- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—
(a)penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol penaethiaid a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro;
(b)asesu i ba raddau y mae'r pennaeth wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 12(1), gan gymryd i ystyriaeth dystiolaeth berthnasol a gasglwyd drwy'r broses fonitro a nodir yn rheoliad 14 a'r cofnod a gadwyd gan y pennaeth yn unol â rheoliad 12(7); ac
(c)nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a sut y gallai'r anghenion hynny gael eu diwallu, gan gymryd i ystyriaeth y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 12(7).
(2) Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswyr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r pennaeth am y dyddiad hwnnw.
(3) O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r pennaeth gyflwyno i'r gwerthuswyr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 12(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(4) Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswyr a'r pennaeth yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
(5) Caniateir i adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 12 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
(6) Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r pennaeth cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
(7) Caiff y pennaeth, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: