xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 465 (Cy.70)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2011

Gwnaed

20 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Chwefror 2011

Yn dod i rym

17 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau hyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 17 Mawrth 2011.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.—(1Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4) (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), yn lle paragraff (15) rhodder y canlynol—

(15) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a) it shall be a defence to prove that—

(a)(i)in the case of wine in which lysozyme (produced from egg) is used, or in which albumin (produced from egg) or a milk (casein) product has been used as a fining agent, the food concerned was sold before 30 June 2012 or marked or labelled before that date, or

(ii)in the case of any other food, the food concerned was sold before 31 May 2009 or marked or labelled before that date; and

(b)the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2011 had not been in operation when the food was sold..

Dirymu

3.  Mae Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2009(5) wedi eu dirymu.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

20 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru y diwygiad a wnaed i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2007/68/EC (OJ Rhif L310, 28.11.2007, t.11) gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1266/2010 (OJ Rhif L347, 31.12.2010, t.27). Mae'r Gyfarwyddeb hon ei hun yn diwygio Atodiad IIIa i Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynhwysion bwyd penodol (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29). Y cynhwysion o dan sylw yw'r rhai sy'n debyg o achosi adwaith alergaidd mewn rhai defnyddwyr.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau o ran y gofynion labelu ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig, gan gynnwys esemptiadau labelu ar gyfer ffurfiau penodol ar y cynhwysion hynny, a'r rheini'n ffurfiau a broseswyd, drwy estyn o 31 Rhagfyr 2010 i 30 Mehefin 2012 y cyfnod trosiannol ar gyfer lysosym sy'n dod o wyau ac ar gyfer cynhyrchion albwmin (a gynhyrchwyd o wyau) neu gynhyrchion llaeth (casein) pan ddefnyddir hwy yn asiantau diwaddodi mewn gwin, o ran gwinoedd a gafodd eu marcio, eu labelu neu eu gwerthu cyn y dyddiad hwnnw (rheoliad 2).

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, a throsglwyddwyd hwy wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 mewn cysylltiad â'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu at y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(4)

O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2010/2922 (Cy.243). Mewnosodwyd rheoliadau 13(8)(c) a 34B a'r Atodlen gysylltiedig AA1 gan O.S. 2004/3022 (Cy.261). Diwygiwyd rheoliad 34B gan O.S. 2005/2835 (Cy.200); diwygiwyd Atodlen AA1 gan O.S. 2008/1268 (Cy.128). Mewnosodwyd paragraff (13) o reoliad 50 gan O.S. 2005/1309 (Cy.91), paragraff (14) o'r rheoliad hwnnw gan O.S. 2007/3379 (Cy.301) a pharagraff (15) o'r rheoliad hwnnw gan O.S. 2008/1268 (Cy.128), a diwygiwyd paragraff (15) ddiwethaf gan O.S. 2009/2880 (Cy.253).