xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 446 (Cy.67)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2011

Gwnaed

16 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Chwefror 2011

Yn dod i rym

28 Chwefror 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 28 Chwefror 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1992” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio)

2.  Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—

(a)bod y geiriau “or relevant special grant” yn is-adran (3)(a)(3) wedi eu hepgor; a

(b)bod yr is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (12)(4)

(12A) In this section and section 33 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.1) 2011—2012 (Final Settlement — Councils) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2)(5) of, and paragraph 11B(1)(6) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 15 February 2011; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report..

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (awdurdodau bilio)

3.  Mae adran 33(1) o Ddeddf 1992(7) yn cael effaith fel petai'r geiriau “or relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor.

Cyfrifo anghenion cyllideb (prif awdurdodau praeseptio)

4.  Mae adran 43 o Ddeddf 1992 yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—

(a)yn is-adran (3)(a)(i)(8)

(i)bod y geiriau “relevant special grant” wedi eu hepgor; a

(ii)bod y geiriau “floor funding” wedi eu mewnosod o flaen “or police grant;”; a

(b)bod yr is-adrannau a ganlyn wedi eu mewnosod ar ôl is-adran (6D)(9)

“(6E) In this section and section 44 below—

(a)references to sums payable for the financial year in respect of redistributed non-domestic rates are references to sums so payable in accordance with the Local Government Finance Report (No.2) 2011—2012 (Final Settlement—Police Authorities) approved by resolution of the National Assembly for Wales pursuant to section 84H(2) of, and paragraph 11B(1) of Schedule 8 to, the Local Government Finance Act 1988 on 16 February 2011; and

(b)references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.

(6F) In this section and section 44 below “floor funding” means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State in addition to the police grant referred to in subsection (6C)..

Cyfrifo swm sylfaenol y dreth gyngor (prif awdurdodau praeseptio)

5.  Mae adran 44(1) o Ddeddf 1992(10) yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—

(a) bod y geiriau “relevant special grant” yn eitem P wedi eu hepgor; a

(b)bod y geiriau “floor funding” yn eitem P wedi eu mewnosod o flaen y geiriau “or police grant;”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

16 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn disgrifio, yn ôl eu trefn, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo eu hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn disgrifio, yn ôl eu trefn, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth cyngor.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011.

Mae Rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at “relevant special grant” o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011.

Mae Rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod diffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992. Diben hyn yw i sicrhau nad yw'r symiau ardrethi annomestig a ailddosberthir a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adrannau hynny ond yn ymwneud â'r cyfryw symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol yn eu trefn am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011. Mae'r un diffiniadau yn gymwys hefyd i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae Rheoliad 4(b) hefyd yn diffinio “floor funding” yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011.

Mae Rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 wrth wneud y cyfrifiad gofynnol am y flwyddyn honno.

(1)

1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).

(2)

Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 32(3)(a) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) (Cymru) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234). Fe'i haddaswyd hefyd, mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2010—2011, gan reoliad 2(a) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/317 (Cy.41)).

(4)

Addaswyd adran 32 hefyd gan reoliad 2(b) o O.S. 2010/317 (Cy.41) fel ei bod yn cael effaith fel petai adran (12A) newydd wedi ei mewnosod mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2010—2011.

(5)

1988 p.41; amnewidiwyd adran 84H (a roddwyd yn lle adran 84H fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 ac Atodlen 1 iddi (O.S. 2007/1388).

(6)

Amnewidiwyd paragraff 11B(1) (a roddwyd yn lle paragraff 11B(1) fel y'i mewnosodwyd gan adran 40(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ac Atodlen 2 iddi) gan erthygl 3 o O.S. 2007/1388 ac Atodlen 1 iddo.

(7)

Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2010—2011 gan reoliad 3 o O.S. 2010/317 (Cy.41).

(8)

Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd, mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2010—2011, gan reoliad 4(a) o O.S. 2010/317 (Cy.41).

(9)

Addaswyd adran 43 gan reoliad 4(b) o O.S. 2010/317 (Cy. 41) fel ei bod yn cael effaith fel petai yr is-adrannau newydd 43(6E) a (6F) wedi eu mewnosod mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2010—2011.

(10)

Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234. Fe'i haddaswyd hefyd, gan reoliad 5 o O.S. 2010/317 (Cy.41), mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2010—2011.