2011 Rhif 555 (Cy.78)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
TRWYDEDU (MOROL), CYMRU
LLYGREDD MOROL, CYMRU

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 20091, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 67(2), (3)(b) a 316(1)(b) o'r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.

Cymhwyso2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw gais am drwydded forol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag ef 2.

Dehongli3

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “ardal amgylcheddol sensitif” (“environmentally sensitive area” ) yw—

    1. a

      gwarchodfa natur forol o fewn yr ystyr a roddir i “marine nature reserve” yn adran 36 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 19813;

    2. b

      safle Ramsar o fewn yr ystyr a roddir i “Ramsar site” yn adran 37A o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 19814;

    3. c

      safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 28 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 19815;

    4. ch

      ardal cadwraeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special area of conservation” gan Erthygl 1(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd)6;

    5. d

      ardal gwarchodaeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special protection area” gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 20107;

  • ystyr “cais am drwydded forol” (“application for a marine licence”) yw cais am drwydded i ymgymryd ag un neu ragor o weithgareddau morol trwyddedadwy;

  • ystyr “ffi” (“fee”) yw'r ffi sy'n daladwy am benderfynu cais am drwydded forol;

  • ystyr “tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol” (“environmental sensitivity supplement”) yw ychwanegiad at y ffi sy'n daladwy mewn perthynas â rhai ceisiadau am drwydded forol.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at dabl â rhif yn gyfeiriad at y tabl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen.

Talu ac adennill ffioedd4

1

Mae'r holl ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru.

2

Mae'r holl ffioedd yn daladwy pan ofynnir am y tâl.

3

Caniateir talu unrhyw ffi drwy ddull electronig.

4

Bydd Gweinidogion Cymru wedi cael unrhyw ffi pan fydd arian cliriedig yn eu meddiant ar gyfer swm cyfan y ffi honno.

5

Bydd unrhyw ffi neu ran o ffi na fydd wedi ei thalu yn adenilladwy gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.

Prosiectau adeiladu5

1

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu nad yw'n dod o fewn rheoliad 9 (prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 1.

2

Ond, ac eithrio yn achos cais y mae band 1 yn nhabl 1 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).

3

Os bwriedir ymgymryd ag un neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.

4

Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2.

Gwaredu — treillio morol6

1

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir, nad yw'n dod o fewn paragraff (4), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 3.

2

Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cyfalaf, mae'r raddfa ffioedd yn y drydedd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.

3

Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cynnal a chadw, mae'r raddfa ffioedd yn y bedwaredd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.

4

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir at ddefnydd llesiannol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 4.

5

Ond mae paragraff (4) yn ddarostyngedig i baragraff (6).

6

Os bwriedir ymgymryd ag neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais, y cyfeirir ato ym mharagraff (4), o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.

7

Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2, yn ddarostyngedig i'r addasiad ym mharagraff (8).

8

Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid darllen cyfeiriad yn nhabl 2 at gost y prosiect fel pe bai'n gyfeiriad at gost y prosiect y mae'r deunydd a dreillir ac y bwriedir ei waredu yn tarddu ohono.

9

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “defnydd llesiannol” (“beneficial use”) yw defnydd sy'n llesiannol i'r amgylchedd;

  • ystyr “deunydd a dreillir” (“dredged material”) yw unrhyw sylwedd neu wrthrych sy'n tarddu o dreillio morol.

Gwaredu — gwastraff pysgod7

Pan fo cais am drwydded forol yn ymwneud â gwaredu gwastraff pysgod, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 5.

Echdynnu mwynau drwy dreillio morol8

1

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio morol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at yr ail golofn yn nhabl 6.

2

Ond mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).

3

Pan fo penderfynu cais am drwydded forol o dan baragraff (1) yn cynnwys cynnal ymchwiliad8, mae'r ffi a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw yn daladwy yn ychwanegol at y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1).

Prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth9

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect ynni adnewyddadwy alltraeth, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 7.

Piblinellau tanfor ac adeileddau cysylltiedig10

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phiblinell danfor neu adeiledd cysylltiedig ac yn dod o fewn disgrifiad yn y golofn gyntaf yn nhabl 8, penderfynir y ffi briodol drwy gyfeirio at yr ail golofn o'r tabl hwnnw.

Olrheinyddion a lliwurau11

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â dyddodi olrheinyddion neu liwurau, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 9.

Angorfeydd a chymhorthion mordwyo12

Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag angorfeydd syml a chymhorthion mordwyo, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 10.

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliadau 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12

Tabl 1Prosiectau adeiladu

Band

Cost y prosiect (£)

Ffi (£)

1

0 i 5,499

127

2

5,500 i 9,999

715

3

10,000 i 49,999

1,025

4

50,000 i 1,999,999

2,275

5

2 filiwn i 4,999,999

4,525

6

5 miliwn i 19,999,999

7,191

7

20 miliwn i 49,999,999

12,010

8

50 miliwn ac uwch

38,650

Tabl 2Tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol

Band

Cost y prosiect (£)

Tâl atodol (£)

1

5,500 i 9,999

275

2

10,000 i 49,999

575

3

50,000 i 1,999,999

950

4

2 filiwn i 4,999,999

1,350

5

5 miliwn i 19,999,999

1,605

6

20 miliwn i 49,999,999

1,720

7

50 miliwn ac uwch

2,750

Tabl 3Gwaredu deunydd a dreillir (ac eithrio at ddefnydd llesiannol)

Band

Maint a waredir (tunelli)

Ffi (£) Cyfalaf

Ffi (£) Cynnal a chadw

1

0 i 9,999

4,500

3,650

2

10,000 i 49,999

9,100

7,225

3

50,000 i 99,999

12,800

9,950

4

100,000 i 499,999

19,850

15,950

5

500,000 i 999,999

28,850

22,050

6

1,000,000 ac uwch

43,500

34,750

Tabl 4Gwaredu deunydd a dreillir at ddefnydd llesiannol

Band

Maint a waredir (tunelli)

Ffi (£)

1

0 i 99,999

715

2

100,000 i 999,999

2,275

3

1,000,000 ac uwch

4,525

Tabl 5Gwaredu gwastraff pysgod

Maint a waredir

Ffi (£)

Unrhyw

2,995

Tabl 6Echdynnu mwynau drwy dreillio morol

Cais

Ffi (£)

Ffi ychwanegol pan gynhelir ymchwiliad(£)

Echdynnu mwynau drwy dreillio morol

27,500

15,000

Tabl 7Prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth

Band

Gallu cynhyrchu (megawatiau)

Ffi (£)

Band 1

0 i 0.99MW

2,000

Band 2

1 i 4.99MW

6,000

Band 3

5 i 99MW

26,222

Band 4

100MW ac uwch

38,650

Tabl 8Piblinellau tanfor ac adeileddau cysylltiedig

Cais

Ffi (£)

Cyn-ysgubo

10,670

Dadlwytho cerrig

2,275

Matresu

2,275

Selio ffynhonnau neu bibellau (pan y'u gadewir)

2,275

Tabl 9Dyddodi olrheinyddion a lliwurau

Cais

Ffi (£)

Dyddodi olrheinyddion

83

Dyddodi lliwurau

83

Tabl 10Angorfeydd a chymhorthion mordwyo

Cais

Ffi (£)

Angorfeydd syml

127

Cymhorthion mordwyo

127

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r ffioedd sydd i'w codi ynglŷn â cheisiadau am drwyddedau morol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.

Mae rheoliad 3 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu ac adennill ffioedd.

Mae rheoliadau 5 i 12 a'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu'r ffioedd sydd i'w codi mewn perthynas â cheisiadau am drwyddedau morol o ddisgrifiad sy'n dod o fewn y rheoliadau hynny.

Lluniwyd asesiad llawn o effaith y system drwyddedu forol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac y mae ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.