xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 704 (Cy.108)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011

Gwnaed

8 Mawrth 2011

Yn dod i rym yn unol â darpariaethau rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan y darpariaethau a nodir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r offeryn hwn, fel y'u diwygiwyd yn benodol gan y darpariaethau a nodir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 11(6) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011.

(2Daw Rhannau 1 i 6 ac 8 i 10 i rym ar 1 Ebrill 2011 a daw Rhan 7 i rym ar 1 Hydref 2011.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2At ddibenion Rhan 7, ystyr “gwasanaethau cymwys” (“qualifying services”) yw gwasanaethau a ddarperir yn y Deyrnas Unedig fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru (nid yw hyn yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru ac a gomisiynwyd fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon).

(3At ddibenion rheoliad 3 a Rhannau 5 a 6, ystyr “gwasanaethau cymwys” (“qualifying services”) yw gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru (nid yw hyn yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir yng Nghymru ac a gomisiynwyd fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon).

Egwyddorion cyffredinol ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon

3.  Rhaid i unrhyw drefniadau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon fod yn rhai a fydd yn sicrhau—

(a)mai un pwynt cyswllt yn unig a fydd ar gyfer cyflwyno pryderon;

(b)yr ymdrinnir â phryderon yn effeithlon ac agored;

(c)yr ymchwilir i'r pryderon yn gywir;

(ch)y gwneir darpariaeth i ganfod disgwyliadau'r person sy'n hysbysu'r pryder, ac i geisio cynnwys y person hwnnw yn y broses;

(d)bod personau sy'n hysbysu pryderon yn cael eu trin â pharch a chwrteisi;

(dd)bod personau sy'n hysbysu pryderon yn cael—

(i)gwybod bod cymorth ar gael i'w galluogi i fynd â'u pryder ymhellach;

(ii)cyngor, os oes ei angen, ynghylch lle y gallant gael cymorth o'r fath; a

(iii)enw'r person yn y corff cyfrifol perthnasol a fydd yn gweithredu fel eu cyswllt drwy gydol y cyfnod yr ymdrinnir â'u pryder;

(e)rhaid i gorff GIG Cymru ystyried gwneud cynnig o iawn yn unol â Rhan 6 os yw ei ymchwiliad i'r materion a godir gan bryder yn datgelu bod atebolrwydd cymwys;

(f)bod personau sy'n hysbysu pryderon yn cael ymateb prydlon a phriodol;

(ff)bod personau sy'n hysbysu pryderon yn cael gwybod canlyniad yr ymchwiliad;

(g)y gweithredir yn briodol yng ngoleuni canlyniad yr ymchwiliad; ac

(ng)y cymerir i ystyriaeth unrhyw ganllawiau a ddyroddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

RHAN 2DYLETSWYDD I WNEUD TREFNIADAU AR GYFER TRIN AC YMCHWILIO I BRYDERON

Dyletswydd i wneud trefniadau

4.  Rhaid i gorff cyfrifol wneud trefniadau yn unol â'r Rheoliadau hyn ar gyfer trin ac ymchwilio i bryderon (“trefniadau i ymdrin â phryderon”).

Y trefniadau i'w cyhoeddi

5.  Rhaid cyhoeddi'r trefniadau i ymdrin â phryderon mewn amrywiaeth o gyfryngau, fformatau ac ieithoedd, a rhaid rhoi copi yn ddi-dâl i unrhyw berson sy'n gofyn am gopi, yn y fformat y gofynnir amdano.

Goruchwyliaeth strategol o'r trefniadau

6.—(1Rhaid i bob corff cyfrifol ddynodi person i fod yn gyfrifol am gynnal goruchwyliaeth strategol o weithrediad trefniadau'r corff o dan y Rheoliadau hyn, yn benodol er mwyn—

(a)sicrhau bod y corff cyfrifol yn cydymffurfio â'i drefniadau ar gyfer ymdrin â phryderon; a

(b)ymgymryd â'r swyddogaethau a bennir yn Rhan 8.

(2Pan fo'r corff cyfrifol yn gorff GIG Cymru, rhaid i'r person hwn fod yn aelod nad yw'n swyddog neu'n gyfarwyddwr anweithredol y corff dan sylw, fel y bo'n briodol.

Y swyddog cyfrifol

7.—(1Rhaid i bob corff cyfrifol ddynodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y swyddog cyfrifol, i ymgymryd â'r cyfrifoldeb cyffredinol am weithredu'r trefniadau o ddydd i ddydd i ymdrin â phryderon yn effeithiol ac mewn modd integredig.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “modd integredig” yw yr ymgymerir â'r broses o drin pryderon, ac, os oes dyletswydd o dan y Rheoliadau i ystyried achosion o atebolrwydd cymwys, adrodd am reoli hawliadau, o dan yr un trefniant llywodraethu.

(3Rhaid i'r swyddog cyfrifol fod—

(a)yn achos corff GIG Cymru, yn aelod sy'n swyddog neu'n gyfarwyddwr gweithredol o'r corff hwnnw, fel y bo'n briodol;

(b)yn achos unrhyw gorff cyfrifol arall, y person sy'n gweithredu fel prif swyddog gweithredol y corff hwnnw neu, os nad oes un—

(i)y person sy'n unig berchennog y corff cyfrifol;

(ii)os yw'r corff cyfrifol yn bartneriaeth, partner; neu

(iii)mewn unrhyw achos arall, cyfarwyddwr y corff cyfrifol, neu berson sy'n gyfrifol am reoli'r corff cyfrifol.

(4Caniateir i swyddogaethau'r swyddog cyfrifol gael eu cyflawni gan y person hwnnw neu gan unrhyw berson a awdurdodir gan y corff cyfrifol i weithredu ar ran y swyddog cyfrifol, ar yr amod bod y person a awdurdodir felly o dan reolaeth a goruchwyliaeth uniongyrchol y swyddog cyfrifol.

Yr uwch-reolwr ymchwiliadau

8.—(1Rhaid i bob corff cyfrifol ddynodi o leiaf un person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel uwch-reolwr ymchwiliadau, i ymgymryd â'r cyfrifoldeb am drin ac ystyried pryderon a hysbysir yn unol â'r trefniadau ar gyfer trin pryderon, ac yn benodol—

(a)cyflawni swyddogaethau uwch-reolwr ymchwiliadau o dan y trefniadau i ymdrin â phryderon;

(b)cyflawni pa bynnag swyddogaethau eraill ynglŷn â thrin ac ystyried pryderon ag y bo'n ofynnol gan y corff cyfrifol; ac

(c)cydweithredu â pha bynnag bersonau neu gyrff eraill ag y bo'n angenrheidiol, i hwyluso trin ac ystyried pryderon.

(2Rhaid i'r corff cyfrifol sicrhau bod gan yr uwch-reolwr ymchwiliadau a benodir ganddo staff sy'n ddigonol o ran nifer a lefel ofynnol o gyfrifoldeb i'w gynorthwyo i gyflawni ei swyddogaethau, a bod y cyfryw aelodau o'r staff yn cael hyfforddiant digonol i'w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y trefniadau ar gyfer ymdrin â phryderon.

(3Caniateir i swyddogaethau uwch-reolwr ymchwiliadau o dan baragraff (1) gael eu cyflawni ganddo yn bersonol neu gan berson neu bersonau a awdurdodir gan y corff cyfrifol i weithredu ar ran yr uwch-reolwr ymchwiliadau.

(4Caniateir i swyddogaethau uwch-reolwr ymchwiliadau gael eu cyflawni gan yr uwch-reolwr ymchwiliadau a ddynodwyd gan gorff cyfrifol arall o dan baragraff (1).

Gwybodaeth a hyfforddiant i'r staff

9.  Rhaid i bob corff cyfrifol sicrhau bod ei staff yn cael gwybodaeth a hyfforddiant priodol ynglŷn â gweithredu'r trefniadau ar gyfer adrodd, trin ac ymchwilio i bryderon.

RHAN 3NATUR A CHWMPAS Y TREFNIADAU AR GYFER TRIN PRYDERON

Gofyniad i ystyried pryderon

10.  Yn ddarostyngedig i reoliad 14, rhaid i gorff cyfrifol drin pryder yn unol â'r trefniadau ar gyfer ymdrin â phryderon a bennir yn y Rheoliadau hyn os hysbysir y pryder ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011—

(a)yn unol â rheoliad 11;

(b)gan berson fel a bennir yn unol â rheoliad 12;

(c)ynghylch mater a bennir yn rheoliad 13; ac

(ch)o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 15.

Hysbysu pryderon

11.—(1Caniateir hysbysu pryder—

(a)mewn ysgrifen;

(b)yn electronig; neu

(c)ar lafar, naill ai dros y teleffon neu'n bersonol, i unrhyw aelod o staff y corff cyfrifol y mae arfer ei swyddogaethau yn destun y pryder.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 14(1)(dd) pan hysbysir pryder ar lafar, rhaid i'r aelod o staff y corff cyfrifol yr hysbysir y pryder iddo—

(a)wneud cofnod ysgrifenedig o'r pryder; a

(b)darparu copi o'r cofnod ysgrifenedig i'r person a hysbysodd y pryder.

Personau y caniateir iddynt hysbysu pryderon

12.—(1Caiff y canlynol hysbysu pryder—

(a)person sy'n cael, neu sydd wedi cael, gwasanaethau gan gorff cyfrifol, ynglŷn â'r gwasanaethau a gaiff neu y bu'n eu cael;

(b)unrhyw berson yr effeithir arno, neu y bo'n debygol yr effeithir arno, gan weithred, anwaith neu benderfyniad corff cyfrifol y mae arfer ei swyddogaethau'n destun y pryder;

(c)aelod nad yw'n swyddog neu gyfarwyddwr anweithredol corff cyfrifol;

(ch)aelod o staff corff cyfrifol; neu

(d)partner mewn corff cyfrifol.

(2Caiff person (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel cynrychiolydd) hysbysu pryder os yw'n gweithredu ar ran person a grybwyllir ym mharagraff (1)—

(a)a fu farw;

(b)sy'n blentyn;

(c)sy'n analluog i hysbysu'r pryder ei hunan oherwydd diffyg galluedd, yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(9); neu

(ch)sydd wedi gofyn i'r cynrychiolydd weithredu ar ei ran.

(3Pan fo cynrychiolydd yn hysbysu pryder ar ran plentyn, rhaid i'r corff cyfrifol yr hysbyswyd y pryder iddo—

(a)peidio ag ystyried y pryder oni fodlonir y corff cyfrifol bod sail ddigonol dros hysbysu'r pryder gan gynrychiolydd yn hytrach na chan y plentyn; a

(b)os na fodlonir ef felly, rhaid iddo hysbysu'r cynrychiolydd mewn ysgrifen, gan nodi'r rheswm dros ei benderfyniad.

(4Pan hysbysir pryder gan blentyn, rhaid i'r corff cyfrifol ddarparu pa bynnag gymorth i'r plentyn ag y bydd ei angen ar y plentyn yn rhesymol, er mwyn mynd ymlaen â'r pryder.

(5Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo cynrychiolydd yn hysbysu pryder ar ran—

(i)plentyn; neu

(ii)person sydd â diffyg galluedd, yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005; a

(b)pan fo'r corff cyfrifol, yr hysbyswyd y pryder iddo, wedi ei fodloni bod sail resymol dros ddod i'r casgliad nad yw'r cynrychiolydd yn berson addas i weithredu fel cynrychiolydd, neu nad yw'n bwrw ymlaen â'r pryder er budd gorau'r person yr hysbyswyd y pryder ar ei ran.

(6Pan fo paragraff (5) yn gymwys—

(a)ac eithrio pan fo is-baragraff (6)(b) hefyd yn gymwys, caniateir peidio ag ystyried y pryder, neu beidio â'i ystyried ymhellach, yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid i'r corff cyfrifol hysbysu'r cynrychiolydd mewn ysgrifen, gan nodi'r rheswm am y penderfyniad;

(b)os yw'r corff cyfrifol wedi ei fodloni bod gwneud hynny'n angenrheidiol, caiff barhau i ymchwilio i unrhyw fater a godir gan y pryder a hysbyswyd yn unol â pharagraff (5), ond o dan yr amgylchiadau hynny, nid oes unrhyw rwymedigaeth arno i ddarparu ymateb yn unol â rheoliad 24 onid yw o'r farn y byddai'n rhesymol gwneud hynny.

(7Ac eithrio pan fo paragraff (8) yn gymwys, os hysbysir pryder gan aelod o staff y corff cyfrifol ac os yw ymchwiliad dechreuol y corff cyfrifol yn canfod bod niwed cymedrol neu ddifrifol neu farwolaeth wedi digwydd, rhaid i'r corff cyfrifol hysbysu'r claf y mae'r pryder yn gysylltiedig ag ef, neu ei gynrychiolydd, o'r hysbysiad o bryder, a chynnwys y claf, neu ei gynrychiolydd, yn yr ymchwiliad i'r pryder yn unol â Rhan 5.

(8Os, ym marn y corff cyfrifol, na fyddai er budd y claf pe rhoddid gwybod i'r claf am y pryder, neu pe cynhwysid y claf yn yr ymchwiliad i'r pryder, rhaid i'r corff cyfrifol—

(a)gwneud cofnod ysgrifenedig o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto; a

(b)cadw'r penderfyniad hwnnw dan arolwg yn ystod yr ymchwiliad i'r pryder.

(9Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at berson sy'n hysbysu pryder neu'n ceisio iawn yn cynnwys cyfeiriad at gynrychiolydd y person hwnnw.

Materion y caniateir hysbysu pryderon yn eu cylch

13.  Caniateir hysbysu pryder yn unol â'r Rheoliadau hyn—

(a)wrth gorff GIG Cymru ynglŷn ag unrhyw fater sy'n gysylltiedig ag arfer ei swyddogaethau;

(b)wrth ddarparwr gofal sylfaenol ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau ganddo o dan gontract neu drefniadau gyda chorff GIG Cymru;

(c)wrth ddarparwr annibynnol ynglŷn â'r ddarpariaeth o wasanaethau ganddo o dan drefniadau gyda chorff GIG Cymru; neu

(ch)ar yr amod y bodlonir y gofynion a bennir yn rheoliad 18, i Fwrdd Iechyd Lleol ynghylch unrhyw fater sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth o wasanaethau gan ddarparwr gofal sylfaenol o dan gontract neu drefniadau gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol.

Materion a phryderon a eithrir rhag eu hystyried o dan y trefniadau

14.—(1Mae'r canlynol yn faterion a phryderon sydd wedi eu heithrio o briod faes y trefniadau sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn—

(a)pryder a hysbysir gan ddarparwr gofal sylfaenol, sy'n ymwneud â'r contract neu'r trefniadau y mae'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol odano neu odanynt;

(b)pryder a hysbysir gan aelod o staff corff cyfrifol ynghylch unrhyw fater sy'n ymwneud â chontract cyflogaeth y person hwnnw;

(c)pryder sydd neu a fu'n destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru(10);

(ch)pryder sy'n codi o fethiant honedig gan gorff cyfrifol i gydymffurfio â chais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(11);

(d)achos disgyblu y mae corff cyfrifol yn ei ddwyn, neu'n bwriadu ei ddwyn, sy'n ganlyniad, neu sy'n tarddu o, ymchwiliad i bryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau i ymdrin â phryderon a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;

(dd)pryder a hysbysir ar lafar, naill ai'n bersonol neu dros y teleffon, ac a ddatrysir er boddhad i'r person a hysbysodd y pryder, ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y hysbyswyd y pryder;

(e)pryder sydd â'r un testun â phryder a hysbyswyd yn flaenorol, ac a ddatryswyd yn unol ag is-baragraff (dd), oni fydd y corff cyfrifol o'r farn y byddai'n rhesymol ailagor ystyriaeth o'r pryder hwnnw a chynnal ymchwiliad yn unol â Rhan 5;

(f)pryder yr ystyriwyd ei destun eisoes yn unol â threfniadau a wnaed o dan—

(i)y Rheoliadau hyn; neu

(ii)unrhyw weithdrefn gwynion berthnasol mewn cysylltiad â chwyn a wnaed cyn 1 Ebrill 2011;

(ff)pryder y mae ei destun, neu y daw ei destun, yn destun achos sifil; neu

(g)pryder y mae ei destun, neu y daw ei destun, yn bryder mewn perthynas â chais am driniaeth i glaf unigol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo pryder neu fater yn bryder neu fater a bennir ym mharagraff (1), a chorff cyfrifol yn gwneud penderfyniad i'r perwyl hwnnw, rhaid i'r corff cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu fater o'i benderfyniad, mewn ysgrifen, gan roi'r rheswm dros y penderfyniad.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fater a bennir yn is-baragraff (dd) o baragraff (1).

(4Pan fo mater a bennir ym mharagraff (1) yn rhan o fater arall nas pennir felly, neu'n gysylltiedig â mater arall o'r fath, nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n rhwystro'r mater arall hwnnw rhag cael ei ystyried fel pryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn.

Terfyn amser ar gyfer hysbysu pryderon

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid hysbysu pryder ddim hwyrach na deuddeng mis ar ôl—

(a)y dyddiad y digwyddodd y mater sy'n destun y pryder; neu

(b)os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y daeth y mater sy'n destun y pryder i sylw'r person sy'n hysbysu'r pryder.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd y terfyn amser ym mharagraff (1) yn gymwys os bodlonir y corff cyfrifol—

(a)bod gan y person sy'n hysbysu'r pryder resymau da dros beidio â hysbysu'r pryder o fewn y terfyn amser hwnnw; a

(b)er gwaethaf yr oedi, bod modd o hyd ymchwilio i'r pryder yn effeithiol a theg.

(3Ni chaniateir hysbysu pryder ar ôl cyfnod o dair blynedd neu ragor ar ôl dyddiad y digwyddiad sy'n destun y pryder, neu, os yw'n yn ddiweddarach, cyfnod o dair blynedd neu ragor ar ôl i'r mater sy'n destun y pryder ddod i sylw'r claf.

(4Mewn perthynas â pharagraffau (1) a (2), mae cyfeiriad at y dyddiad y daeth y mater sy'n destun y pryder i sylw'r person sy'n hysbysu'r pryder, pan fo'r claf wedi dewis cael cynrychiolydd i weithredu ar ei ran yn unol â rheoliad 12(2)(ch), yn gyfeiriad at y dyddiad y daeth y mater i sylw'r claf, ac nid y dyddiad y daeth i sylw'r cynrychiolydd sy'n hysbysu'r pryder ar ran y claf.

Tynnu pryderon yn ôl

16.—(1Caiff y person a hysbysodd bryder dynnu'r pryder yn ôl ar unrhyw adeg, a chaiff wneud hynny—

(a)mewn ysgrifen;

(b)yn electronig; neu

(c)ar lafar, naill ai dros y teleffon neu'n bersonol.

(2Rhaid i'r corff cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ysgrifennu at y person a dynnodd y pryder yn ôl ar lafar i gadarnhau bod y pryder wedi ei dynnu yn ôl ar lafar.

(3Pan fo pryder wedi ei dynnu yn ôl, caiff corff cyfrifol barhau, er gwaethaf hynny, i ymchwilio yn unol â Rhan 5 i unrhyw faterion a godwyd gan bryder, os yw'r corff cyfrifol o'r farn bod angen gwneud hynny.

RHAN 4PRYDERON SY'N YMWNEUD Å CHYRFF CYFRIFOL ERAILL

Pryderon sy'n ymwneud â mwy nag un corff cyfrifol

17.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos—

(a)pan fo'r person sy'n hysbysu pryder wedi codi materion sy'n ymwneud â'r modd yr arferir swyddogaethau mwy nag un corff cyfrifol; neu

(b)pan yw'n ymddangos i gorff cyfrifol (“y corff cyntaf”) bod, neu y gall fod, pryder a hysbyswyd iddo yn bryder sy'n ymwneud ag arfer swyddogaethau corff cyfrifol arall (“yr ail gorff”).

(2Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, os yw'r pryder wedi ei hysbysu gan glaf neu, yn unol â rheoliad 12, gan gynrychiolydd y claf, rhaid i'r corff cyntaf—

(a)o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl cael y hysbysiad o bryder, gofyn am ganiatâd y person a hysbysodd y pryder i hysbysu'r ail gorff neu gyrff sy'n gysylltiedig; a

(b)hysbysu'r ail gorff neu gyrff sy'n gysylltiedig o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl cael y caniatâd a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Rhaid i'r corff cyntaf a'r ail gorff neu gyrff gydweithredu at y diben o—

(a)cydgysylltu'r gwaith o drin ac ystyried y pryder; a

(b)sicrhau bod y person a hysbysodd y pryder yn cael ymateb cydgysylltiedig i'r pryder neu bryderon a hysbyswyd ganddo.

(4Mae'r ddyletswydd i gydweithredu o dan baragraff (3) yn cynnwys, yn benodol, dyletswydd ar bob corff—

(a)i geisio cytuno ar ba un o'r cyrff cysylltiedig a ddylai arwain o ran—

(i)cydgysylltu'r gwaith o drin ac ystyried y pryder; a

(ii)cyfathrebu â'r person a hysbysodd y pryder;

(b)ar yr amod y caniateir y caniatadau priodol, i ddarparu gwybodaeth berthnasol i'r corff neu gyrff eraill ar gyfer trin ac ystyried y pryder, pan fo corff arall yn gofyn yn rhesymol am yr wybodaeth; ac

(c)i sicrhau y caiff ei gynrychioli mewn unrhyw gyfarfod y gofynnir amdano yn rhesymol mewn cysylltiad â thrin ac ystyried y pryder.

Pryderon sy'n ymwneud â darparwyr gofal sylfaenol

18.  Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 19, 20 a 21 yn gymwys i bryder—

(a)a hysbysir i Fwrdd Iechyd Lleol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011 yn unol â threfniadau i ymdrin â phryderon, a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;

(b)ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwr gofal sylfaenol o dan gontract neu drefniadau gyda Bwrdd Iechyd Lleol; ac

(c)nad yw wedi ei eithrio yn unol â rheoliad 14 rhag ei ystyried.

Camau sydd i'w cymryd pan hysbysir pryder i Fwrdd Iechyd Lleol ynghylch gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwr gofal sylfaenol

19.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad o bryder gan neu ar ran person sy'n cael neu sydd wedi cael gwasanaethau gan ddarparwr gofal sylfaenol, rhaid iddo benderfynu a yw'r pryder, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, yn un priodol i'r Bwrdd Iechyd Lleol ei ystyried, ynteu a fyddai'n fwy priodol iddo gael ei ystyried gan y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder.

(2Cyn gwneud penderfyniad rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ganfod gan y person a hysbysodd y pryder—

(a)pa un a ystyriwyd y pryder gan y darparwr gofal sylfaenol ai peidio, ac os do, pa un a ddyroddwyd ymateb gan y darparwr yn unol â rheoliad 24; a

(b)pa un a yw'r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd ai peidio ag anfon manylion o'r pryder at y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder.

(3Os dyroddwyd ymateb gan y darparwr gofal sylfaenol yn unol â rheoliad 24, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y pryder.

(4Os nad yw'r person sy'n hysbysu'r pryder yn rhoi caniatâd i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon manylion o'r pryder at y darparwr gofal sylfaenol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ymchwilio i'r pryder, oni fyddai hysbysu'r darparwr gofal sylfaenol o'r pryder, ym marn resymol y Bwrdd Iechyd Lleol, yn rhagfarnu ei ystyriaeth o'r pryder.

Camau sydd i'w cymryd pan hysbysir pryder i Fwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol

20.—(1Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad o bryder gan ddarparwr gofal sylfaenol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu a yw'r pryder, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, yn un priodol i'r Bwrdd Iechyd Lleol ei ystyried, ynteu a fyddai'n fwy priodol i'r pryder gael ei ystyried gan y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder.

(2Cyn gwneud penderfyniad rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)canfod a yw'r pryder wedi ei ystyried gan y darparwr gofal sylfaenol ai peidio, ac os ydyw, a ddyroddwyd ymateb gan y darparwr yn unol â rheoliad 24; a

(b)canfod a yw'r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd i'r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y pryder ai peidio, os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu, yn unol â pharagraff (2), y byddai'n briodol i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud hynny.

(3Os dyroddwyd ymateb gan y darparwr yn unol â rheoliad 24, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y pryder.

(4Os nad yw'r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd i'r Bwrdd Iechyd Lleol ymdrin â'r pryder, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y pryder.

Hysbysu ynghylch penderfyniadau a wneir gan Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliadau 19 a 20

21.—(1Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 19(1) neu 20(1) ei fod yn briodol iddo ymdrin â phryder, rhaid iddo—

(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder a'r darparwr gofal sylfaenol o'i benderfyniad; a

(b)parhau i ymdrin â'r pryder yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 19(1) neu 20(1) y byddai'n fwy priodol i'r darparwr gofal sylfaenol ymdrin â'r pryder, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person a hysbysodd y pryder a'r darparwr gofal sylfaenol o'i benderfyniad.

(3Pan fo'r darparwr gofal sylfaenol yn cael yr hysbysiad o'r penderfyniad a ddyroddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2)—

(a)rhaid i'r darparwr gofal sylfaenol ymdrin â'r pryder yn unol â'r Rheoliadau hyn; a

(b)ystyrir bod y person a hysbysodd y pryder wedi hysbysu'r pryder i'r darparwr gofal sylfaenol yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(4Y terfyn amser ar gyfer hysbysu ynghylch penderfyniad a wneir o dan reoliad 19(1) neu 20(1) yw pum niwrnod gwaith ar ôl i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu'r materion a amlinellir yn rheoliad 19(2) neu 20(2).

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi rhesymau am ei benderfyniad o dan reoliad 19(1) neu 20(1).

(6Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi cael hysbysiad o bryder gan neu ar ran person sy'n cael neu sydd wedi cael gwasanaethau gan ddarparwr gofal sylfaenol, a'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y byddai'n fwy priodol i'r pryder gael ei drin gan y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'i hawl i hysbysu pryder ynghylch penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(7Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â hysbysu'r darparwr gofal sylfaenol ei fod yn ymchwilio i bryder yn unol â'r Rheoliadau hyn pan fo rheoliad 19(4) yn gymwys.

RHAN 5TRIN AC YMCHWILIO I BRYDERON

Y weithdrefn cyn ymchwilio

22.—(1Ac eithrio pan fo rheoliad 14(1)(dd) neu 18 yn gymwys, rhaid i gorff cyfrifol gydnabod ei fod wedi cael yr hysbysiad o'r pryder, ddim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae'n ei gael.

(2Caniateir cydnabod naill ai mewn ysgrifen neu'n electronig, yn ôl pa bynnag ddull a ddefnyddiwyd i hysbysu'r pryder.

(3Os hysbyswyd y pryder ar lafar, rhaid cydnabod mewn ysgrifen.

(4Yr un pryd ag y bo'n cydnabod yr hysbysiad o bryder, rhaid i'r corff cyfrifol gynnig trafod gyda'r person a hysbysodd y pryder, ar adeg sydd i'w chytuno gyda'r person hwnnw, y materion canlynol—

(a)y modd yr ymdrinnir ag ymchwilio i'r pryder, gan gynnwys caniatâd i ddefnyddio cofnodion meddygol;

(b)argaeledd gwasanaethau eiriolaeth a chefnogaeth, a allai fod o gymorth i'r person hwnnw wrth fwrw ymlaen â'r pryder;

(c)o fewn pa gyfnod y mae'n debygol—

(i)y cwblheir yr ymchwiliad i'r pryder; a

(ii)yr anfonir yr ymateb at y person, fel sy'n ofynnol o dan reoliad 24.

(5Os nad yw'r person a hysbysodd y pryder yn derbyn y cynnig o drafodaeth o dan baragraff (4), rhaid i'r corff cyfrifol ystyried a phenderfynu ar y materion a bennir yn is-baragraffau (a) i (c) o'r paragraff hwnnw, ac ysgrifennu at y person ynglŷn â hynny.

(6Rhaid i'r corff cyfrifol anfon copi o'r hysbysiad o bryder at unrhyw berson sy'n destun y pryder hwnnw, ac eithrio—

(a)pan fo hynny wedi ei wneud eisoes; neu

(b)os byddai darparu copi o'r hysbysiad i'r cyfryw berson ar yr adeg honno, ym marn resymol y corff cyfrifol, yn rhagfarnu ystyriaeth gan y corff cyfrifol o'r materion a godir gan y pryder.

Ymchwilio i bryderon

23.—(1Rhaid i gorff cyfrifol ymchwilio i'r materion a godir mewn hysbysiad o bryder yn y dull sy'n ymddangos i'r corff hwnnw fel y dull mwyaf priodol er mwyn dod i gasgliad ynglŷn â'r materion hynny yn drwyadl, cyflym ac effeithlon, gan roi sylw penodol i'r canlynol—

(a)cynnal asesiad dechreuol o'r pryder, a fydd yn gymorth i benderfynu ar ddyfnder a pharamedrau'r ymchwiliad a fydd yn ofynnol, a chadw'r penderfyniad hwnnw dan arolwg;

(b)dull ac amseriad y cyfathrebu â'r person a hysbysodd y pryder, neu yr effeithir arno gan y pryder;

(c)y dull mwyaf priodol o gynnwys y person a hysbysodd y pryder yn yr ymchwiliad, gan gynnwys trafodaeth ynghylch y modd y caiff yr ymchwiliad ei gynnal;

(ch)y lefel a'r math o gymorth a fydd yn ofynnol gan unrhyw aelod neu aelodau o staff y corff cyfrifol a fydd yn ymwneud â'r materion a godir gan y pryder;

(d)a fydd angen cyngor meddygol annibynnol neu gyngor annibynnol arall ar y person a fydd yn ymchwilio i'r materion a godir gan y pryder;

(dd)a yw'r pryder yn un y gellir ei ddatrys drwy ddefnyddio dull amgen o ddatrys anghydfod;

(e)gwneud penderfyniadau ynghylch achos sylfaenol y materion a arweiniodd at hysbysu'r pryder;

(f)unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau'r corff cyfrifol; ac

(ff)pan fo'r corff cyfrifol yn gorff GIG Cymru a'r pryder a hysbyswyd yn cynnwys honiad bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi—

(i)y tebygolrwydd o unrhyw atebolrwydd cymwys;

(ii)y ddyletswydd i ystyried iawn yn unol â rheoliad 25; a

(iii)pan fo'n briodol, ystyried y gofynion ychwanegol a bennir yn Rhan 6.

(2Pan fo pryder wedi ei hysbysu i Fwrdd Iechyd Lleol gan neu ynghylch darparwr gofal sylfaenol yn unol â rheoliad 13(1)(ch) a rheoliad 18, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y materion ym mharagraff (1)(ff).

Ymateb

24.—(1Ac eithrio pan fo rheoliad 26 yn gymwys a chorff cyfrifol sy'n gorff GIG Cymru yn paratoi adroddiad interim yn unol â'r rheoliad hwnnw, rhaid i gorff cyfrifol baratoi ymateb ysgrifenedig i'r mater neu faterion a godir mewn hysbysiad o bryder a fu'n destun ymchwiliad yn unol â threfniadau ar gyfer ymdrin â phryderon o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid i'r ymateb hwnnw—

(a)crynhoi natur a sylwedd y mater neu faterion a godwyd yn y pryder;

(b)disgrifio'r ymchwiliad a gynhaliwyd yn unol â rheoliad 23;

(c)cynnwys copïau o unrhyw farn arbenigol a gafodd y person a fu'n ymchwilio i'r pryder yn ystod yr ymchwiliad;

(ch)cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol, pan fo hynny'n briodol;

(d)pan fo'n briodol, cynnwys ymddiheuriad;

(dd)nodi sut y gweithredir, os bydd gweithredu, yng ngoleuni canlyniad yr ymchwiliad;

(e)cynnwys manylion am yr hawl i hysbysu pryder i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

(f)cynnig cyfle i'r person a hysbysodd y pryder drafod cynnwys yr ymateb gyda'r swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran; ac

(ff)cael ei lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.

(2Mewn perthynas â phryder sy'n cynnwys honiad bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi, rhaid i gorff cyfrifol sy'n gorff GIG Cymru, os yw o'r farn nad oes atebolrwydd cymwys, roi rhesymau am y penderfyniad hwnnw yn yr ymateb.

(3Rhaid i gorff cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i anfon ymateb at y person a hysbysodd y pryder o fewn cyfnod o ddeg ar hugain o ddiwrnodau gwaith sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad o bryder.

(4Os yw corff cyfrifol yn analluog i ddarparu ymateb o fewn deg ar hugain o ddiwrnodau gwaith yn unol â pharagraff (3), rhaid iddo—

(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o hynny, gan esbonio'r rheswm; a

(b)anfon yr ymateb cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o fewn cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd y corff cyfrifol yr hysbysiad o bryder.

(5Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o chwe mis ym mharagraff (4)(b), rhaid i'r corff cyfrifol hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl ymateb.

RHAN 6IAWN

Dyletswydd i ystyried iawn

25.—(1Pan fo corff cyfrifol sy'n gorff GIG Cymru yn ymgymryd ag ymchwiliad i bryder yn unol â rheoliad 23, a'r corff GIG Cymru hwnnw yn penderfynu bod, neu y gallai fod atebolrwydd cymwys, rhaid iddo benderfynu, yn unol â darpariaethau'r Rhan hon, pa un a ddylid cynnig iawn i'r claf ai peidio.

(2Caiff corff GIG Cymru wneud cynnig o iawn os cadarnheir, yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, bod atebolrwydd cymwys yn bodoli.

Ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 23 pan benderfynir bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys

26.—(1Pan fo corff GIG Cymru, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan reoliad 23, o'r farn bod neu y gall fod, atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru hwnnw baratoi adroddiad interim, sydd—

(a)yn crynhoi natur a sylwedd y mater neu'r materion a hysbyswyd yn y pryder;

(b)yn disgrifio'r ymchwiliad a ymgymerwyd yn unol â rheoliad 23;

(c)yn disgrifio pam, ym marn y corff GIG Cymru, y mae neu y gall fod atebolrwydd cymwys;

(ch)yn cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol;

(d)yn esbonio bod mynediad at gyngor cyfreithiol ar gael yn ddi-dâl yn unol â darpariaethau rheoliad 32;

(dd)yn esbonio bod gwasanaethau eiriolaeth a chefnogaeth ar gael, a allai fod o gymorth;

(e)yn esbonio'r weithdrefn a ddilynir er mwyn penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio, a'r weithdrefn ar gyfer cynnig iawn os canfyddir bod atebolrwydd cymwys o'r fath yn bodoli;

(f)yn cadarnhau y rhoddir ar gael gopi o adroddiad yr ymchwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 31, pan baratoir ef, yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwnnw i'r person sy'n ceisio iawn;

(ff)yn cynnwys manylion am yr hawl i hysbysu pryder i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

(g)yn cynnig cyfle i'r person sy'n ceisio iawn drafod cynnwys yr adroddiad interim gyda'r swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran; ac

(ng)wedi ei lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.

(2Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff GIG Cymru gymryd pob cam rhesymol i anfon adroddiad interim at y person a hysbysodd y pryder o fewn cyfnod o ddeg ar hugain o ddiwrnodau gwaith sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd y hysbysiad o bryder.

(3Os na all corff GIG Cymru ddarparu adroddiad interim yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo—

(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o hynny, gan esbonio'r rheswm; a

(b)anfon yr adroddiad interim cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o fewn cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad o bryder.

(4Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o chwe mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael yr adroddiad interim.

(5Rhaid darparu adroddiad yr ymchwiliad, y cyfeirir ato yn rheoliad 31, i'r person a hysbysodd y pryder neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a hynny ddim hwyrach na deuddeng mis ar ôl y dyddiad y cafodd y corff GIG Cymru yr hysbysiad o bryder.

(6Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael adroddiad yr ymchwiliad.

Ffurf o iawn

27.—(1Mae iawn o dan y Rhan hon yn cynnwys—

(a)gwneud cynnig o ddigollediad i fodloni unrhyw hawl i ddwyn achos sifil mewn perthynas ag atebolrwydd cymwys;

(b)rhoi esboniad;

(c)gwneud ymddiheuriad ysgrifenedig; ac

(ch)rhoi adroddiad ar y modd y gweithredwyd, neu y gweithredir yn y dyfodol, i rwystro achosion cyffelyb rhag digwydd eto.

(2Caiff yr iawn y caniateir ei gynnig yn unol â rheoliad 27(1)(a) fod ar ffurf ymuno mewn contract i ddarparu gofal neu driniaeth neu ar ffurf digollediad ariannol, neu'r ddau.

Argaeledd iawn

28.—(1Nid oes iawn ar gael mewn perthynas ag atebolrwydd sydd, neu a fu, yn destun achos sifil.

(2Os cychwynnir achos sifil o'r fath yn ystod ystyriaeth o iawn gan gorff GIG Cymru, rhaid terfynu'r ystyriaeth o iawn gan y corff GIG Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder, yn unol â hynny.

Iawn — digollediad ariannol

29.—(1Caiff corff GIG Cymru wneud cynnig o iawn am atebolrwydd cymwys ar ffurf digollediad ariannol pan nad yw'r swm yn fwy nag £25,000.

(2Pan fo corff GIG Cymru o'r farn bod y gwerth sydd i'w briodoli i'r atebolrwydd cymwys yn fwy na £25,000, rhaid peidio â chynnig iawn ar ffurf digollediad ariannol yn unol â'r Rhan hon.

(3Os yw corff GIG Cymru, yn unol â pharagraff (2), o'r farn yr eir dros ben y terfyn ariannol a bennir gan y Rheoliadau hyn, ac os daw'r ymchwiliad a gynhelir gan y corff GIG Cymru i'r casgliad bod atebolrwydd cymwys, caiff y corff GIG Cymru ystyried gwneud cynnig o setliad y tu allan i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(4Cyfrifir yr iawndal am boen, dioddefaint a cholled amwynder ar sail y gyfraith gyffredin. Caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd, ddyroddi tariff digolledu.

(5Os dyroddir tariff yn unol â pharagraff (4), mae cyrff GIG Cymru i'w ddefnyddio at ddibenion canllaw wrth ystyried swm y digollediad ariannol sydd i'w gynnig yn unol â'r Rhan hon.

Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad

30.—(1Yn ystod y cyfnod pan fo atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y Rhan hon, atelir unrhyw gyfnod cyfyngiad ar gyfer dwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw, a ragnodir gan neu o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980(12) neu unrhyw ddeddfiad arall, ac ni fydd amser yn treiglo at ddibenion cyfrifo unrhyw derfynau amser a ragnodir gan y deddfiadau hynny.

(2At ddibenion y Rhan hon, ystyrir bod atebolrwydd yn destun cais am iawn am gyfnod—

(a)sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y cafodd y corff GIG Cymru yr hysbysiad o bryder dechreuol a ddaeth yn gais am iawn; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), sy'n parhau hyd at, a chan gynnwys, y dyddiad y mae'r claf neu ei gynrychiolydd yn derbyn cynnig o ddigollediad ariannol a wnaed yn unol â rheoliad 33 drwy lofnodi cytundeb ffurfiol ac ildiad cyfreithiol yn unol â rheoliad 33(d), neu hyd nes bo'r claf neu ei gynrychiolydd yn gwrthod cynnig o ddigollediad o'r fath.

(3Nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad pan wneir cynnig o ddigollediad ariannol gan y corff GIG Cymru mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw.

(4Mewn achosion pan fo cymeradwyaeth llys yn ofynnol ar gyfer setliad a gynigir, megis yn yr amgylchiadau a amlinellir yn rheoliad 33(dd), os bydd cyfyngiad amser yn fater perthnasol, atelir cyfnod y cyfyngiad dros dro, tan y dyddiad y cymeradwyir y setliad gan y llys.

(5Mewn achosion pan fo corff GIG Cymru yn dynodi, yn unol â rheoliad 33, ei fod o'r farn nad oes atebolrwydd cymwys, ac wedi penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad y rhoddodd y corff GIG Cymru hysbysiad o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 33.

Adroddiad yr ymchwiliad

31.—(1Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau bod canfyddiadau'r ymchwiliad i bryder, pan fo person yn ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn cael eu cofnodi mewn adroddiad ar yr ymchwiliad.

(2Rhaid i adroddiad ar ymchwiliad gynnwys y canlynol—

(a)copi o unrhyw dystiolaeth feddygol a gomisiynwyd yn unol â'r Rhan hon er mwyn penderfynu a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, neu a gomisiynwyd i ganfod cyflwr a phrognosis;

(b)hysbysiad gan y corff GIG Cymru yn cadarnhau a oes, yn ei farn ef, atebolrwydd cymwys ai peidio; ac

(c)esboniad o'r farn a fynegir yn is-baragraff (b).

(3Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru ddarparu copi o adroddiad yr ymchwiliad i'r person sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon, neu ei gynrychiolydd, o fewn y terfyn amser a bennir yn rheoliad 26(5) a (6).

(4Nid oes angen i'r corff GIG Cymru ddarparu copi o adroddiad yr ymchwiliad—

(a)cyn gwneud cynnig o iawn o dan y Rhan hon;

(b)cyn rhoi hysbysiad o'i benderfyniad i beidio â gwneud cynnig o iawn;

(c)os terfynir, am unrhyw reswm, yr ymchwiliad i'r iawn yn unol â'r Rhan hon; neu

(ch)pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o beri niwed neu drallod sylweddol i'r claf neu i geisydd arall am iawn.

Cyngor cyfreithiol a chyfarwyddo arbenigwyr meddygol

32.—(1Pan fo corff GIG Cymru wedi penderfynu, yn unol â rheoliad 26 a'r Rhan hon, bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru sicrhau—

(a)bod cyngor cyfreithiol ar gael i berson sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; a

(b)os oes angen cyfarwyddo arbenigwr neu arbenigwyr meddygol, y cyflawnir y cyfarwyddo ar y cyd gan y corff GIG Cymru a'r person a hysbysodd y pryder yn unol â rheoliad 11.

(2Rhaid ceisio cyngor cyfreithiol gan y ffyrmiau cyfreithwyr hynny, yn unig, sydd ag arbenigedd cydnabyddedig ym maes esgeuluster clinigol. Cydnabyddir bod gan ffyrmiau yr arbenigedd angenrheidiol os oes ganddynt o leiaf un partner neu gyflogai sy'n aelod o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr(13) neu Weithredu yn erbyn Damweiniau Meyddgol(14).

(3Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau y bydd cyngor cyfreithiol di-dâl ar gael i'r person a hysbysodd y pryder mewn perthynas ag—

(a)cyfarwyddo arbenigwyr meddygol ar y cyd, gan gynnwys ceisio eglurhad gan y cyfryw arbenigwyr ar faterion sy'n codi o'u hadroddiadau;

(b)unrhyw gynnig a wneir yn unol â'r Rhan hon;

(c)unrhyw wrthodiad i wneud cynnig o'r fath; ac

(ch)unrhyw gytundeb setlo a gynigir.

(4Rhaid i gost y cyfryw gyngor cyfreithiol a chostau sy'n codi o gyfarwyddo'r cyfryw arbenigwyr meddygol gael eu dwyn yn gyfan gwbl gan y corff GIG Cymru.

Iawn — hysbysu ynghylch penderfyniad

33.  Pan fo corff GIG Cymru yn penderfynu gwneud cynnig o iawn ar ffurf digollediad ariannol neu ymuno mewn contract i ddarparu gofal neu driniaeth, neu'r ddau, neu'n penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, ar y sail nad oes atebolrwydd cymwys, rhaid iddo—

(a)anfon y cynnig, neu'r hysbysiad o'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig, at y person a hysbysodd y pryder o fewn deuddeng mis o'r dyddiad yr hysbyswyd y pryder i'r corff GIG Cymru. Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gwneir penderfyniad ynglŷn â'r cais am iawn;

(b)hysbysu'r person hwnnw neu ei gynrychiolydd cyfreithiol bod rhaid iddo ymateb i'r cynnig o setliad neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad o fewn chwe mis o'r dyddiad y'i hysbysir o'r cynnig neu'r penderfyniad;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (ch), rhoi gwybod, os na fydd yn bosibl, oherwydd amgylchiadau eithriadol, ymateb i'r cynnig o setliad neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad, o fewn chwe mis o ddyddiad y cynnig neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig, y bydd rhaid i'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol hysbysu'r corff GIG Cymru o'r rhesymau am oedi'r ymateb, a pha bryd y cyflwynir ymateb;

(ch)rhoi gwybod i berson neu ei gynrychiolydd cyfreithiol, os gofynnir am estyn yr amser a ganiateir i ymateb i gynnig o setliad neu benderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad, y bydd yn ofynnol ymateb o fewn naw mis calendr o ddyddiad y cynnig neu'r penderfyniad, gan mai'r dyddiad hwnnw, yn unol â rheoliad 30(3) a (5) yw dyddiad cychwyn cyfnod y cyfyngiad;

(d)rhoi gwybod, os gwneir cynnig, y bydd y setliad a gynigir ar ffurf cytundeb ffurfiol, ac y bydd rhaid i'r cytundeb gynnwys ildiad o unrhyw hawl i ddwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd cymwys y mae'r setliad yn ymwneud ag ef;

(dd)rhoi gwybod, mewn amgylchiadau priodol, y bydd y cytundeb setlo a gynigir yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo gan lys, megis mewn achosion pan fo'r person y mae'r atebolrwydd cymwys yn ymwneud ag ef—

(i)yn blentyn; neu

(ii)heb alluedd yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(15); ac

(e)rhoi gwybod, os yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth llys ar gyfer setliad, y bydd rhaid i'r corff GIG Cymru dalu'r costau cyfreithiol rhesymol a fydd yn gysylltiedig â chael y cyfryw gymeradwyaeth.

RHAN 7GOFYNIAD AR GYRFF GIG, AC EITHRIO CYRFF GIG CYMRU, I YSTYRIED IAWN, A'R WEITHDREFN SYDD I'W DILYN GAN GORFF GIG CYMRU PAN GAIFF HYSBYSIAD O BRYDER YN UNOL Å DARPARIAETHAU'R RHAN HON

Dehongli'r Rhan hon

34.—(1At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff GIG Lloegr” (“an English NHS body”) yw—

(a)Awdurdod Iechyd Strategol, a sefydlwyd o dan adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(16);

(b)Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)Ymddiriedolaeth GIG, a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(ch)Awdurdod Iechyd Arbennig, a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006; neu

(d)Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG a awdurdodwyd o dan Bennod 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff GIG Cymru.

(2At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff GIG yr Alban” (“a Scottish NHS body”) yw—

(a)Bwrdd Iechyd a gyfansoddwyd o dan adran 2(1)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978(17);

(b)Bwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978; neu

(c)yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin a gyfansoddwyd o dan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978,

sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff GIG Cymru.

(3At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff GIG Gogledd Iwerddon” (“a Northern Irish NHS body”) yw—

(a)Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(18);

(b)Y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(19);

(c)Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Iwerddon a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) 1990(20);

(ch)Y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009; neu

(d)Yr Asiantaeth Ranbarthol dros Iechyd y Cyhoedd a Lles Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009,

sy'n darparu neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau, y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff GIG Cymru.

(4ystyr “gweithdrefn gwynion berthnasol” (“relevant complaints procedure”) yw gweithdrefn gwynion y mae'n rhaid i gorff GIG Lloegr ei dilyn ar ôl cael hysbysiad o bryder.

(5ystyr “person a hysbysodd bryder” (“person who notified a concern”) yw, yn ôl y cyd-destun, y person a hysbysodd bryder i gorff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon.

Amgylchiadau pan fo rhaid i gorff GIG Lloegr ystyried a allai iawn fod yn gymwys ai peidio

35.  Pan fo corff GIG Lloegr yn cael, o dan weithdrefn gwynion berthnasol, hysbysiad o bryder sy'n cynnwys honiad bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi, ac sy'n ymwneud â gwasanaethau a ddarparwyd ganddo neu y trefnodd i'w darparu o dan drefniadau gyda chorff GIG Cymru, rhaid i'r corff GIG Lloegr, wrth ystyried y pryder yn unol â'r weithdrefn gwynion honno, ystyried a yw'r pryder yn cynnwys atebolrwydd cymwys ai peidio, y gallai fod iawn ar gael amdano.

Camau sydd i'w cymryd pan fo corff GIG Lloegr o'r farn bod, neu y gallai fod, atebolrwydd cymwys

36.—(1Os daw corff GIG Lloegr i'r casgliad bod, neu y gallai fod, atebolrwydd cymwys ac y gallai fod iawn ar gael, rhaid i'r corff GIG Lloegr hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl, gymryd y camau a amlinellir ym mharagraff (2).

(2Rhaid i'r corff GIG Lloegr hysbysu'r corff GIG Cymru yr ymunodd mewn trefniant gydag ef, ei fod o'r farn bod atebolrwydd cymwys naill ai'n bodoli, neu y gallai fodoli, ac, ar ôl sicrhau unrhyw ganiatadau priodol, darparu'r canlynol i'r corff GIG Cymru:

(a)copi o'r ymateb i unrhyw bryder, a ddarparwyd yn unol â gweithdrefn gwynion berthnasol;

(b)copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol;

(c)copi o unrhyw farn arbenigol a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad i bryder;

(ch)adroddiad ysgrifenedig pam y mae o'r farn bod, neu y gallai fod, atebolrwydd cymwys;

(d)y dyddiad y cafodd y hysbysiad o bryder; ac

(dd)pa bynnag wybodaeth neu gymorth arall y gofynnir amdani neu amdano'n rhesymol gan y corff GIG Cymru.

Camau sydd i'w cymryd gan gorff GIG Cymru ar ôl cael hysbysiad gan gorff GIG Lloegr yn unol â rheoliad 36

37.—(1Rhaid i gorff GIG Cymru, o fewn pum niwrnod gwaith, gydnabod derbyn yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 36.

(2Rhaid iddo hefyd, o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad, roi gwybod i'r person a hysbysodd y pryder i'r corff GIG Lloegr, fod y pryder bellach wedi ei anfon ato i ystyried pa un a oes atebolrwydd cymwys ai peidio.

(3Rhaid i gorff GIG Cymru benderfynu a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, a rhaid iddo benderfynu a ddylid gwneud cynnig o iawn i'r claf ai peidio.

Camau sydd i'w cymryd gan gorff GIG Cymru ar ôl cael hysbysiad gan gorff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon

38.—(1Rhaid i gorff GIG Cymru, o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad oddi wrth gorff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon, gydnabod derbyn yr hysbysiad.

(2Rhaid iddo hefyd, o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad, roi gwybod i'r person a hysbysodd y pryder, fod y pryder bellach wedi ei anfon ato i ystyried pa un a oes atebolrwydd cymwys ai peidio.

(3Rhaid i gorff GIG Cymru benderfynu a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, a rhaid iddo benderfynu a ddylid gwneud cynnig o iawn i'r claf ai peidio.

Dyletswydd ar gorff GIG Cymru i gynnal ymchwiliad

39.—(1Ar ôl cael hysbysiad gan gorff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon, rhaid i gorff GIG Cymru—

(a)cynnig cyfarfod â'r person a hysbysodd y pryder; a

(b)cynnal ymchwiliad sy'n dilyn yr egwyddorion yn rheoliad 23(1)(a), (b), (c), (d), ac (f).

(2Ar ôl cael hysbysiad gan gorff GIG Lloegr, rhaid i gorff GIG Cymru a'r corff GIG Lloegr gydweithio mewn ffordd sy'n bodloni gofynion perthnasol y Rhan hon—

(a)i benderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio; a

(b)os penderfynir bod atebolrwydd cymwys yn bodoli, gynnig iawn.

Ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 39 pan fo corff GIG Cymru o'r farn bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys

40.—(1Pan fo corff GIG Cymru, yn dilyn ymchwiliad o dan reoliad 39, o'r farn bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru baratoi adroddiad interim, sydd—

(a)yn crynhoi natur a sylwedd y mater neu'r materion a hysbyswyd yn y pryder;

(b)yn disgrifio'r ymchwiliad a ymgymerwyd yn unol â rheoliad 39;

(c)yn disgrifio pam, ym marn y corff GIG Cymru, y mae neu y gall fod atebolrwydd cymwys;

(ch)yn cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol;

(d)yn esbonio bod mynediad at gyngor cyfreithiol ar gael yn ddi—dâl yn unol â darpariaethau rheoliad 47;

(dd)yn esbonio bod gwasanaethau eiriolaeth a chefnogaeth ar gael, a allai fod o gymorth;

(e)yn esbonio'r weithdrefn a ddilynir er mwyn penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio, a'r weithdrefn ar gyfer cynnig iawn os canfyddir bod atebolrwydd cymwys o'r fath yn bodoli;

(f)yn cadarnhau y rhoddir ar gael gopi o adroddiad yr ymchwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 46, pan baratoir ef, yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwnnw i'r person sy'n ceisio iawn neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol;

(ff)yn cynnwys manylion am yr hawl i hysbysu'r pryder, mewn perthynas â gweithredoedd neu anweithiau'r corff GIG Cymru, i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

(g)yn cynnig cyfle i'r person sy'n ceisio iawn drafod cynnwys yr adroddiad interim gyda'r swyddog cyfrifol a ddynodwyd yn unol â rheoliad 7 neu berson sy'n gweithredu ar ei ran; ac

(ng)wedi ei lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.

(2Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff GIG Cymru gymryd pob cam rhesymol i anfon adroddiad interim at y person a hysbysodd y pryder o fewn cyfnod o hanner can niwrnod gwaith sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cafodd y corff yr hysbysiad o bryder.

(3Os na all corff GIG Cymru ddarparu adroddiad interim yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo—

(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o hynny, gan esbonio'r rheswm; a

(b)anfon yr adroddiad interim cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o fewn cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad o bryder.

(4Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o chwe mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael yr adroddiad interim.

(5Rhaid darparu adroddiad yr ymchwiliad, y cyfeirir ato yn rheoliad 46, i'r person a hysbysodd y pryder neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a hynny ddim hwyrach na deuddeng mis o'r dyddiad y cafodd y corff GIG Cymru yr hysbysiad o bryder.

(6Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael adroddiad yr ymchwiliad.

Ymateb i ymchwiliad o dan reoliad 39 pan fo corff GIG Cymru yn penderfynu nad oes atebolrwydd cymwys

41.  Os yw corff GIG Cymru, yn dilyn ymchwiliad yn unol â rheoliad 39, yn penderfynu nad yw'r pryder a hysbyswyd yn unol â rheoliad 36, neu gan gorff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon, yn cynnwys atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru—

(a)hysbysu, mewn ysgrifen, y person a hysbysodd y pryder o'i benderfyniad, ac o'r rhesymau am ei benderfyniad;

(b)cynnig cyfarfod y person a hysbysodd y pryder, i drafod y penderfyniad;

(c)darparu manylion i'r person a hysbysodd y pryder, o'r hawl i hysbysu unrhyw bryder ynghylch gweithredoedd neu anweithiau'r corff GIG Cymru i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

(ch)anfon copi o'r llythyr penderfyniad ym mharagraff (a) at y corff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon.

Ffurf yr iawn

42.—(1Mae iawn o dan y Rhan hon yn cynnwys—

(a)gwneud cynnig o ddigollediad i fodloni unrhyw hawl i ddwyn achos sifil mewn perthynas ag atebolrwydd cymwys;

(b)rhoi esboniad;

(c)gwneud ymddiheuriad ysgrifenedig; ac

(ch)rhoi adroddiad ar y modd y gweithredwyd, neu y gweithredir yn y dyfodol, i rwystro achosion cyffelyb rhag digwydd eto.

(2Caiff y digollediad y caniateir ei gynnig yn unol â rheoliad 42(1)(a) fod ar ffurf ymuno mewn contract i ddarparu gofal neu driniaeth, neu ddigollediad ariannol, neu'r ddau.

Argaeledd iawn

43.—(1Nid oes iawn ar gael mewn perthynas ag atebolrwydd sydd, neu a fu, yn destun achos sifil.

(2Os cychwynnir achos sifil o'r fath yn ystod ystyriaeth o iawn gan gorff GIG Cymru, rhaid terfynu'r ystyriaeth o iawn gan y corff GIG Cymru yn unol â'r Rhan hon, a rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder a'r corff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu'r corff GIG Gogledd Iwerddon a hysbysodd y pryder wrth y corf GIG Cymru, yn unol â hynny.

Iawn — digollediad ariannol

44.—(1Caiff corff GIG Cymru wneud cynnig o iawn am atebolrwydd cymwys ar ffurf digollediad ariannol o ddim mwy na £25,000.

(2Pan fo corff GIG Cymru o'r farn bod y gwerth sydd i'w briodoli i'r atebolrwydd cymwys sy'n codi o ddarparu gwasanaethau cymwys yn fwy na'r terfyn a bennir ym mharagraff (1), rhaid peidio â chynnig iawn ar ffurf digollediad ariannol yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(3Cyfrifir yr iawndal am boen, dioddefaint a cholled amwynder ar sail y gyfraith gyffredin. Caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd, ddyroddi tariff digolledu.

(4Os dyroddir tariff yn unol â pharagraff (3), mae cyrff GIG Cymru i'w ddefnyddio at ddibenion canllaw wrth ystyried swm y digollediad ariannol sydd i'w gynnig yn unol â'r Rhan hon.

Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad

45.—(1Yn ystod y cyfnod pan fo atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y Rhan hon, atelir unrhyw gyfnod cyfyngiad ar gyfer dwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw, a ragnodir gan neu o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980(21) neu unrhyw ddeddfiad arall, ac ni fydd amser yn treiglo at ddibenion cyfrifo unrhyw derfynau amser a ragnodir gan y deddfiadau hynny.

(2At ddibenion y Rhan hon, ystyrir bod atebolrwydd yn destun cais am iawn—

(a)yn cychwyn o'r dyddiad y cafodd y corff GIG Lloegr, y corff GIG yr Alban neu'r corff GIG Gogledd Iwerddon yr hysbysiad gwreiddiol o bryder, a ddaeth yn gais am iawn;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), hyd at a chan gynnwys yr amser y derbynnir cynnig o ddigollediad ariannol yn unol â rheoliad 48 gan glaf neu ei gynrychiolydd drwy lofnodi cytundeb ffurfiol ac ildiad cyfreithiol yn unol â rheoliad 48(d), neu hyd nes gwrthodir cynnig o ddigollediad o'r fath gan glaf neu ei gynrychiolydd.

(3Nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad pan wneir cynnig o ddigollediad ariannol gan y corff GIG Cymru mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw.

(4Mewn achosion pan fo cymeradwyaeth llys yn ofynnol ar gyfer unrhyw setliad a gynigir, megis yn yr amgylchiadau a amlinellir yn rheoliad 48(dd), os bydd cyfyngiad amser yn fater perthnasol, atelir cyfnod y cyfyngiad dros dro, hyd nes cyrhaeddir setliad a gymeradwyir gan y llys.

(5Mewn achosion pan fo corff GIG Cymru yn dynodi, yn unol â rheoliad 48, ei fod wedi penderfynu nad oes atebolrwydd cymwys ac wedi penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad yr hysbysodd y corff GIG Cymru ei benderfyniad yn unol â rheoliad 48.

Adroddiad yr ymchwiliad

46.—(1Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau bod canfyddiadau'r ymchwiliad i bryder, pan fo person yn ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn cael eu cofnodi mewn adroddiad ar yr ymchwiliad.

(2Rhaid i adroddiad ar ymchwiliad gynnwys y canlynol—

(a)copi o unrhyw dystiolaeth feddygol a gomisiynwyd yn unol â'r Rhan hon er mwyn canfod a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, neu a gomisiynwyd i ganfod cyflwr a phrognosis;

(b)hysbysiad gan y corff GIG Cymru yn cadarnhau a oes, yn ei farn ef, atebolrwydd cymwys ai peidio; ac

(c)esboniad o'r farn a fynegir yn is-baragraff (b).

(3Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru ddarparu copi o adroddiad yr ymchwiliad i'r person sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol, o fewn terfyn amser fel a bennir yn rheoliad 40(5) neu (6).

(4Nid oes angen i'r corff GIG Cymru ddarparu copi o adroddiad yr ymchwiliad—

(a)cyn gwneud cynnig o iawn o dan y Rhan hon;

(b)cyn hysbysu ynghylch penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o iawn;

(c)os terfynir, am unrhyw reswm, yr ymchwiliad i'r iawn yn unol â'r Rhan hon; neu

(ch)pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o beri niwed neu drallod sylweddol i'r claf neu i geisydd arall am iawn.

Cyngor cyfreithiol a chyfarwyddo arbenigwyr meddygol

47.—(1Pan fo corff GIG Cymru wedi penderfynu bod atebolrwydd cymwys naill ai'n bodoli, neu y gall fodoli, yn unol â rheoliad 40 a'r Rhan hon, rhaid i'r corff GIG Cymru sicrhau—

(a)bod cyngor cyfreithiol ar gael i berson sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; a

(b)os oes angen cyfarwyddo arbenigwr neu arbenigwyr meddygol, y cyflawnir y cyfarwyddo ar y cyd gan y corff GIG Cymru a'r person a hysbysodd y pryder.

(2Rhaid ceisio cyngor cyfreithiol gan y ffyrmiau cyfreithwyr hynny, yn unig, sydd ag arbenigedd cydnabyddedig ym maes esgeuluster clinigol. Cydnabyddir bod gan ffyrm yr arbenigedd angenrheidiol os oes ganddynt o leiaf un partner neu gyflogai sy'n aelod o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr(22) neu Weithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol(23).

(3Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau y bydd cyngor cyfreithiol di-dâl ar gael i'r person a hysbysodd y pryder mewn perthynas â'r materion canlynol—

(a)cyfarwyddo arbenigwyr meddygol ar y cyd, gan gynnwys ceisio eglurhad gan y cyfryw arbenigwyr ar faterion sy'n codi o'u hadroddiadau;

(b)unrhyw gynnig a wneir yn unol â'r Rhan hon;

(c)unrhyw wrthodiad i wneud cynnig o'r fath; ac

(ch)unrhyw gytundeb setlo a gynigir.

(4Yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau sydd gan gorff GIG Cymru i adennill gwariant o'r fath oddi ar gorff GIG Lloegr, rhaid i gost y cyfryw gyngor cyfreithiol a chostau sy'n codi o gyfarwyddo'r cyfryw arbenigwyr meddygol gael eu dwyn yn gyfan gwbl gan y corff GIG Cymru.

Iawn — hysbysu ynghylch penderfyniad

48.  Pan fo corff GIG Cymru yn penderfynu gwneud cynnig o iawn ar ffurf digollediad ariannol neu ymuno mewn contract i ddarparu gofal neu driniaeth, neu'r ddau, neu'n penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, ar y sail nad oes atebolrwydd cymwys, rhaid iddo—

(a)anfon y cynnig neu'r hysbysiad o'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig at y person a hysbysodd y pryder o fewn deuddeng mis o'r dyddiad y hysbyswyd y pryder i'r corff GIG Cymru. Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gwneir penderfyniad ynglŷn â'r cais am iawn;

(b)hysbysu'r person hwnnw neu ei gynrychiolydd cyfreithiol bod rhaid iddo ymateb i'r cynnig o setliad neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad o fewn chwe mis o'r dyddiad y gwneir y cynnig neu'r penderfyniad;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (ch), rhaid i'r corff GIG Cymru roi gwybod hefyd, os na fydd yn bosibl ymateb i'r cynnig o setliad neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad o fewn chwe mis, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y bydd rhaid hysbysu'r corff GIG Cymru o'r rhesymau am yr oedi, a pha bryd y cyflwynir ymateb;

(ch)rhoi gwybod i berson neu ei gynrychiolydd cyfreithiol, os gofynnir am estyn yr amser a ganiateir i ymateb i gynnig o setliad neu benderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad, y bydd yn ofynnol ymateb o fewn naw mis calendr o ddyddiad y cynnig, gan mai'r dyddiad hwnnw, yn unol â rheoliad 45(3) a (5) yw dyddiad cychwyn cyfnod y cyfyngiad;

(d)rhoi gwybod, os gwneir cynnig, y bydd y setliad a gynigir ar ffurf cytundeb ffurfiol, ac y bydd rhaid i'r cytundeb gynnwys ildiad o unrhyw hawl i ddwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd cymwys y mae'r setliad yn ymwneud ag ef;

(dd)rhoi gwybod, o dan amgylchiadau priodol, y byddai'r cytundeb setlo a gynigir yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo gan lys, megis mewn achosion pan fo'r person y mae'r atebolrwydd cymwys yn ymwneud ag ef—

(i)yn blentyn; neu

(ii)heb alluedd yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(24); ac

(e)rhoi gwybod, os yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth llys ar gyfer setliad, y byddai rhaid i'r corff GIG Cymru dalu'r costau cyfreithiol rhesymol a fyddai'n gysylltiedig â chael y cyfryw gymeradwyaeth.

RHAN 8DYSGU O'R PRYDERON

Dysgu o'r pryderon

49.—(1Rhaid i bob corff cyfrifol sicrhau bod trefniadau wedi eu sefydlu ganddo i adolygu canlyniad unrhyw bryder a fu'n destun ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn, er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i unrhyw ddiffygion a ganfuwyd yn ystod yr ymchwiliad yn y modd y gweithredodd y corff cyfrifol neu ei ddarpariaeth o wasanaethau, drwy—

(a)gweithredu ynglŷn â'r diffygion; a

(b)monitro'r diffygion,

er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu nodi a'u lledaenu ledled y corff hwnnw, i wella'r gwasanaethau a ddarperir ganddo ac atal diffygion o'r fath rhag digwydd eto.

(2Cyfrifoldeb y person a ddynodir yn unol â rheoliad 6 yw gweithredu'r trefniadau sy'n ofynnol gan y Rhan hon.

RHAN 9MONITRO'R BROSES

Monitro gweithrediad y trefniadau i ymdrin â phryderon

50.  At y diben o fonitro gweithrediad y trefniadau i ymdrin â phryderon o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i bob corff cyfrifol gadw cofnod o'r materion canlynol—

(a)pob pryder a hysbysir iddo gan gynnwys, yn achos cyrff GIG Cymru, unrhyw bryderon a hysbysir yn unol â darpariaethau Rhan 7;

(b)canlyniad pob pryder; ac

(c)os hysbyswyd y person a hysbysodd y pryder gan y corff cyfrifol o'r canlynol—

(i)y cyfnod tebygol o amser a gymerid i ddyroddi ymateb yn unol â rheoliad 22(4)(c); neu

(ii)unrhyw estyniad i'r cyfnod hwnnw,

pa un a anfonwyd ymateb ai peidio at y person a hysbysodd y pryder, gan roi manylion am ganlyniad yr ymchwiliad i'r pryder, o fewn y cyfnod hwnnw neu unrhyw gyfnod estynedig.

Yr adroddiad blynyddol

51.—(1Rhaid i bob corff cyfrifol baratoi adroddiad blynyddol ar gyfer pob blwyddyn, a rhaid i'r adroddiad hwnnw—

(a)nodi nifer y pryderon a hysbyswyd wrth y corff cyfrifol gan gynnwys, yn achos cyrff GIG Cymru, unrhyw bryderon a hysbyswyd wrtho yn unol â darpariaethau Rhan 7;

(b)nodi nifer y pryderon y penderfynodd y corff cyfrifol oedd â sail dda iddynt;

(c)nodi nifer y pryderon yr hysbyswyd y corff cyfrifol eu bod wedi eu hysbysu i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

(ch)rhoi crynodeb o'r canlynol—

(i)y materion a oedd yn destun y pryderon a hysbyswyd wrth y corff cyfrifol;

(ii)unrhyw faterion o bwysigrwydd cyffredinol a oedd yn codi o'r pryderon hynny neu'r modd y'u triniwyd;

(iii)unrhyw faterion y gweithredwyd, neu y bwriedir gweithredu ynglŷn â hwy er mwyn gwella'r gwasanaethau, o ganlyniad i'r pryderon hynny.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gorff cyfrifol sydd—

(a)yn gorff GIG Cymru ac eithrio Bwrdd Iechyd Lleol; neu

(b)yn ddarparwr gofal sylfaenol neu ddarparwr annibynnol,

ac y sydd, mewn unrhyw flwyddyn, yn darparu neu'n cytuno i ddarparu gwasanaethau o dan drefniadau gyda Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Rhaid i gorff cyfrifol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo anfon copi o'i adroddiad blynyddol at y Bwrdd Iechyd Lleol a drefnodd ar gyfer darparu'r gwasanaethau gan y corff cyfrifol.

RHAN 10DARPARIAETHAU TROSIANNOL A CHANLYNIADOL A DIRYMIADAU

Darpariaethau trosiannol

52.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “y darpariaethau cwynion blaenorol” (“the former complaints provisions”) yw unrhyw rai o'r cyfarwyddiadau mewn perthynas â chwynion a ddirymir gan reoliad 53.

(2Cyn 1 Ebrill 2011—

(a)os gwnaed cwyn yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau cwynion blaenorol; a

(b)os nad yw'r gŵyn wedi ei heithrio o'i hystyried gan unrhyw ddarpariaeth o fewn y darpariaethau cwynion blaenorol,

gellir ymchwilio iddi, neu barhau i ymchwilio iddi, fel y bo'n briodol, yn unol â'r darpariaethau hynny.

(3Yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau cwynion blaenorol—

(a)os cynhaliwyd a chwblhawyd ymchwiliad i gŵyn gan reolwr cwynion neu hwylusydd cwynion annibynnol; a

(b)os gwnaed cais gan y person a wnaeth y gŵyn honno am adolygiad gan banel adolygu annibynnol,

rhaid trin y cais yn ynol â'r darpariaethau cwynion blaenorol.

(4Ac eithrio mewn perthynas â chwyn a fyddai'n ddarostyngedig i'r trefniadau yn Rhan 7 o'r Rheoliadau hyn, yn achos cwyn, y digwyddodd y mater sy'n destun iddi cyn 1 Ebrill 2011—

(a)os na wnaed y gŵyn yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau cwynion blaenorol; a

(b)os nad yw wedi ei gwahardd rhag ei hystyried gan unrhyw ddarpariaeth o fewn y Rheoliadau hyn,

caniateir hysbysu, ystyried ac ymchwilio i'r gŵyn yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(5Ni fydd cwynion ynghylch gwasanaethau a ddarparwyd gan gyrff GIG Lloegr, cyrff GIG yr Alban neu gyrff GIG Gogledd Iwerddon, fel y'u diffinnir yn rheoliad 34, a wnaed cyn 1 Hydref 2011 yn cael eu hystyried o dan Ran 7 o'r Rheoliadau hyn.

Dirymiadau

53.  Yn ddarostyngedig i reoliad 52, dirymir y cyfarwyddiadau canlynol, a wnaed o dan y darpariaethau a restrir yn rheoliad 52(1)(a):

(a)y Cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau GIG a Byrddau Iechyd Lleol ar Weithdrefnau Cwynion Ysbytai, a wnaed ar 27 Mawrth 2003;

(b)y Cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ymdrin â Chwynion ynghylch Ymarferwyr Gwasanaethau Iechyd Teuluol, Darparwyr Gwasanaethau Meddygol Personol a Darparwyr Gwasanaethau Deintyddol Personol ac eithrio'r Gwasanaethau Deintyddol Personol a Ddarperir gan Ymddiriedolaethau GIG, a wnaed ar 27 Mawrth 2003; ac

(c)Cyfarwyddiadau Amrywiol i Fyrddau Iechyd Lleol ar Ymdrin â Chwynion, a wnaed ar 27 Mawrth 2003.

Darpariaethau canlyniadol a throsiannol

54.  Mae Atodlen 2 (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) yn cael effaith.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Mawrth 2011

Rhaglith

ATODLEN 1DARPARIAETHAU SY'N RHOI'R PWERAU A ARFERWYD WRTH WNEUD Y RHEOLIADAU HYN

(1)(2)
DarpariaethDiwygiadau perthnasol
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003(25)
Adran 113(2)Mewnosodwyd paragraff (d) gan Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, adran 10.
Adran 113(3)Diddymwyd paragraff (b) gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008, adran 95 a pharagraff 45 o Atodlen 5 ac adran 166 ac Atodlen 15(26).
Adran 113(4)(aa) a (b)Mewnosodwyd paragraff (aa) gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, adran 39(1) a pharagraffau 74 a 75 o Atodlen 6(27).
Adran 115(1)
Adran 115(2)
Adran 115(4)
Adran 115(5)
Adran 115(6)
Adran 195
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(28)
Adran 187
Adran 206
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008(29)
Adran 1
Adran 2
Adran 3
Adran 4
Adran 5
Adran 6
Adran 7
Adran 9
Adran 11
Adran 12

Rheoliad 54

ATODLEN 2DARPARIAETHAU CANLYNIADOL A THROSIANNOL

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986

1.—(1Diwygir Atodlen 1 (Telerau Gwasanaethu) i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(30) fel a ganlyn.

(2O flaen paragraff 8A (Cwynion) mewnosoder—

Complaints and Concerns

(1) A contractor must have in place—

(a)arrangements for the handling and consideration of complaints about any matter connected with the provision of general ophthalmic services which comply with the provisions of paragraph 8A for the handling and consideration of any complaints—

(i)which were made prior to 1 April 2011; and

(ii)in respect of which the complaints process has not yet been completed, and

(b)arrangements which comply with the requirements of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011, for the handling and consideration of any concerns notified on or after 1 April 2011. References in paragraphs 8B and 8C to a concern are to a concern notified in accordance with those Regulations..

(3Yn lle'r pennawd mewn perthynas â pharagraff 8A (Cwynion), rhodder—

(4Yn lle paragraff 8B rhodder y canlynol—

Co-operation with investigations

(1) A contractor must co-operate with any investigation of a complaint or a concern in relation to any matter reasonably connected to the contractor’s provision of general ophthalmic services undertaken by a “relevant body”, which includes—

(a)the Local Health Board;

(b)the Welsh Ministers; or

(c)the Public Services Ombudsman for Wales.

(2) The co-operation required by sub-paragraph (1) includes—

(a)answering questions reasonably put to the contractor by a relevant body;

(b)providing any information relating to the complaint or concern reasonably required by a relevant body; and

(c)attending any meeting to consider the complaint or the concern (if held at a reasonably accessible place and at a reasonable hour, and due notice has been given), if the contractor’s presence is reasonably required by a relevant body..

(5Yn lle'r pennawd i baragraff 8C a pharagraffau 8C(1) a (2), rhodder y canlynol—

Complaints made against and concerns notified about ophthalmic medical practitioners

(1) Where a contractor who, being an ophthalmic medical practitioner, also performs primary medical services under a GMS contract for any person for whom he provides general ophthalmic services, the complaints procedure or procedure for notifying concerns established and operated in accordance with the terms of that GMS contract shall apply in relation to any matter reasonably connected with his provision of general ophthalmic services as it applies as respects the provision of services under the GMS contract.

(2) Accordingly, any requirement as to co-operation with investigations of complaints or concerns by other bodies imposed on a GMS contractor under the term of his contract which gives effect to paragraph 95 of Schedule 2 to the National Health Service (General Medical Services Contracts) (Wales) Regulations 2004 also applies in relation to complaints or concerns about such matters..

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992

2.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(31) fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 4 o Atodlen 2 (Llywodraethu Clinigol a Chwynion), yn lle paragraff 28 (Cwynion) rhodder—

Complaints and Concerns

(1) A chemist must have in place—

(a)arrangements for the handling and consideration of complaints about any matter connected with the provision of pharmaceutical services which comply with the provisions of paragraph 10A and 10B of Schedule 2 to these Regulations as they apply on 31 March 2005 for the handling and consideration of any complaints—

(i)which were made prior to 1 April 2011; and

(ii)in respect of which the complaints process has not yet been completed, and

(b)arrangements which comply with the requirements of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011, for the handling and consideration of any concerns notified on or after 1 April 2011..

(3Yn Rhan 6 o Atodlen 2 (Telerau Gwasanaethu ar gyfer Meddygon sy'n darparu Gwasanaethau Fferyllol)—

(a)yn lle'r pennawd i baragraff 41 (Gweithdrefnau cwynion) rhodder—

(b)ym mharagraff 41(1)(a) yn lle “paragraph 90” rhodder “paragraphs 89A and 90”;

(c)ym mharagraff 41(2) ar ôl “complaints” mewnosoder “or concerns notified”.

(4Yn Atodlen 2A (Telerau Gwasanaethu Cyflenwyr Offer)—

(a)ar ôl paragraff 21 (Bwrdd Iechyd Lleol Cartref cyrff corfforaethol) mewnosoder paragraff 21A newydd—

Concerns notified on or after 1 April 2011

A supplier of appliances must establish and operate arrangements which meet the requirements of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011 to deal with any concerns notified on or after 1 April 2011.;

(b)yn lle'r pennawd ar gyfer paragraff 22 (Cwynion), rhodder—

(c)yn lle paragraff 22(1) rhodder—

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004

3.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(32) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 6 (telerau contractiol eraill), o flaen Rhan 6 (Cwynion) mewnosoder—

Part 5AConcerns notified on or after 1 April 2011

The contractor must establish and operate arrangements which meet the requirements of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011 to deal with any concerns notified on or after 1 April 2011 about any matter reasonably connected with the provision of services under the contract..

(3Yn Rhan 6 o Atodlen 6—

(a)yn lle'r pennawd i baragraff 90 (Gweithdrefn gwynion), rhodder—

(b)ym mharagraff 90, yn lle is-baragraff (1), rhodder y canlynol—

(1) In respect of any complaints made prior to 1 April 2011in relation to any matter reasonably connected with the provision of services under the contract which have not been resolved by that date, the contractor must continue to deal with such complaints in accordance with the requirements of paragraphs 91 to 94 and 96.;

(c)ym mharagraff 95 (cydweithredu ag ymchwiliadau)—

(i)ar ôl “complaint”, ym mhob lle y mae'n digwydd, mewnosoder “or a concern notified in accordance with the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011”;

(ii)yn lle is-baragraff (1)(a)(iii) rhodder—

(iii)the Welsh Ministers; and

(iv)the Public Services Ombudsman for Wales; and.

(4Ym mharagraff 98 o Ran 7 o Atodlen 6 (Datrys anghydfodau: contractau ac eithrio contractau GIG), yn lle'r geiriau “complaints procedure pursuant to Part 6” rhodder “procedures for notifying concerns or making complaints pursuant to Parts 5A and 6”.

(5Yn Atodlen 10 (gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn taflenni gwybodaeth practis), yn lle paragraff 24, rhodder—

How patients may—

(1) in respect of complaints made prior to 1 April 2011 make a complaint in accordance with the provisions of Part 6 of Schedule 6;

(2) in respect of concerns notified on or after 1 April 2011 notify a concern in accordance with the provisions of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011; or

(3) comment on the provision of service..

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006

4.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006(33) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 3 (telerau contractiol eraill)—

(a)yn Rhan 5 (Cofnodion, Gwybodaeth, Hysbysiadau a Hawliau Mynediad), yn lle paragraff 34(1)(c) (Gwybodaeth Cleifion) rhodder—

(c)information about the procedure for notifying concerns in accordance with Part 5A or, in respect of complaints made prior to 1 April 2011, the complaints procedure which it operates in accordance with Part 6 giving, in the case of a complaint under Part 6, the name and title of the person nominated in accordance with paragraph 50(2)(a) or, in the case of a notification of a concern, the name of the person designated as the senior investigations manager under regulation 8 of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011..

(b)o flaen Rhan 6 (Cwynion) mewnosoder—

Part 5AConcerns notified on or after 1 April 2011

The contractor must establish and operate arrangements which meet the requirements of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011 to deal with any concerns notified on or after 1 April 2011 about any matter reasonably connected with the provision of services under the contract..

(c)yn Rhan 6 (Cwynion)—

(i)yn lle'r pennawd ar gyfer paragraff 47 (Gweithdrefn gwynion), rhodder—

(ii)ym mharagraff 47 (Gweithdrefn gwynion), yn lle is-baragraff (1), rhodder—

(iii)ym mharagraff 51 (cydweithredu ag ymchwiliadau)—

(aa)ar ôl “complaint” ym mhob lle y mae'n digwydd, mewnosoder “or concern notified in accordance with the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011”; a

(bb)yn lle is-baragraff (1)(a)(iii) rhodder—

(iii)the Welsh Ministers; and

(iv)the Public Services Ombudsman for Wales; and; ac

(ch)yn Rhan 7 (Datrys anghydfodau), ym mharagraff 54 (Datrys anghydfodau: contractau ac eithrio contractau GIG), yn lle'r geiriau “complaints procedure pursuant to Part 6” rhodder “procedures for notifying concerns or making complaints pursuant to Parts 5A or 6”.

(3Yn Atodlen 4 (Taflen Wybodaeth i Gleifion), yn lle paragraff 17 rhodder—

How patients may—

(1) in respect of complaints made prior to 1 April 2011 make a complaint in accordance with the provisions of Part 6 of Schedule 3;

(2) in respect of concerns notified on or after 1 April 2011 notify a concern in accordance with the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011; or

(3) comment on the provision of a service..

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006

5.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006(34) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 3 (telerau contractiol eraill)—

(a)yn Rhan 5 (Cofnodion, Gwybodaeth, Hysbysiadau a Hawliau Mynediad), yn lle paragraff 35(1)(c) (Gwybodaeth cleifion), rhodder—

(c)information about the procedure for notifying concerns in accordance with Part 5A or, in respect of complaints made prior to 1 April 2011, the complaints procedure which it operates in accordance with Part 6 giving, in the case of a complaint under Part 6, the name and title of the person nominated in accordance with paragraph 50(2)(a) or, in the case of a notification of a concern, the name of the person designated as the senior investigations manager under regulation 8 of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011.;

(b)o flaen Rhan 6 (Cwynion) mewnosoder—

Part 5AConcerns Notified On or After 1 April 2011

The contractor must establish and operate arrangements which meet the requirements of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011 to deal with any concerns notified on or after 1 April 2011 about any matter reasonably connected with the provision of services under the contract.;

(c)yn Rhan 6 (cwynion)—

(i)yn lle'r pennawd ar gyfer paragraff 47 (Gweithdrefn gwynion) rhodder—

(ii)ym mharagraff 47 (Gweithdrefn gwynion), yn is-baragraff (1), yn lle'r geiriau o “The contractor” hyd at “the agreement” rhodder—

(iii)ym mharagraff 51 (Cydweithredu ag ymchwiliadau)—

(aa)ar ôl “complaint” ym mhob lle y mae'n digwydd, mewnosoder “or concern notified in accordance with the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011”; a

(bb)yn lle is-baragraff (1)(a)(iii) rhodder—

(iv)the Welsh Ministers; and

(iv)the Public Services Ombudsman for Wales; ”; ac

(ch)yn Rhan 7 (Datrys Anghydfodau), ym mharagraff 54 (datrys anghydfodau: contractau ac eithrio contractau GIG), yn lle'r geiriau “complaints procedure pursuant to Part 6” rhodder “procedures for notifying concerns or making complaints pursuant to Parts 5A or 6”.

(3Yn Atodlen 4 (Taflen Wybodaeth i Gleifion), yn lle paragraff 16 rhodder—

How patients may—

(1) in respect of complaints made prior to 1 April 2011 make a complaint in accordance with the provisions of Part 6 of Schedule 3;

(2) in respect of concerns notified on or after 1 April 2011 notify a concern in accordance with the provisions of the National Health Service (Concerns, Complaints and Redress Arrangements) (Wales) Regulations 2011; or

(3) comment on the provision of service..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau”) yn gwneud trefniadau newydd ar gyfer hysbysu, ystyried ac ymateb i bryderon a hysbysir gan bersonau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan neu o dan drefniadau gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Diffinnir pryder fel cwyn, hysbysiad o ddigwyddiad sy'n ymwneud â diogelwch claf, neu, ac eithrio mewn perthynas â phryderon a hysbysir ynghylch darparwyr gofal sylfaenol neu ddarparwyr annibynnol, hawliad am ddigollediad.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cyflwyno'r cysyniad o “iawn”. Maent yn gosod rhwymedigaeth ar gorff GIG Cymru, pan hysbysir ef o bryder sy'n honni bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi, i ystyried pa un a oes atebolrwydd cymwys ai peidio.

Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau sy'n rhoi manylion o'r modd y bydd y trefniadau iawn yn gweithredu pan fo corff GIG Cymru yn ymuno mewn trefniadau gyda chorff GIG yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Nid yw'r elfennau o'r Rheoliadau sy'n ymwneud ag iawn yn gymwys i ddarparwyr gofal sylfaenol nac i ddarparwyr annibynnol.

Mae'r Rheoliadau'n disodli'r trefniadau presennol ar gyfer gwneud ac ystyried cwynion, a gynhwysir mewn tair set o Gyfarwyddiadau ar wahân. Mae'r Rheoliadau'n dirymu'r Cyfarwyddiadau hynny, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol; ac yn Atodlen 2, gwneir diwygiadau canlyniadol i'r telerau gwasanaethu sy'n berthnasol i ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru.

(3)

Gellir cael copïau o'r Cyfarwyddiadau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gweithdrefn gwynion berthnasol” o'r llyfrgell yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(10)

Pryder yr ymchwilir iddo neu'r ymchwiliwyd yn ei gylch yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. 2005 p.10.

(11)

2000 p.36.

(12)

1980 p.58.

(13)

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX) sy'n arbenigo mewn achosion o esgeuluster clinigol. Mae gan gyfreithwyr a Chymrodyr ILEX hawl i gael eu rhestru fel aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr os ydynt yn gallu dangos, yn unol â gweithdrefn gyhoeddedig Cymdeithas y Cyfreithwyr, fod ganddynt ddigon o arbenigedd mewn materion esgeuluster clinigol.

(14)

Elusen yw Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol (AVMA) a sefydlwyd i hybu diogelwch cleifion. Mae'n rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX). Gall cyfreithwyr a Chymrodyr ILEX sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni meini prawf cyhoeddedig ar gyfer dangos arbenigedd ym maes esgeuluster clinigol ddod yn aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol AVMA.

(15)

2005 p.9.

(16)

2006 p.41.

(21)

1980 p.58.

(22)

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX) sy'n arbenigo mewn achosion o esgeuluster clinigol. Mae gan gyfreithwyr a Chymrodyr ILEX hawl i gael eu rhestru fel aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr os ydynt yn gallu dangos, yn unol â gweithdrefn gyhoeddedig Cymdeithas y Cyfreithwyr, fod ganddynt ddigon o arbenigedd mewn materion esgeuluster clinigol.

(23)

Elusen yw Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol (AVMA) a sefydlwyd i hybu diogelwch cleifion. Mae'n rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX). Gall cyfreithwyr a Chymrodyr ILEX sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni meini prawf cyhoeddedig ar gyfer dangos arbenigedd ym maes esgeuluster clinigol ddod yn aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol AVMA.

(24)

2005 p.9.

(25)

2003 p.43.

(26)

2008 p.14.

(27)

2005 p.10.

(28)

2006 p.42.