Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

Apelio

16.—(1Mae gan bennaeth hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 15(6).

(2Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.

(3O ran ysgol ac eithrio un sydd â chymeriad crefyddol, cadeirydd y corff llywodraethu fydd un o'r swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, bydd y corff llywodraethu'n penodi llywodraethwr nad yw wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath yn lle cadeirydd y corff llywodraethu. Bydd y corff llywodraethu hefyd yn penodi llywodraethwr arall na chymerodd ran yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.

(4Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn swyddog apêl ar gyfer pennaeth yr ysgol.

(5O ran ysgol ac eithrio un sydd â chymeriad crefyddol, bydd yr awdurdod lleol yn penodi dau o bobl, nad ydynt wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, yn swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.

(6Yn achos ysgol sydd â chymeriad crefyddol, bydd y corff llywodraethu'n penodi un llywodraethwr yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, a'r llywodraethwr hwnnw fydd cadeirydd y corff llywodraethu, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, bydd y corff llywodraethu'n penodi llywodraethwr nad yw wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath yn lle cadeirydd y corff llywodraethu. Bydd yr awdurdod lleol yn penodi dau swyddog apêl a'r Awdurdod Esgobaeth yn penodi un swyddog apêl, ac ni chaiff yr un o'r swyddogion apêl hynny fod wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl.

(7Rhaid i'r swyddogion apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 17(3), ac wrth wneud hynny rhaid iddynt gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan y pennaeth i ystyriaeth.

(8Caiff y swyddogion apêl—

(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddogion apêl neu hebddynt; neu

(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb yr holl werthuswyr; neu

(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

(9Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (8)(c) rhaid i'r holl werthuswyr gael eu disodli gan werthuswyr newydd a benodir yn unol â rheoliad 7 a rhaid i'r swyddogion apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

(10Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (9) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddogion apêl o dan baragraff (8)(c).

(11Ni chaniateir i swyddogion apêl—

(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 12; na

(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 12 i gael eu diwygio.

(12Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 17 ac 18 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 15(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 17 ac 18, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan y swyddogion apêl o dan baragraff (8)(a).