- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol o'r farn yn rhesymol bod anifail nad yw'n anifail buchol, mewn unrhyw fangre lle y cynhelir sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair, yn anifail yr effeithiwyd arno, yn anifail dan amheuaeth, neu'n un a fu'n agored i'w heintio â thwbercwlosis, caiff yr arolygydd milfeddygol—
(a)drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail nad yw'n anifail buchol, ei gwneud yn ofynnol symud yr anifail hwnnw nad yw'n anifail buchol o'r fangre honno, a mynd ag ef—
(i)i ladd-dy i'w gigydda ar unwaith;
(ii)yn ôl i'r fangre yr aed â'r anifail nad yw'n anifail buchol ohoni i'r sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair; neu
(iii)i ba bynnag fangre arall a gymeradwyir gan yr arolygydd milfeddygol at y diben hwnnw; a
(b)drwy gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y fangre—
(i)ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw'n sicrhau na ddefnyddir unrhyw ran neu rannau o'r fangre, a bennir yn yr hysbysiad, gan unrhyw anifail arall am ba bynnag gyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a
(ii)ei gwneud yn ofynnol bod y person hwnnw, o fewn y cyfryw amser ac yn y cyfryw fodd a bennir yn yr hysbysiad—
(aa)yn glanhau a diheintio, gyda diheintydd cymeradwy, pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad; a
(bb)yn cael gwared ag unrhyw dail, slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, sarn neu ddeunydd arall a fu mewn cysylltiad, neu a allai fod wedi dod i gysylltiad ag anifail o'r fath nad yw'n anifail buchol.
(2) Pan symudir anifail nad yw'n anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii), rhaid i'r ceidwad ei ynysu ar unwaith, a pheidio â'i symud o'r fangre drachefn, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.
(3) Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1)(b) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chânt adennill swm unrhyw dreuliau a achosir iddynt yn rhesymol, oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: