Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygio) 2011

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 415 (Cy.58)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

15 Chwefror 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Chwefror 2011

Yn dod i rym

6 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(1).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2011.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006(2).

Diwygio'r Atodlen i'r prif Reoliadau

2.  Mae'r Atodlen i'r prif Reoliadau wedi'i diwygio fel a ganlyn—

(1Yng ngholofn 1 (Categori o fwyd) o'r tabl, yn y trydydd categori, mewnosoder “neu wedi'u rhewi” ar ôl y gair “ffres”; a

(2Yng ngholofn 2 (Goleddfiad) o'r tabl, yn lle'r trydydd goleddfiad, rhodder y canlynol—

  • Ffrwythau a llysiau ffres neu wedi'u rhewi gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ffrwythau neu lysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd atynt fraster, halen, siwgr, cyflasyn neu unrhyw gynhwysion eraill..

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Atodlen i'r prif Reoliadau, drwy ddiwygio'r diffiniad o ffrwythau a llysiau er mwyn cynnwys ffrwythau a llysiau “wedi'u rhewi” ac er mwyn gwneud goleddfiad y categori hwnnw yn fwy eglur.

Ymgymerwyd ag asesiad effaith rheoleiddiol llawn mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth y Gangen Bwyd a Gweithgarwch Corfforol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1988 p.7. Amnewidiwyd adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 gan adran 185(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.