xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhan 2 —Cydgysylltwyr gofal

Dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol

3.—(1Os oes Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd(1) i glaf perthnasol a bod awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth o'r fath, yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.

(2Y Bwrdd Iechyd Lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol oni bai bod paragraffau (3) neu (4) yn gymwys.

(3Awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw'r claf hwnnw'n destun—

(a)cais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983; neu

(b)gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983.

(4Awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw'r claf hwnnw o dan ddeunaw oed a hefyd—

(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) (dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol o ran plant sy'n derbyn gofal ganddynt) o Ddeddf 1989;

(b)yn blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A (yr awdurdod cyfrifol a phlant perthnasol) o Ddeddf 1989;

(c)yn gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) (personau sy'n gymwys i gael cyngor neu gymorth) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989; neu

(ch)yn cael ei dderbyn i ysgol yn unol â datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 (datganiad o anghenion addysgol arbennig) o Deddf Addysg 1996(2) sy'n enwi'r ysgol.

(1)

Gweler adran 49 o'r Mesur (ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) i gael y diffiniad o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.