Rhan 1 —Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 6 Mehefin 2012.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible Local Social Services Authority” gan adran 34(3) o Ddeddf 1983;

  • mae i “awdurdod rheoli” o ran un o ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yr ystyr a roddir i “managing authority” gan baragraff 176 (ysbytai a'u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 (preswylwyr ysbytai a chartrefi gofal: eu hamddifadu o'u rhyddid) i Ddeddf 2005, o ran ysbyty annibynnol mae iddo'r ystyr a roddir gan baragraff 177(b) (ysbytai a'u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, ac o ran cartref gofal mae iddo'r ystyr a roddir gan baragraff 179(b) (cartrefi gofal a'u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005;

  • mae i “clinigydd cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible clinician” yn adran 34(1) (dehongli Rhan II) o Ddeddf 1983;

  • dynodir “corff goruchwylio” (“supervisory body”) o ran ysbyty gan baragraff 181 (cyrff goruchwylio: ysbytai) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, ac o ran cartref gofal gan baragraff 182 (cyrff goruchwylio: cartrefi gofal) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005;

  • ystyr “cyfnod rhyddhau perthnasol” (“relevant discharge period”) yw'r cyfnod y caniateir i oedolyn wneud cais ynddo am i asesiad iechyd meddwl gael ei gynnal yn sgil ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd2;

  • mae i “cyfrifioldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 (ystyr “cyfrifoldeb rhiant”) o Ddeddf 1989;

  • ystyr “cynllun gofal a thriniaeth” (“care and treatment plan”) yw cynllun a baratoir er mwyn sicrhau'r canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i glaf perthnasol3 eu sicrhau, fel y darperir yn adran 18(1)(b) (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) o'r Mesur;

  • ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol” (“relevant mental health service provider”) yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd a ddynodir yn ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol yn unol ag adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol) o'r Mesur neu reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 19834;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19895;

  • ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 20056;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19717;

  • ystyr “gofalwr” (“carer”), o ran claf perthnasol, yw unigolyn sy'n darparu neu sy'n bwriadu darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd i'r claf hwnnw, ond nid yw'n cynnwys unigolyn sy'n darparu, neu sy'n bwriadu darparu, gofal i'r claf hwnnw yn rhinwedd contract cyflogaeth neu gontract arall gydag unrhyw berson neu fel gwirfoddolwr i gorff (corfforedig ynteu anghorfforedig);

  • ystyr “gofalwr lleoliad oedolyn” (“adult placement carer”) yw person y darperir neu y caniateir darparu llety a gofal personol i oedolyn yn ei gartref o dan gytundeb lleoliad oedolyn a wnaed neu y bwriedir ei wneud gan y gofalwr;

  • ystyr “gwarcheidwad” (“guardian”) yw'r person a enwyd yn warcheidwad mewn cais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 (cais am warcheidiaeth) o Ddeddf 1983 neu mewn gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 (pwerau llysoedd i orchymyn derbyn i'r ysbyty neu i orchymyn gwarcheidiaeth) o Ddeddf 1983;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 20108;

  • ystyr “wedi'i gyflogi” (“employed”) yw wedi'i gyflogi o dan gontract gwasanaeth neu wedi'i gymryd ymlaen o dan gontract ynglŷn â gwasanaethau; ac

  • ystyr “ymarferydd meddygol claf perthnasol” (“relevant patient’s medical practitioner”), o ran claf perthnasol, yw'r ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r claf wedi'i gofrestru gydag ef ac unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig nad yw claf wedi'i gofrestru gydag ef ond y mae'r claf hwnnw wedi'i atgyfeirio ato i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol o dan Ran 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) o'r Mesur.