar gael i'r person a hysbysodd y pryder mewn perthynas â'r materion canlynol—

a

cyfarwyddo arbenigwyr meddygol ar y cyd, gan gynnwys ceisio eglurhad gan y cyfryw arbenigwyr ar faterion sy'n codi o'u hadroddiadau;

b

unrhyw gynnig a wneir yn unol â'r Rhan hon;

c

unrhyw wrthodiad i wneud cynnig o'r fath; ac

ch

unrhyw gytundeb setlo a gynigir.

4

Yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau sydd gan gorff GIG Cymru i adennill gwariant o'r fath oddi ar gorff GIG Lloegr, rhaid i gost y cyfryw gyngor cyfreithiol a chostau sy'n codi o gyfarwyddo'r cyfryw arbenigwyr meddygol gael eu dwyn yn gyfan gwbl gan y corff GIG Cymru.