xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 559 (Cy.81)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

TRWYDDEDU (MOROL), CYMRU

LLYGREDD MOROL, CYMRU

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011

Gwnaed

25 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Mawrth 2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(1), (2) a (3) a 316(1) o'r Ddeddf honno, a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff(3).

Wrth benderfynu gwneud y Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i'r materion a grybwyllir yn adran 74(4) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 74(5) o'r Ddeddf honno.

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2011.

Cymhwyso

2.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(4).

Dehongli

3.  Yn y Gorchymyn hwn—

RHAN 2Gweithgareddau esempt – darpariaethau cyffredinol

Esemptio rhag yr angen am drwydded forol

4.—(1Nid oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd a ymgymerir yng Nghymru neu yn rhanbarth glannau Cymru, sy'n weithgaredd esempt.

(2Mae gweithgaredd yn weithgaredd esempt i'r graddau—

(a)y bo'n weithgaredd y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo(13); a

(b)pan fo cymhwysedd yr erthygl hon i weithgaredd yn ddarostyngedig i amod a bennir yn Rhan 3, y bo'r amod hwnnw wedi ei fodloni mewn perthynas â'r gweithgaredd hwnnw.

(3Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac erthygl 5.

(4Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n gwneud gweithgaredd yn weithgaredd esempt i'r graddau y bo ymgymryd â'r gweithgaredd yn groes i gyfraith ryngwladol.

Gweithgareddau mewn perthynas â gwaredu neu adfer gwastraff

5.—(1Nid yw gweithgaredd gan sefydliad neu ymgymeriad sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff yn weithgaredd esempt, oni fodlonir yr amodau yn yr erthygl hon.

(2Amod 1 yw fod y sefydliad neu ymgymeriad yn ymgymryd ag—

(a)gwaredu ei wastraff amheryglus ei hunan yn y man cynhyrchu; neu

(b)adfer gwastraff.

(3Amod 2 yw fod y math a'r maint o wastraff sydd dan sylw, a'r dull o waredu neu adfer, yn gyson â'r angen i gyrraedd yr amcanion a grybwyllir yn Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

(4Amod 3 yw fod y sefydliad neu ymgymeriad wedi ei gofrestru gyda'r awdurdod trwyddedu.

(5Rhaid i'r awdurdod trwyddedu at ddibenion paragraff 4, gadw cofrestr sy'n cynnwys enw a chyfeiriad pob sefydliad neu ymgymeriad sy'n ymgymryd â gweithgaredd esempt sy'n cynnwys gwaredu neu adfer gwastraff o fewn ardal yr awdurdod trwyddedu.

(6Ceir cadw'r gofrestr mewn unrhyw ffurf.

(7Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “sefydliad” ac “ymgymeriad”, yn eu trefn, yr ystyron a roddir i “establishment” ac “undertaking” yn erthyglau 23 a 24 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;

(b)mae i “gwastraff amheryglus” yr ystyr a roddir i “non-hazardous waste” yn y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;

(c)mae i “adfer” yr ystyr a roddir i “recovery” yn Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

RHAN 3Gweithgareddau y mae erthygl 4 (esemptio rhag yr angen am drwydded forol) yn gymwys iddynt ac amodau

Dehongli'r Rhan hon

6.—(1Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at eitem â rhif yn gyfeiriad at yr eitem â'r rhif hwnnw yn adran 66(1) o'r Ddeddf.

(2Yn Rhan hon—

(a)mae cyfeiriad at “ddyddodiad” yn gyfeiriad at ddyddodiad sy'n dod o fewn eitem 1 (dyddodion o fewn ardal drwyddedu forol y DU etc), eitem 2 (dyddodion o longau etc Prydeinig mewn unrhyw fan ar y môr etc), eitem 3 (dyddodiad o gerbyd, llong etc a lwythwyd yn y Deyrnas Unedig ac eithrio'r Alban neu ardal drwyddedu forol y DU) neu, ac eithrio pan ddarperir fel arall, eitem 10 (dyddodi ffrwydron o fewn ardal drwyddedu forol y DU etc);

(b)mae cyfeiriad at “weithgaredd treillio” yn gyfeiriad at weithgaredd sy'n dod o fewn eitem 9 (cynnal unrhyw ffurf o dreillio o fewn ardal drwyddedu forol y DU);

(c)mae cyfeiriad at “weithgaredd symud” yn gyfeiriad at weithgaredd sy'n dod o fewn eitem 8 (defnyddio cerbyd, llong etc i symud sylwedd neu wrthrych oddi ar wely'r môr o fewn ardal drwyddedu forol y DU);

(ch)mae cyfeiriad at “weithgaredd gweithiau” yn gyfeiriad at weithgaredd sy'n dod o fewn eitem 7 (adeiladu, newid neu wella gweithiau o fewn ardal drwyddedu forol y DU etc).

Gweithgareddau sy'n dod o fewn Rhan 6 o Ddeddf Llongau Masnach 1995

7.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd sy'n dod o fewn Rhan 6 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(14) (atal llygru).

Cyfarwyddiadau diogelwch o dan Ddeddf Llongau Masnach 1995

8.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir—

(a)gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pŵer o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995(15) (cyfarwyddiadau diogelwch);

(b)gan unrhyw berson at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan yr Atodlen honno; neu

(c)gan unrhyw berson at y diben o osgoi ymyrraeth â gweithredu a gyflawnwyd yn rhinwedd yr Atodlen honno.

Gweithgareddau achub llongau

9.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir yn ystod gweithred achub llongau, at y diben o sicrhau diogelwch llong neu atal llygru.

Ymladd tanau etc

10.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir at y diben o ymladd unrhyw dân neu atal ei ledaeniad.

Ymchwilio i ddamweiniau awyr

11.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd dyddodi neu symud a ymgymerir at y diben o adfer unrhyw sylwedd neu wrthrych, yn rhan o ymchwiliad i unrhyw ddamwain sy'n ymwneud ag awyren.

Gweithredoedd pysgota

12.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol os cyflawnir y gweithgaredd yng nghwrs gweithred bysgota—

(a)dyddodi gêr pysgota ac eithrio dyddodiad a wneir at y diben o waredu;

(b)gweithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o—

(i)pysgota am bysgod neu gymryd pysgod, neu

(ii)symud gêr pysgota;

(c)dyddodi, drwy'u dychwelyd i'r môr, unrhyw bysgod neu wrthrych arall.

(2Mae erthygl 4 hefyd yn gymwys i ddyddodi drwy ddychwelyd i'r môr unrhyw bysgod wrth brosesu pysgod ar y môr.

(3Yn yr erthygl hon—

(a)mae “pysgod” yn cynnwys pysgod cregyn ac unrhyw ran o bysgodyn;

(b)mae “gêr pysgota” yn cynnwys gêr a ddefnyddir i bysgota am bysgod cregyn neu gymryd pysgod cregyn, ond ac eithrio hynny, nid yw'n cynnwys dim a ddefnyddir mewn cysylltiad â lledaenu neu fagu pysgod cregyn.

Lledaenu a magu pysgod cregyn

13.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)ddyddodi unrhyw bysgod cregyn, trestl, rafft, cawell, polyn, rhaff neu lein wrth ledaenu neu fagu pysgod cregyn;

(b)gweithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o symud pysgod cregyn o fewn y môr yn ystod eu lledaenu neu'u magu.

(2Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath—

(a)a wneir at y diben o waredu;

(b)a wneir at y diben o greu, newid neu gynnal creigres artiffisial; neu

(c)sy'n achosi neu'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyo.

Dyddodi sylweddau trin cemegion morol, sylweddau trin olew morol etc

14.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi unrhyw—

(a)sylwedd trin cemegion morol;

(b)sylwedd trin olew morol;

(c)sylwedd a ddefnyddir, neu a fwriedir i'w ddefnyddio, i symud deunydd tyfiant arwynebol, oddi ar wyneb y môr neu wyneb gwely'r môr.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 i 4.

(3Amod 1 yw fod rhaid i'r sylwedd fod yn un y mae'i ddefnyddio wedi ei gymeradwyo ar y pryd gan yr awdurdod trwyddedu at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(4Amod 2 yw fod rhaid i'r sylwedd gael ei ddefnyddio yn unol ag unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(5Amod 3 yw na cheir dyddodi mewn ardal o'r môr lle mae'r dyfnder yn llai nag 20 metr neu sydd o fewn un fôr-filltir i ardal o'r fath, ac eithrio gyda chymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu.

(6Amod 4 yw na cheir dyddodi unrhyw sylwedd trin cemegion morol neu sylwedd trin olew morol islaw arwyneb y môr ac eithrio gyda chymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu.

(7Yn yr erthygl hon, mae i “sylwedd trin cemegion morol” a “sylwedd trin olew morol”, yn eu trefn, yr ystyron sydd i “marine chemical treatment substance” a “marine oil treatment substance” yn adran 107(2) o'r Ddeddf.

Dyddodi cyfarpar i reoli, cyfyngu neu adfer olew etc

15.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad o unrhyw gyfarpar at y diben o reoli, cyfyngu neu adfer unrhyw—

(a)olew,

(b)cymysgedd sy'n cynnwys olew,

(c)cemegyn,

(ch)broc môr, neu

(d)gordyfiant algaidd.

(2Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath i'r graddau y mae'n dod o fewn eitem 10.

Offer gwyddonol etc

16.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodi unrhyw offer gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig mewn perthynas ag unrhyw arbrawf neu arolwg gwyddonol;

(b)dyddodi unrhyw ymweithredydd;

(c)dyddodi unrhyw olrheinydd;

(ch)gweithgaredd symud a gynhelir at y diben o symud unrhyw offeryn gwyddonol neu gyfarpar cysylltiedig y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

(2Mae is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3Amod 1 yw fod rhaid i'r ymweithredydd neu'r olrheinydd fod, ar y pryd, yn un a gymeradwyir gan yr awdurdod trwyddedu at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(4Amod 2 yw fod rhaid defnyddio'r ymweithredydd neu'r olrheinydd yn unol ag unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(5Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i—

(a)unrhyw ddyddodiad o'r fath a wneir at y diben o waredu;

(b)unrhyw ddyddodiad o'r fath sy'n achosi neu'n debygol o achosi rhwystr neu berygl i fordwyo;

(c)unrhyw ddyddodiad neu weithgaredd symud o'r fath—

(i)sy'n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (6); a

(ii)nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â, nac yn angenrheidiol ar gyfer, rheolaeth y safle neu'r parth (yn ôl fel y digwydd) y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw.

(6Mae dyddodiad yn dod o fewn y paragraff hwn–

(a)os yw'n gynllun neu brosiect sy'n debygol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd; neu

(b)os yw'n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ramsar.

(7Yn is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (6), mae i “tebygol” yr ystyr sydd i “likely” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(16).

Dyddodion yn ystod treillio am agregau neu fwynau

17.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodi, ar safle treillio am agregau neu fwynau eraill, unrhyw sylwedd neu wrthrych a gymerir o'r môr wrth dreillio felly (ac eithrio unrhyw rai o'r agregau neu'r mwynau y treillir amdanynt);

(b)dyddodi dyfroedd (pa un ai drwy orlifo neu arllwys â phwmp) allan o grombil llong–

(i)yn ystod treillio arferol am agregau neu fwynau eraill, neu

(ii)ar safle treillio o'r fath ar ôl ei gwblhau neu yn ystod taith y llong yn ôl.

Cynnal a chadw gweithiau ar gyfer diogelu'r arfordir, draenio ac amddiffyn rhag llifogydd

18.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)gweithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd at y diben o gynnal a chadw—

(i)gweithiau ar gyfer diogelu'r arfordir;

(ii)gweithiau draenio;

(iii)gweithiau i amddiffyn rhag llifogydd;

(b)gweithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod diogelu'r arfordir o fewn yr ystyr a roddir i “coast protection authority” yn Neddf Diogelu'r Arfordir 1949(17) at y diben o gynnal a chadw unrhyw weithiau diogelu'r arfordir.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod y cyflawnir y gweithgaredd o fewn ffiniau presennol y gweithiau a gynhelir.

(3Nid yw erthygl 4 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd o'r fath sy'n cynnwys ailgyflenwi traeth.

Gwaith argyfwng wrth ymateb i lifogydd neu risg o lifogydd

19.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd, at y diben o gyflawni gwaith argyfwng wrth ymateb i lifogydd neu'r risg bod gorlifiad ar fin digwydd.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod na cheir ymgymryd â'r gweithgaredd ac eithrio'n unol â chymeradwyaeth a roddir gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwnnw.

Defnyddio cerbydau I gasglu sbwriel neu wymon oddi ar draethau

20.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud gan ddefnyddio cerbyd, a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod lleol at y diben o symud sbwriel neu wymon oddi ar draeth.

(2Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd symud o'r fath—

(a)sy'n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (3); a

(b)nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â, neu'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r safle y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw.

(3Mae gweithgaredd yn dod o fewn y paragraff hwn—

(a)os yw'n gynllun neu brosiect sy'n debygol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill) o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd; neu

(b)os yw'n debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ramsar.

(4Ym mharagraff (1), mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 68(9) o'r Ddeddf.

(5Ym mharagraff (3)(a) a (b), mae i “tebygol” yr ystyr a roddir i “likely” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.

Dyddodion yn ystod mordwyo neu waith cynnal arferol

21.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi o gerbyd, llong, awyren neu strwythur morol wrth fordwyo neu wneud gwaith cynnal arferol.

(2Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath—

(a)a wneir at y diben o waredu;

(b)i'r graddau y mae'n dod o fewn eitem 10.

Cynnal a chadw gweithiau harbwr

22.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad, gweithgaredd symud neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan neu ar ran awdurdod harbwr at y diben o gynnal unrhyw weithiau harbwr.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod y cyflawnir y gweithgaredd o fewn ffiniau presennol y gweithiau a gynhelir.

Symud rhwystr neu berygl i fordwyaeth

23.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o symud unrhyw beth sy'n achosi, neu'n debygol o achosi, rhwystr neu berygl i fordwyaeth.

(2Y personau yw—

(a)awdurdod cadwraeth (yn yr ystyr a roddir i “conservancy authority” gan adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(18);

(b)awdurdod harbwr;

(c)awdurdod goleudy;

(ch)person sydd â phwerau o dan unrhyw ddeddfiad neu orchymyn statudol i weithio neu gynnal camlas neu fath arall o fordwyaeth fewndirol, gan gynnwys mordwyaeth mewn dyfroedd llanwol.

Angorfeydd a chymhorthion mordwyo

24.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o ddarparu angorfa byst, angorfa sigl, angorfa drot neu gymorth mordwyo;

(b)gweithgaredd symud a ymgymerir gan unrhyw berson o'r fath at y diben o symud unrhyw angorfa neu gymorth mordwyo o'r fath.

(2Y personau yw—

(a)awdurdod harbwr;

(b)awdurdod goleudy;

(c)unrhyw berson arall, sy'n ymgymryd â'r gweithgaredd yn unol â chaniatâd a geisiodd ac a gafodd gan unrhyw awdurdod o'r fath.

(3Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd o'r fath sy'n cynnwys dyddodi neu adeiladu pontŵn.

Arwyddion ar gyfer safleoedd morol Ewropeaidd a pharthau cadwraeth morol

25.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i—

(a)dyddodiad gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru at y diben o osod arwydd at ddibenion rheoliad 35(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(19) (gosod arwyddion i ddynodi bodolaeth a ffiniau safle morol Ewropeaidd o fewn ystyr “European marine site” yn y Rheoliadau hynny (20));

(b)gweithgaredd symud a ymgymerir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru at y diben o symud arwydd y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod na cheir ymgymryd â'r gweithgaredd ac eithrio'n unol â chymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwnnw.

Lansio llongau a chychod etc

26.  Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad mewn cysylltiad â lansio unrhyw gerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol.

Datgymalu llongau

27.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud a ymgymerir yn rhan o ddatgymalu llong sy'n wastraff.

(2Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath i'r graddau y mae'n dod o fewn eitem 10.

Llwybrau deifwyr mewn ardaloedd dan gyfyngiadau

28.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a ymgymerir at y diben o osod, cysylltu neu symud arwyddion neu ddynodyddion eraill mewn perthynas â llongddrylliad, mewn ardal a ddynodwyd yn ardal dan gyfyngiadau, yn yr ystyr a roddir i “restricted area” yn adran 1 o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973(21).

Gweithgareddau gwylwyr y glannau – dibenion diogelwch a hyfforddiant

29.  Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn gweithredu drwy Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, at y diben o—

(a)sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol;

(b)achub bywyd; neu

(c)hyfforddi at unrhyw ddiben y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b).

Dyddodi a defnyddio ffaglau etc – dibenion diogelwch a hyfforddiant

30.  Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodi neu ddefnyddio unrhyw ffagl cyfyngder, arnofyn mwg neu sylwedd neu wrthrych pyrotechnegol cyffelyb at y diben o—

(a)sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol;

(b)achub bywyd; neu

(c)hyfforddi at unrhyw ddiben y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b).

Ceblau a phiblinellau – archwilio ac atgyweirio awdurdodedig mewn argyfwng

31.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad neu weithgaredd symud neu weithgaredd treillio a ymgymerir at y diben o gyflawni archwiliad o unrhyw gebl neu biblinell, neu waith atgyweirio arno neu arni.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i'r amod na cheir ymgymryd â'r gweithgaredd ac eithrio'n unol â chymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod trwyddedu at y diben hwnnw.

(3Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw ddyddodiad o'r fath sy'n dod o fewn eitem 10.

Twnelau turiedig

32.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i dyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir yn gyfan gwbl o dan wely'r môr mewn cysylltiad ag adeiladu neu weithredu twnnel turiedig.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.

(3Amod 1 yw fod rhaid hysbysu'r awdurdod trwyddedu, mewn ysgrifen, o'r bwriad i ymgymryd â'r gweithgaredd, cyn ymgymryd â'r gweithgaredd.

(4Amod 2 yw fod rhaid i'r gweithgaredd beidio â chael effaith anffafriol ar amgylchedd Cymru a rhanbarth glannau Cymru, nac ar yr adnoddau byw y mae'r amgylchedd hwnnw'n eu cynnal.

(5Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i ddyddodiad a wneir at y diben o waredu.

Hawliau llongau tramor etc o dan gyfraith ryngwladol

33.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd i'r graddau yr ymgymerir ag ef wrth arfer hawl o dan reolau cyfraith ryngwladol gan, neu mewn perthynas ag—

(a)llong trydedd gwlad;

(b)llong ryfel, llong llynges atodol, llong arall neu awyren sy'n eiddo i Wladwriaeth ac a weithredir ganddi, ac a ddefnyddir ar y pryd ar gyfer gwasanaeth anfasnachol y llywodraeth yn unig (pa un ai yw'r llong ryfel, llong llynges atodol neu long arall yn llong trydedd gwlad ai peidio).

(2Ym mharagraff (1), ystyr “llong trydedd gwlad” yw llong—

(a)sy'n arddangos baner, neu wedi ei chofrestru mewn, unrhyw Wladwriaeth neu diriogaeth (ac eithrio Gibraltar) nad yw'n Aelod-wladwriaeth; a

(b)nad yw wedi ei chofrestru mewn Aelod-wladwriaeth.

Llwytho cerbyd neu long etc â deunydd i'w losgi y tu allan i Gymru a rhanbarth glannau Cymru

34.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i lwytho cerbyd, llong, awyren, adeiledd morol neu gynhwysydd arnofiol gydag unrhyw sylwedd neu wrthrych ar gyfer ei losgi—

(a)yn rhanbarth glannau'r Alban;

(b)yn ardal drwyddedu forol y DU ac eithrio yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru;

(c)y tu allan i ardal drwyddedu forol y DU a rhanbarth glannau'r Alban, pan fo'r llosgi i ddigwydd ar—

(i)llong neu adeiledd morol Prydeinig; neu

(ii)cynhwysydd arnofiol yn y môr, os rheolir y llosgi o long Brydeinig, awyred Brydeinig neu adeiledd morol Prydeinig.

(2Ond mae paragraff (1) yn gymwys, yn unig, i'r graddau y mae gweithgaredd o'r fath yn dod o fewn eitem 13.

Jane Davidson

Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

25 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu pa weithgareddau na fydd arnynt angen trwydded forol, neu na fydd arnynt angen trwydded forol os bodlonir amodau a bennir yn y Gorchymyn. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy a gynhelir yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru ac y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (erthygl 2).

Mae Rhan 1 (erthyglau 1 i 3) yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.

Mae Rhan 2 (erthyglau 4 a 5) yn cynnwys darpariaethau sy'n pennu o dan ba amgylchiadau nad oes angen trwydded forol ar gyfer gweithgaredd morol trwyddedadwy, a darpariaethau ynglŷn â gwastraff (sy'n gweithredu, yn rhannol, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3)).

Mae Rhan 3 (erthyglau 6 i 34) yn cynnwys darpariaethau sy'n pennu'r gweithgareddau morol trwyddedadwy nad oes arnynt angen trwydded forol (gan gynnwys unrhyw amodau y mae'n rhaid eu bodloni fel rhan o'r esemptiad hwnnw).

Mae asesiad llawn o'r effeithiau y bydd yr offeryn hwn yn eu cael ar gostau busnes, y sector gwirfoddol a'r sector cyhoeddus ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(3)

Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 2) 2010 [O.S. 2010/ 1552].

(4)

Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.

(5)

1964 p.40, y gwnaed diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(6)

1995 p.21. Gweler adran 193 o'r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau perthnasol i'r adran honno gan baragraff 6 o Atodlen 6 i Ddeddf Llongau Masnach a Diogelwch Arforol 1997 (p.28).

(7)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).

(8)

Gweler adrannau 66 a 115(1) o'r Ddeddf.

(9)

OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.

(11)

O.S.2007/1842, a ddiwygiwyd gan O.S.2010/1513.

(12)

1981 p.69. Mewnosodwyd adran 37A mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan adran 77 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a diwygiwyd hi gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (p.16), a pharagraff 86 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(13)

Mae Rhan 3 yn pennu'r gweithgareddau y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt.

(15)

Mewnosodwyd adran 108A o Ddeddf Llongau Masnach 1995, sy'n rhoi effaith i Atodlen 3A, gan adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Morol 2003.

(16)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).

(17)

1949 p.74. Diwygiwyd Rhan 1 gan Atodlen 2 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), o ddyddiad sydd i'w bennu.

(20)

Gweler rheoliad 8(4) am ddiffiniad o “European marine site”.

(21)

1973 p.33. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973, ac eithrio adran 2, i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 [O.S.1999/672] ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw a chan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).