RHAN 3Gweithgareddau y mae erthygl 4 (esemptio rhag yr angen am drwydded forol) yn gymwys iddynt ac amodau
Angorfeydd a chymhorthion mordwyo24
1
Mae erthygl 4 yn gymwys i—
a
dyddodiad neu weithgaredd gweithiau a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o ddarparu angorfa byst, angorfa sigl, angorfa drot neu gymorth mordwyo;
b
gweithgaredd symud a ymgymerir gan unrhyw berson o'r fath at y diben o symud unrhyw angorfa neu gymorth mordwyo o'r fath.
2
Y personau yw—
a
awdurdod harbwr;
b
awdurdod goleudy;
c
unrhyw berson arall, sy'n ymgymryd â'r gweithgaredd yn unol â chaniatâd a geisiodd ac a gafodd gan unrhyw awdurdod o'r fath.
3
Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i unrhyw weithgaredd o'r fath sy'n cynnwys dyddodi neu adeiladu pontŵn.