Search Legislation

Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2940 (Cy.316)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011

Gwnaed

6 Rhagfyr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym

1 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 21(3) a 131 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002 ag unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, cyrff sy'n cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru a chyrff sy'n cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru y mae'n ymddangos iddynt eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN ICyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diddymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002(2) (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 2009(3), Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009(4) a Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2002(5) wedi'u diddymu.

(2Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol yn rheoliadau 19, 33 a 46 ac yn yr Atodlen yn effeithiol.

Dehongli

3.—(1Ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes ddigyswllt” (“unattached teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir gan yr awdurdod ac sy'n cwympo o fewn un o'r categorïau a ganlyn—

(a)

athro neu athrawes nad yw'n gysylltiedig ag ysgol benodol;

(b)

athro neu athrawes a gyflogir i ddarparu addysg gynradd neu uwchradd heblaw mewn ysgol; neu

(c)

athro neu athrawes a gyflogir mewn uned cyfeirio disgyblion (gan gynnwys athro neu athrawes sydd â gofal uned);

ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod byr;

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir gan awdurdod lleol neu gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod byr;

ystyr “awdurdod” (“authority”) mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt yw'r awdurdod lleol sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes ac os yw ef neu hi yn gyflogedig gan fwy nag un awdurdod, yna pob awdurdod o'r fath;

mae i “Awdurdod Esgobaeth” yr ystyr a roddir i “Diocesan Authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);

ystyr “contract cyfnod byr” (“short term contract”) yw contract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai nag un tymor ysgol;

ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) mewn perthynas ag ysgol yw corff llywodraethu'r ysgol, ac ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw aelod o'r corff llywodraethu hwnnw;

ystyr “Cynllun Gwella'r Ysgol” (“School Improvement Plan”) yw'r cynllun strategol sy'n nodi'r amcanion ar gyfer gwella darpariaeth a pherfformiad yr ysgol;

ystyr “datganiad amcanion” (“statement of objectives”) yw'r datganiad ysgrifenedig o amcanion a gofnodir o dan reoliad 12(5), rheoliad 26(5) neu reoliad 39(5), yn ôl fel y digwydd;

mae i “datganiad gwerthuso” (“appraisal statement”) yr ystyr a roddir iddo gan, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 15(4), rheoliad 29(4) neu reoliad 42(4);

ystyr “diwrnod ysgol” (“school day”) yw diwrnod pan fydd yr ysgol yn cyfarfod;

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Medi 2012;

ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw'r ddogfen y cyfeirir ati mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002;

ystyr “Gwybodaeth am Berfformiad Disgyblion” (“Pupil Performance Information”) yw gwybodaeth am berfformiad disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru fel y'i pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro;

ystyr “Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion” (“School Performance Information”) yw gwybodaeth am berfformiad ysgolion yng Nghymru fel y'i pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro

mae “pennaeth” (“head teacher”) yn cynnwys pennaeth dros dro;

ystyr “Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol” (“School Performance Management Policy”) yw'r polisi ysgrifenedig sy'n nodi sut y bydd polisi gwerthuso staff yn yr ysgol yn cael ei roi ar waith;

ystyr “Prif Swyddog Addysg” (“Chief Education Officer”) yw prif swyddog addysg yr awdurdod lleol (neu, yn achos athro neu athrawes ddigyswllt, prif swyddog addysg yr awdurdod);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002;

mae “tymor ysgol” (“school term”) yn cynnwys (a) cyfnod o amser sydd heb fod yn fwy nag wythnos yn fyrrach na thymor ysgol llawn a (b) dau hanner tymor olynol;

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir; ac

ystyr “ysgol sydd â chymeriad crefyddol” (“school which has a religious character”) yw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol sydd wedi'i dynodi fel ysgol â chymeriad o'r fath o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn—

(a)at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;

(b)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo; ac

(c)at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Y ddyletswydd i werthuso

4.—(1Mae'n ddyletswydd ar gorff llywodraethu a phennaeth ysgol i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad athrawon ysgol a phenaethiaid wrth gyflawni eu dyletswyddau yn yr ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Yn achos athro neu athrawes ysgol neu bennaeth a gyflogir mewn dwy neu fwy o ysgolion, rhaid i'w perfformiad ym mhob ysgol gael ei werthuso ac felly mae “ysgol” ym mharagraff (1) i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at bob ysgol.

(3Pan fo'r awdurdod wedi dirprwyo i athro neu athrawes ysgol rai neu'r cyfan o'r dyletswyddau a osodir ar werthuswr fel y'i caniateir gan reoliad 36(2), dyletswydd corff llywodraethu a phennaeth yr ysgol yw arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt wrth gyflawni eu dyletswyddau yn yr ysgol honno ac mewn ysgolion eraill yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(4Dyletswydd yr awdurdod yw arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad athrawon digyswllt wrth gyflawni eu dyletswyddau tuag at yr awdurdod yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol

5.—(1Cyn i'r cylch gwerthuso ddechrau rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth sefydlu a chynnal Polisi Rheoli Perfformiad i'r Ysgol.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a'r pennaeth adolygu Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, ac os penderfynant wneud hynny, ei ddiwygio, a hynny'n flynyddol o leiaf.

(3Caiff y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol ddirprwyo'r gwaith o ffurfio drafft o Bolisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, neu ddrafft o ddiwygiadau iddo, i bennaeth yr ysgol, er mwyn iddynt gael eu hystyried.

(4Os na ellir cytuno rhaid i'r awdurdod lleol bennu Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol.

(5Cyn sefydlu neu ddiwygio Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu (neu, os y cyfarwyddir ef gan y corff llywodraethu, y pennaeth) ymgynghori ag athrawon yr ysgol yn yr ysgol ynglŷn â chynnwys Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol, neu'r newidiadau a gynigir iddo.

(6Rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth roi Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol ar waith.

(7O leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn ysgol rhaid i'r pennaeth gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch sut mae Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol yn gweithredu o dan y Rheoliadau hyn, pa mor effeithiol yw gweithdrefnau gwerthuso'r ysgol, ac anghenion athrawon yr ysgol a'r pennaeth o ran hyfforddi a datblygu.

(8Rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau bod copi o Bolisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol ar gael i'w archwilio yn yr ysgol ar ddiwrnodau ysgol.

RHAN IIGwerthuso Penaethiaid

Cymhwyso Rhan II

6.  Mae rheoliadau 7 i 19 yn gymwys i werthuso penaethiaid yn unig.

Penodi gwerthuswyr

7.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ysgol benodi yn werthuswyr pennaeth o leiaf ddau lywodraethwr, y mae'n rhaid i un ohonynt o leiaf fod yn llywodraethwr sefydledig i'r ysgol os yw'n ysgol sydd â chymeriad crefyddol neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd heb gymeriad crefyddol.

(2Caiff y corff llywodraethu ar unrhyw adeg benodi gwerthuswr newydd yn lle unrhyw werthuswr presennol a benodwyd o dan baragraff (1).

(3Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o'r staff yn yr ysgol yn werthuswr i'r pennaeth.

(4Caiff yr awdurdod lleol benodi un neu ddau o werthuswyr mewn perthynas â gwerthuso pennaeth.

(5Caiff y corff llywodraethu wneud cais ar unrhyw adeg i'r awdurdod lleol am benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol a benodwyd gan yr awdurdod lleol ond rhaid i benodiad o'r fath fod yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol a rhaid cael esboniad ysgrifenedig ar y rhesymau dros wrthodiad i gyd-fynd ag unrhyw wrthodiad.

(6Os pennaeth ysgol sydd â chymeriad crefyddol sy'n cael ei werthuso, caiff yr Awdurdod Esgobaeth benodi gwerthuswr i'r pennaeth.

Y cylch gwerthuso

8.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 9, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu amseriad cylch gwerthuso pennaeth yr ysgol.

(2Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (3) a rheoliad 9(3) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso a bydd hwnnw'n dechrau ar ôl 1 Medi a chyn 31 Rhagfyr oni bai bod yr awdurdod lleol a'r corff llywodraethu'n cytuno fel arall.

(3Yn achos cylch gwerthuso cyntaf pennaeth o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dechrau yn gynharach na 1 Ionawr 2012 nac yn diweddu yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.

(4Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob pennaeth yn barhaus.

(5Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto.

Cylch gwerthuso newydd

9.—(1Os bydd pennaeth yn symud i swydd pennaeth mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(2Pan ddaw athro neu athrawes ysgol (nad yw'n bennaeth) yn bennaeth (yn yr un ysgol ynteu mewn un arall) fel bod rheoliadau 7 i 19 yn gymwys i'r gwerthusiad, bydd amseriad y cylch gwerthuso yn cael ei benderfynu o'r newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol gan y corff llywodraethu o dan reoliad 8(1).

(3Pan fydd cylch gwerthuso pennaeth yn dechrau eto o dan baragraff (1), neu'n cael ei benderfynu o'r newydd o dan baragraff (2), caiff y corff llywodraethu benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf y pennaeth yn ei swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.

Y cylch gwerthuso cyntaf

10.  Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau'n hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.

Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol

11.  Rhaid i werthusiad y pennaeth fod yn unol â darpariaethau Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol.

Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion

12.—(1Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion y pennaeth y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswyr a'r pennaeth yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswyr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Ysgolion, ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—

(a)arwain yr ysgol a'i rheoli;

(b)disgrifiad swydd y pennaeth;

(c)unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;

(ch)unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol;

(d)safonau proffesiynol penaethiaid fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac

(dd)unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(2Caniateir i amcanion y pennaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd ddyheadau proffesiynol y pennaeth.

(3Bydd amcanion y pennaeth yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgol.

(4Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y maent yn credu eu bod yn briodol, a chaiff y pennaeth ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.

(5Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig y pennaeth, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.

(6Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswyr a'r pennaeth geisio cytuno ar y cymorth y mae ar y pennaeth ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.

(7Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r pennaeth gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—

(a)asesiad y pennaeth ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;

(b)manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac

(c)manylion unrhyw ffactorau y mae'r pennaeth yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.

(8Caiff Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(7) wneud cais am gopi o ddatganiad amcanion y pennaeth, ac ar ôl cael cais o'r fath rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad i'r Arolygiaeth.

Diwygio amcanion

13.—(1Caniateir i amcanion pennaeth gael eu diwygio gan y gwerthuswyr unrhyw bryd yn ystod y cylch gwerthuso.

(2Os yw amcanion pennaeth yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—

(a)rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos yr amcan diwygiedig, dyddiad y diwygiad a'r rheswm dros y diwygiad;

(b)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion y pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac

(c)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion y pennaeth eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.

Monitro cynnydd

14.—(1Rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 12(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad y pennaeth yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 12(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 12(4).

(2Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswyr nodi'n ysgrifenedig unrhyw weithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad y pennaeth y maent yn credu eu bod yn briodol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaniateir i werthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad y pennaeth gan neb arall oni bai bod y pennaeth yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso

15.—(1Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr a'r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—

(a)penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol penaethiaid a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro;

(b)asesu i ba raddau y mae'r pennaeth wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 12(1), gan gymryd i ystyriaeth dystiolaeth berthnasol a gasglwyd drwy'r broses fonitro a nodir yn rheoliad 14 a'r cofnod a gadwyd gan y pennaeth yn unol â rheoliad 12(7); ac

(c)nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a sut y gallai'r anghenion hynny gael eu diwallu, gan gymryd i ystyriaeth y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 12(7).

(2Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal gael ei benderfynu gan y gwerthuswyr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r pennaeth am y dyddiad hwnnw.

(3O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r pennaeth gyflwyno i'r gwerthuswyr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 12(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.

(4Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r holl werthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswyr a'r pennaeth yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.

(5Caniateir i adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 12 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.

(6Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r pennaeth cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.

(7Caiff y pennaeth, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.

Apelio

16.—(1Mae gan bennaeth hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 15(6).

(2Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.

(3O ran ysgol ac eithrio un sydd â chymeriad crefyddol, cadeirydd y corff llywodraethu fydd un o'r swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, bydd y corff llywodraethu'n penodi llywodraethwr nad yw wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath yn lle cadeirydd y corff llywodraethu. Bydd y corff llywodraethu hefyd yn penodi llywodraethwr arall na chymerodd ran yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.

(4Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn swyddog apêl ar gyfer pennaeth yr ysgol.

(5O ran ysgol ac eithrio un sydd â chymeriad crefyddol, bydd yr awdurdod lleol yn penodi dau o bobl, nad ydynt wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, yn swyddogion apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath.

(6Yn achos ysgol sydd â chymeriad crefyddol, bydd y corff llywodraethu'n penodi un llywodraethwr yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, a'r llywodraethwr hwnnw fydd cadeirydd y corff llywodraethu, ond os yw cadeirydd y corff llywodraethu wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl, bydd y corff llywodraethu'n penodi llywodraethwr nad yw wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad hwnnw yn swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath yn lle cadeirydd y corff llywodraethu. Bydd yr awdurdod lleol yn penodi dau swyddog apêl a'r Awdurdod Esgobaeth yn penodi un swyddog apêl, ac ni chaiff yr un o'r swyddogion apêl hynny fod wedi cymryd rhan yn y gwerthusiad sy'n destun yr apêl.

(7Rhaid i'r swyddogion apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 17(3), ac wrth wneud hynny rhaid iddynt gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan y pennaeth i ystyriaeth.

(8Caiff y swyddogion apêl—

(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddogion apêl neu hebddynt; neu

(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb yr holl werthuswyr; neu

(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

(9Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (8)(c) rhaid i'r holl werthuswyr gael eu disodli gan werthuswyr newydd a benodir yn unol â rheoliad 7 a rhaid i'r swyddogion apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

(10Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (9) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddogion apêl o dan baragraff (8)(c).

(11Ni chaniateir i swyddogion apêl—

(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 12; na

(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 12 i gael eu diwygio.

(12Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 17 ac 18 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 15(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 17 ac 18, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan y swyddogion apêl o dan baragraff (8)(a).

Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw

17.—(1Rhaid i'r gwerthuswyr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r canlynol—

(a)y pennaeth;

(b)cadeirydd y corff llywodraethu;

(c)y Prif Swyddog Addysg;

(ch)unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu, disgyblu neu ddiswyddo athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwneir cais gan y llywodraethwyr hynny; a

(d)yn achos pennaeth ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998), unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, os gwneir cais gan y swyddog neu'r cynghorydd hwnnw.

(2Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso i unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am berfformiad penaethiaid yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(8), neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny, ar ôl cael cais gan y swyddog neu'r cynghorydd hwnnw.

(3Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r datganiad gwerthuso a'r datganiad amcanion i unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad apêl o dan reoliad 16(2).

(4Pan fydd gwerthuswr newydd yn cael ei benodi heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso, rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o unrhyw ddatganiad amcanion cyfredol i'r person hwnnw.

(5Rhaid i gadeirydd y corff llywodraethu roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 15(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad y pennaeth yn yr ysgol.

(6Rhaid i bennaeth gadw copi o ddatganiad gwerthuso am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.

(7Rhaid i'r corff llywodraethu gadw copi o ddatganiad gwerthuso'r pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.

Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso

18.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan gyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 17(1)(d) neu (2) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu penaethiaid neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

(2Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas â phennaeth fel y'u disgrifir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn pennaeth.

Darpariaeth drosiannol

19.  Mae rheoliadau 17 ac 18 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999(9) neu o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.

RHAN IIIGwerthuso Athrawon Ysgol heblaw Penaethiaid

Cymhwyso Rhan III

20.  Mae rheoliadau 21 i 33 yn gymwys i werthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid.

Penodi gwerthuswyr ar gyfer athrawon ysgol

21.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 30(8) rhaid i'r pennaeth benodi yn werthuswr ar gyfer pob athro ac athrawes ysgol yn yr ysgol, athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol neu'r pennaeth.

(2Caiff y pennaeth benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg.

Y cylch gwerthuso

22.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, ac i reoliad 23, rhaid i'r pennaeth benderfynu amseriad cylch gwerthuso pob athro ac athrawes ysgol yn yr ysgol.

(2Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) a rheoliad 23(3), blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.

(3Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, hyd y cyfnod penodol yw hyd y cylch gwerthuso.

(4Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.

(5Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ysgol o dan y Rheoliadau hyn nad yw yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd y cylch yn gyfnod o lai na blwyddyn.

(6Yn achos athro neu athrawes ysgol mewn ysgol feithrin a gynhelir sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff y pennaeth benderfynu bod hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2012.

(7Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn (ond nad yw'n gontract cyfnod byr) sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, rhaid i'r perfformiad gael ei werthuso drwy gydol y cyfnod o'r contract sydd heb ddod i ben fel y mae ar y dyddiad perthnasol a'i adolygu ar ddiwedd y cyfnod penodol.

(8Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob athro ac athrawes ysgol yn barhaus.

(9Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto.

Cylch gwerthuso newydd

23.—(1Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd athro neu athrawes ysgol mewn ysgol arall, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(2Os bydd athro neu athrawes ysgol yn symud i swydd newydd fel athro neu athrawes ysgol yn yr un ysgol, caiff y pennaeth benderfynu y bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

(3Pan fydd cylch gwerthuso athro neu athrawes ysgol yn dechrau eto o dan baragraff (1) neu (2), caiff y pennaeth benderfynu y bydd hyd cylch gwerthuso cyntaf yr athro neu'r athrawes ysgol yn y swydd newydd yn gyfnod o lai na blwyddyn.

Y cylch gwerthuso cyntaf

24.  Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pob athro ac athrawes ysgol yn yr ysgol sydd yn ei swydd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn dechrau erbyn 31 Rhagfyr 2012 fan bellaf.

Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol

25.  Rhaid i werthusiad athrawon ysgol mewn ysgol fod yn unol â darpariaethau Polisi Rheoli Perfformiad yr Ysgol.

Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion

26.—(1Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Disgyblion, ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—

(a)datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ysgol;

(b)disgrifiad swydd yr athro neu'r athrawes ysgol;

(c)unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;

(ch)unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol; a

(d)safonau proffesiynol athrawon ysgol fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(2Caniateir i amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd—

(a)dyheadau proffesiynol yr athro neu'r athrawes ysgol; a

(b)unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(3Bydd amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgol.

(4Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ysgol ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.

(5Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ysgol, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.

(6Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol geisio cytuno ar y cymorth y mae ar yr athro neu'r athrawes ysgol ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, y gwerthuswr fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.

(7Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—

(a)asesiad yr athro neu'r athrawes ysgol ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;

(b)manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac

(c)manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.

Diwygio amcanion

27.—(1Caniateir i amcanion athro neu athrawes ysgol gael eu diwygio gan y gwerthuswr unrhyw bryd yn ystod y cylch gwerthuso.

(2Os yw amcanion athro neu athrawes ysgol yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—

(a)rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos yr amcan diwygiedig, dyddiad y diwygiad a'r rheswm dros y diwygiad;

(b)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac

(c)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ysgol eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.

Monitro cynnydd

28.—(1Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 26(1) geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 26(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 26(5).

(2Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig unrhyw weithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol y mae'n credu eu bod yn briodol.

(3Rhaid i'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu lle nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau a nodwyd yn ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys gofyniad bod rhaid i'r gwerthuswr wrth iddo werthuso athro neu athrawes ysgol arsylwi ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu o leiaf unwaith yn ystod y cylch gwerthuso.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaniateir i werthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ysgol gan neb arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ysgol yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso

29.—(1Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—

(a)asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ysgol wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 26(1), gan gymryd i ystyriaeth y cofnod y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol ei gadw yn unol â rheoliad 26(7);

(b)penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol athrawon ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac

(c)nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny, gan gymryd i ystyriaeth hefyd y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 26(7).

(2Bydd y dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal yn cael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r athro neu'r athrawes ysgol am y dyddiad hwnnw.

(3O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol gyflwyno i'r gwerthuswr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 26(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.

(4Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.

(5Caniateir i'r adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 26 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.

(6Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ysgol cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.

(7Caiff yr athro neu'r athrawes ysgol, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad a baratoir o dan y paragraff hwnnw.

Apelio

30.—(1Mae gan athro neu athrawes ysgol hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o ddatganiad gwerthuso o dan reoliad 29(6).

(2Rhaid i apêl gael ei gwneud yn ysgrifenedig i'r corff llywodraethu.

(3Y pennaeth fydd y swyddog apêl mewn perthynas ag apêl o'r fath, ac eithrio os y pennaeth yw'r gwerthuswr, a'r pryd hynny cadeirydd y corff llywodraethu fydd y swyddog apêl.

(4Os cadeirydd y corff llywodraethu yw'r swyddog apêl, rhaid i'r awdurdod lleol benodi cynrychiolydd i gynorthwyo'r swyddog apêl.

(5Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 31(2)(b), a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro neu'r athrawes ysgol i ystyriaeth.

(6Caiff y swyddog apêl—

(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu

(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu

(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

(7Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (6)(c) rhaid penodi gwerthuswr newydd yn unol â rheoliad 21 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

(8Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes gwerthuswr addas newydd a all gael ei benodi i'r athro neu'r athrawes ysgol o dan reoliad 21, rhaid i'r swyddog apêl benodi aelod o gorff llywodraethu'r ysgol yn werthuswr newydd i'r athro neu'r athrawes ysgol.

(9Ni chaniateir penodi llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff yr ysgol yn werthuswr i athro neu athrawes ysgol o dan baragraff (8).

(10Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (7) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (6)(c).

(11Ni chaniateir i'r swyddog apêl—

(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu yn unol â rheoliad 26; na

(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 26 i gael eu diwygio.

(12Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 31 a 32 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 29(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 31 a 32, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a).

Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw

31.—(1Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso i'r pennaeth.

(2Caiff y personau canlynol wneud cais am gopi o'r datganiad gwerthuso a rhaid i'r pennaeth, os gwneir cais o'r fath, drefnu bod copi o'r datganiad gwerthuso ar gael i'r person hwnnw—

(a)y gwerthuswr;

(b)unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r corff llywodraethu gael hysbysiad ynglŷn ag apêl o dan reoliad 30(2), y mae'n rhaid rhoi copi iddo hefyd o'r datganiad amcanion;

(c)unrhyw lywodraethwyr sy'n gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny; ac

(ch)yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir mewn ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Pennod IV o Ran II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) y Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori ynghylch dyrchafu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.

(3Os yw'r athro neu'r athrawes ysgol yn gymwys ar gyfer datblygiad cyflog o dan y Ddogfen, rhaid i'r gwerthuswr roi argymhelliad ynghylch datblygiad cyflog i'r pennaeth, gan roi sylw i ddatganiad gwerthuso'r athro neu'r athrawes ysgol.

(4Rhaid i'r pennaeth roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 29(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad yr athrawon ysgol yn yr ysgol.

(5Rhaid i'r pennaeth drefnu bod copi o ddatganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ysgol ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.

(6Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ysgol gael ei gadw gan y pennaeth am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.

Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso

32.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan benaethiaid, cyrff llywodraethu ysgolion (gan gynnwys pwyllgorau cyrff llywodraethu), Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 31(2)(ch) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon ysgol neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

(2Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas ag athro neu athrawes ysgol fel y'u disgrifir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn yr athro neu'r athrawes ysgol.

Darpariaeth drosiannol

33.  Mae rheoliadau 31 a 32 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 neu o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.

RHAN IVGwerthuso Athrawon Digyswllt

Cymhwyso Rhan IV

34.—(1Mae rheoliadau 35 i 45 yn gymwys i werthuso athrawon digyswllt.

(2Yn y Rhan IV hon mae “ysgol” (“school”) yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion ac mae cyfeiriadau at bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at athro neu athrawes sydd â gofal uned cyfeirio disgyblion.

Y gofyniad ar yr awdurdod i gynhyrchu polisi rheoli perfformiad

35.—(1Rhaid i'r awdurdod gael polisi ysgrifenedig (“y polisi rheoli perfformiad”) sy'n nodi sut y mae gwerthuso athrawon digyswllt i gael ei roi ar waith.

(2Rhaid i'r awdurdod adolygu'r polisi rheoli perfformiad bob blwyddyn ysgol.

(3Yn sgil adolygiad o'r fath rhaid i'r awdurdod, os yw'n gweld yn dda, ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad.

(4Cyn sefydlu neu ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad rhaid i'r awdurdod ymgynghori â phob un o'i athrawon digyswllt ynghylch ffurfio'r polisi rheoli perfformiad neu ei ddiwygio.

(5Rhaid i'r awdurdod roi'r polisi rheoli perfformiad ar waith.

(6Rhaid i'r awdurdod drefnu bod copi o'r polisi rheoli perfformiad ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol gan y canlynol:

(a)unrhyw athro neu athrawes ddigyswllt;

(b)unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu sut y mae'r system gwerthuso athrawon digyswllt yn gweithio;

(c)unrhyw werthuswr a benodir yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Penodi gwerthuswyr ar gyfer athrawon digyswllt

36.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yr awdurdod yw'r gwerthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt.

(2Caiff yr awdurdod ddirprwyo rhai neu'r cyfan o'r dyletswyddau a osodir ar werthuswr i athro neu athrawes ysgol yn yr ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith, neu i unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn credu ei fod yn y sefyllfa orau i reoli ac i adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.

(3Caiff yr awdurdod benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg neu caiff gyflawni'r dyletswyddau hynny ei hun.

Y cylch gwerthuso

37.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod benderfynu amseriad cylch gwerthuso pob athro ac athrawes ddigyswllt a gyflogir ganddo.

(2Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) blwyddyn fydd hyd cylch gwerthuso.

(3Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt o dan y Rheoliadau hyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso yn gyfnod heblaw blwyddyn.

(4Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt o dan y Rheoliadau hyn sydd heb fod yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod benderfynu y bydd hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod o lai na blwyddyn.

(5Yn achos athro neu athrawes ddigyswllt a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, rhaid i'r perfformiad gael ei reoli drwy gydol cyfnod y contract a chael ei adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(6Rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pob athro ac athrawes ddigyswllt sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol yn dechrau erbyn 31 Rhagfyr 2012 fan bellaf.

(7Pan fyddant wedi dechrau, bydd cylchoedd gwerthuso pob athro ac athrawes ddigyswllt yn barhaus.

(8Ni fydd penodi gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt yn dechrau eto ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (9).

(9Pan fydd athro neu athrawes ddigyswllt yn trosglwyddo i swydd newydd yn yr awdurdod ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso, rhaid i'r awdurdod benderfynu a fydd y cylch yn dechrau eto ac os felly a ddylid penodi gwerthuswr newydd.

Gweithdrefnau gwerthuso

38.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliadau 39 i 43 rhaid i'r awdurdod benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso athrawon digyswllt.

(2Os yw rhai o ddyletswyddau'r awdurdod neu'r cyfan ohonynt mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt wedi'u dirprwyo i athro neu athrawes yn yr ysgol yn unol â rheoliad 36(2) yna yn ddarostyngedig i reoliadau 39 i 43, rhaid i'r gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athro digyswllt hwnnw neu'r athrawes ddigyswllt honno fod yn rhai a benderfynir gan gorff llywodraethu'r ysgol yn unol â rheoliad 25.

Cynllunio gwerthusiad a phennu amcanion

39.—(1Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth berthnasol y bydd y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cytuno arni (neu os na cheir cytundeb, unrhyw dystiolaeth berthnasol y penderfynir arni gan y gwerthuswr) ond a fydd yn cynnwys yr Wybodaeth am Berfformiad Disgyblion ac y mae'n rhaid iddynt ymwneud â'r canlynol—

(a)datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;

(b)disgrifiad swydd yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;

(c)unrhyw feini prawf perthnasol ynghylch datblygiad cyflog;

(ch)unrhyw amcanion perthnasol i'r ysgol gyfan neu i'r tîm a bennwyd yng Nghynllun Gwella'r Ysgol; a

(d)safonau proffesiynol athrawon ysgol fel y'u pennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(2Caniateir i amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt a ddisgrifir ym mharagraff (1) gymryd i ystyriaeth hefyd—

(a)dyheadau proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt; a

(b)unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro.

(3Bydd amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gyfryw ag i gyfrannu, o'u cyflawni, at wella cynnydd disgyblion yr ysgolion lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gweithio.

(4Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.

(5Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (4), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.

(6Pan fo'r amcanion wedi'u pennu, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt geisio cytuno ar y cymorth y mae ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei angen er mwyn bodloni'r amcanion. Os na ellir cytuno, y gwerthuswr fydd yn penderfynu ar y cymorth y mae ei angen.

(7Yn ystod y cylch gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gadw cofnod cyfoes o'r canlynol—

(a)asesiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;

(b)manylion unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol yr ymgymerwyd â hwy neu gymorth arall a roddwyd a sut y mae hynny'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion; ac

(c)manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn credu eu bod yn effeithio ar y perfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd.

Diwygio amcanion

40.—(1Caniateir i amcanion athro neu athrawes ddigyswllt gael eu diwygio gan y gwerthuswr ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso.

(2Os yw amcanion athro neu athrawes ddigyswllt yn cael eu diwygio o dan baragraff (1)—

(a)rhaid newid y datganiad amcanion i ddangos y diwygiadau;

(b)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt eu darllen fel cyfeiriadau at yr amcanion diwygiedig; ac

(c)caiff cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt eu darllen fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion diwygiedig.

Monitro cynnydd

41.—(1Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 39 geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 39(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 39(4).

(2Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n credu eu bod yn briodol.

(3Rhaid i'r gweithdrefnau p'un a ydynt wedi'u cytuno o dan baragraff (1) ynteu wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys:

(a)gofyniad bod y gwerthuswr wrth werthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn arsylwi ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn addysgu o leiaf unwaith yn ystod y cylch gwerthuso;

(b)gofyniad bod y gwerthuswr yn ceisio gwybodaeth gan y rhai sydd â gwybodaeth broffesiynol berthnasol am yr athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn mannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu ei hamser gwaith yn rheolaidd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, yn ysgrifenedig ynteu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt gan neb arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cydsynio neu fod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno, y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).

(5Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.

Yr adolygiad gwerthuso a'r datganiad gwerthuso

42.—(1Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i ddiwedd y cylch gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gynnal adolygiad gwerthuso, er mwyn—

(a)asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion fel y'i nodir yn rheoliad 39(1), gan gymryd i ystyriaeth y cofnod y mae'n rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt ei gadw yn unol â rheoliad 39(7);

(b)penderfynu a oes perfformiad cyffredinol llwyddiannus wedi bod o'i ystyried yn erbyn safonau proffesiynol athrawon ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru o dro i dro; ac

(c)nodi'r angen am gymorth, hyfforddiant neu ddatblygiad ychwanegol a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny, gan gymryd i ystyriaeth hefyd y cofnod a ddisgrifir yn rheoliad 39(7).

(2Bydd y dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal yn cael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 diwrnod ysgol o rybudd (mewn ysgrifen) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt am y dyddiad hwnnw.

(3O leiaf pum diwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyflwyno i'r gwerthuswr y cofnod a gadwyd o dan reoliad 39(7) a rhaid i'r cofnod gael ei ystyried yn yr adolygiad gwerthuso.

(4Cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.

(5Caniateir i adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 39 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.

(6Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.

(7Caiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu sylwadau ysgrifenedig ato, a bydd y sylwadau hynny yn rhan o'r datganiad gwerthuso.

(8Os nad yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r gwerthuswr anfon copi o'r datganiad gwerthuso i'r awdurdod ac at bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.

(9Os yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad gwerthuso at bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.

Apelio

43.—(1Mae gan athro neu athrawes ddigyswllt hawl i apelio yn erbyn gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad gwerthuso o dan reoliad 42(6).

(2Os athro neu athrawes mewn ysgol yw'r gwerthuswr bydd darpariaethau rheoliad 30(2) i (12) yn gymwys, ac eithrio y bydd cyfeiriadau yn y paragraffau hynny at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4) gan gynnwys at ddibenion rheoliadau 31 a 32 unrhyw sylwadau a ychwanegwyd gan swyddog apêl o dan baragraff (6)(a) o reoliad 30.

(3Os yr awdurdod yw'r gwerthuswr gwneir unrhyw apêl yn ysgrifenedig i'r awdurdod yn unol â'r gweithdrefnau apelio sy'n gymwys i'r holl staff ac eithrio fel y gall fod yn anghyson â'r rheoliad hwn.

(4Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 diwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 44(2)(b) a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a wneir gan yr athro neu'r athrawes ddigyswllt i ystyriaeth.

(5Caiff y swyddog apêl—

(a)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu

(b)diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu

(c)gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.

(6Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (5)(c) rhaid penodi gwerthuswr newydd yn unol â rheoliad 36 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.

(7Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes athro neu athrawes ysgol mewn ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith sy'n addas i fod yn werthuswr newydd y gellir ei benodi ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, rhaid i'r swyddog apêl benodi fel gwerthuswr newydd ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt aelod o gorff llywodraethu'r ysgol honno (heblaw llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff) neu unrhyw berson arall sy'n addas i reoli ac i adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.

(8Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (6) cyn pen 15 diwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (5)(c).

(9Ni chaniateir i'r swyddog apêl—

(a)penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu; na

(b)penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 39(1) i gael eu diwygio.

(10Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 44 a 45 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 44 a 45, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (5)(a).

Darparu datganiadau gwerthuso a'u cadw

44.—(1Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso—

(a)i'r pennaeth ymhob ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd; a

(b)i'r awdurdod.

(2Caiff y personau canlynol wneud cais am gopi o'r datganiad gwerthuso a rhaid i'r awdurdod, os gwneir cais o'r fath, drefnu bod copi o'r datganiad gwerthuso ar gael i'r person hwnnw—

(a)y gwerthuswr;

(b)unrhyw swyddog apêl cyn pen pum diwrnod ysgol ar ôl i'r awdurdod gael hysbysiad apêl o dan reoliad 43, y mae'n rhaid rhoi copi iddo hefyd o'r datganiad amcanion; ac

(c)y Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am ddyrchafiad athrawon digyswllt, neu am ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn ynghylch cyflog, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.

(3Os yw'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn gymwys ar gyfer datblygiad cyflog o dan y Ddogfen, rhaid i'r gwerthuswr roi argymhelliad ynghylch datblygiad cyflog i'r awdurdod, gan roi sylw i ddatganiad gwerthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt.

(4Rhaid i'r awdurdod roi copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 42(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddiant a datblygiad athrawon ysgol yn unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd.

(5Rhaid i'r awdurdod drefnu bod datganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ddigyswllt ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.

(6Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt gael ei gadw gan yr awdurdod am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.

Gwybodaeth o ddatganiadau gwerthuso

45.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan awdurdod, Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 44(2)(c) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon digyswllt neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â thâl.

(2Ni fydd gweithdrefnau gwerthuso mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt fel y'u nodir yn y Rheoliadau hyn yn ffurfio unrhyw gamau y mae'n rhaid eu cymryd mewn gweithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo a ddygir yn erbyn athro neu athrawes ddigyswllt.

Darpariaeth drosiannol

46.  Mae rheoliadau 44 a 45 yn gymwys mewn perthynas â chofnodion gwerthuso a gafodd eu cynhyrchu a'u cadw o dan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â datganiadau gwerthuso.

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000

47.—(1Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniadau o “athro ysgol”, “tymor ysgol” a “contract cyfnod byr”.

(2Ar ddiwedd rheoliad 2(2)(a) mewnosoder “a” ac yn rheoliad 2(2)(b) hepgorer “ac”.

(3Dileer rheoliad 2(2)(c).

(4Dileer rheoliad 10.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

6 Rhagfyr 2011

YR ATODLENArbedion a Darpariaethau Trosiannol Cyffredinol

Y Cylch Gwerthuso

1.  Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi cwblhau cylch gwerthuso o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002, yna rhaid i unrhyw apêl yn erbyn y gwerthusiad gael ei gwneud yn unol â'r gweithdrefnau apêl a nodwyd yn Rheoliadau 2002.

2.  Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi mynd rhan o'r ffordd drwy gylch gwerthuso o dan Reoliadau 2002 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yna (yn ddarostyngedig i baragraff 3) rhaid i'r cylch gwerthuso hwnnw barhau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002 hyd nes y bydd cylch gwerthuso newydd yn dechrau o dan y Rheoliadau hyn.

3.  Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi cwblhau cylch gwerthuso neu wedi mynd rhan o'r ffordd drwy gylch gwerthuso o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002, caniateir i unrhyw gyfarfod adolygu gwerthusiad mewn perthynas â'r cylch gwerthuso hwnnw sydd i'w gynnal o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002 ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym gael ei gynnal gan y gwerthuswr neu'r gwerthuswyr (fel y bo'n briodol) a benodwyd ar gyfer y pennaeth, yr athro neu'r athrawes ysgol neu'r athro neu'r athrawes ddigyswllt o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn (“y gwerthuswyr newydd”), os bydd y gwerthuswyr newydd yn dewis gwneud hynny. Caniateir i'r cyfarfod adolygu gwerthusiad hwnnw fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 15(5), 29(5) a 42(5) (fel y bo'n briodol) yn ôl disgresiwn y gwerthuswyr newydd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan adrannau 21(3) (cyfrifoldeb cyffredinol dros redeg ysgol) a 131 (gwerthuso) o Ddeddf Addysg 2002 (2002 p.32) ac ar ôl ymgynghori'n briodol yn unol ag adran 131(7) o'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon ysgol (gan gynnwys athrawon anghymwysedig ac athrawon ysgol feithrin) mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion arbennig sefydledig neu ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer gwerthuso perfformiad athrawon a gyflogir gan yr awdurdodau lleol ac nad ydynt yn gysylltiedig ag un ysgol benodol neu sy'n addysgu y tu allan i leoliadau ysgol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn disodli Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1394 (Cy. 137)), fel y'u diwygiwyd.

Mae Rhan I o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol, gan gynnwys dyletswydd y corff llywodraethu a'r pennaeth i sicrhau bod perfformiad yr holl athrawon ysgol mewn ysgol yn cael ei werthuso'n rheolaidd (rheoliad 4), y ddyletswydd sydd ar benaethiaid, y corff llywodraethu a'r awdurdod lleol i bennu polisi rheoli perfformiad ac i'r pennaeth gyflwyno adroddiad blynyddol ysgrifenedig ar effeithiolrwydd y gweithdrefnau gwerthuso i'r corff llywodraethu (rheoliad 5).

Mae Rhan II o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso penaethiaid.

Mae rheoliad 7 yn darparu i'r corff llywodraethu benodi o leiaf ddau lywodraethwr yn werthuswyr ar gyfer pennaeth ac i'r awdurdod lleol benodi un neu ddau o werthuswyr yn werthuswyr ar gyfer y pennaeth. Gwneir darpariaeth arbennig ynglŷn ag ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y caiff yr awdurdod lleol a'r corff llywodraethu benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer cylch gwerthuso cyntaf pennaeth. Ar ôl symud i swydd newydd fel pennaeth neu ar ôl dod yn bennaeth, mae'r cylch gwerthuso'n ailddechrau.

Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod cylch gwerthuso cyntaf pennaeth yn dechrau erbyn 31 Ionawr 2012 fan bellaf. Mae rheoliad 11 yn darparu i'r awdurdod lleol benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso.

Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswyr a'r pennaeth lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae hefyd yn darparu i'r pennaeth fynd ati yn ystod y cylch gwerthuso i gadw cofnod cyfoes y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad gan y pennaeth o berfformiad yn erbyn yr amcanion, manylion unrhyw hyfforddiant a gafwyd a manylion unrhyw ffactorau y mae'n credu y gallent fod yn effeithio ar ei berfformiad. Mae rheoliad 13 yn darparu y caniateir i'r amcanion hyn gael eu diwygio gan y gwerthuswyr. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno ac mae'n darparu ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.

Mae rheoliad 15 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tua diwedd y cylch. Rhaid i'r pennaeth gyflwyno'r cofnod sy'n cynnwys asesiad y pennaeth ei hun o'i berfformiad, i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswyr baratoi datganiad ysgrifenedig.

Mae rheoliad 16 yn rhoi hawl i'r pennaeth apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.

Mae rheoliadau 17 a 18 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.

Mae rheoliad 19 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan III o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso athrawon ysgol heblaw penaethiaid.

Mae rheoliad 21 yn darparu i'r pennaeth benodi gwerthuswr i bob athro ac athrawes ysgol mewn ysgol. Caiff y pennaeth neu un o athrawon eraill yr ysgol fod yn werthuswr.

Mae rheoliadau 22 a 23 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cylch gwerthuso. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y caiff y pennaeth benderfynu ar hyd gwahanol ar gyfer y cylch gwerthuso cyntaf, y caniateir iddo bara am hyd at 18 mis ond nid llai na naw mis. Ar ôl symud i swydd newydd mewn ysgol arall, mae'r cylch gwerthuso'n dechrau eto, ond ar ôl symud i swydd newydd yn yr un ysgol, mater i'r pennaeth yw penderfynu a yw'r cylch yn dechrau eto neu beidio.

Mae rheoliad 24 yn gosod dyletswydd ar y corff llywodraethu i sicrhau bod gwerthusiad cyntaf athro neu athrawes ysgol yn dechrau erbyn 31 Ionawr 2012.

Mae rheoliad 25 yn darparu bod rhaid i werthusiad athrawon ysgol mewn ysgol fod yn unol â'r polisi rheoli perfformiad.

Mae rheoliad 26 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ysgol lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae hefyd yn darparu i'r athro neu'r athrawes ysgol fynd ati yn ystod y cylch gwerthuso i gadw cofnod cyfoes y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad gan yr athro neu'r athrawes ysgol o berfformiad yn erbyn yr amcanion, manylion unrhyw hyfforddiant a gafwyd a manylion unrhyw ffactorau y maent yn credu y gallent fod yn effeithio ar eu perfformiad. Mae rheoliad 27 yn darparu y caniateir i'r amcanion hyn gael eu diwygio. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno. Rhaid i'r gwerthuswr arsylwi unwaith o leiaf ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu. Mae'n darparu hefyd ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.

Mae rheoliad 29 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tua diwedd y cylch. Rhaid i'r athro neu'r athrawes ysgol gyflwyno'r cofnod sy'n cynnwys asesiad yr athro neu'r athrawes ysgol ei hun o berfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig.

Mae rheoliad 30 yn rhoi hawl i'r athro neu'r athrawes ysgol apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.

Mae rheoliadau 31 a 32 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.

Mae rheoliad 33 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae Rhan IV o'r Rheoliadau yn ymdrin â gwerthuso athrawon digyswllt. Caiff y rhai sy'n gyfrifol am werthuso athrawon digyswllt sicrhau gwybodaeth o fannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes yn gweithio.

Mae rheoliad 35 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael polisi rheoli perfformiad sy'n nodi sut y bydd yn gwerthuso athrawon digyswllt, a rhoi'r polisi hwnnw ar waith.

Mae rheoliad 36 yn darparu mai'r awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am werthuso perfformiad athrawon digyswllt. Caiff yr awdurdodau lleol ddirprwyo rhai o'u cyfrifoldebau i'r ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio'r brif ran o'u hamser gweithio neu i berson addas arall.

Mae rheoliad 37 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cylch gwerthuso i athrawon digyswllt. Fel rheol mae'r cylch gwerthuso yn para am flwyddyn, er y caiff yr awdurdod lleol benderfynu ar hyd gwahanol. Yn achos athrawon a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol o lai na blwyddyn, hyd y contract fydd y cylch gwerthuso. Os bydd athro neu athrawes ddigyswllt yn trosglwyddo i swydd newydd ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso, rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a yw'r cylch yn dechrau eto.

Mae rheoliad 38 yn darparu mai'r awdurdod lleol fydd yn pennu gweithdrefnau gwerthuso athrawon digyswllt, neu, o dan amgylchiadau penodol, corff llywodraethu'r ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio'r brif ran o'u hamser gweithio.

Mae rheoliad 39 yn darparu ar gyfer cynnal cyfarfod rhwng y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt lle maent yn cynllunio'r gwerthusiad ac yn cytuno ar amcanion neu'n eu pennu. Mae hefyd yn darparu i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt fynd ati yn ystod y cylch gwerthuso i gadw cofnod cyfoes y mae'n rhaid iddo gynnwys asesiad gan yr athro neu'r athrawes ddigyswllt o berfformiad yn erbyn yr amcanion, manylion unrhyw hyfforddiant a gafwyd a manylion unrhyw ffactorau y maent yn credu y gallent fod yn effeithio ar eu perfformiad.

Mae rheoliad 40 yn darparu y caniateir i'r amcanion hyn gael eu diwygio. Mae rheoliad 41 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad gael eu pennu neu eu cytuno. Rhaid i'r gwerthuswr arsylwi unwaith o leiaf ar yr athro neu'r athrawes ysgol yn addysgu. Mae'n darparu hefyd ar gyfer y ffordd y dylai'r gwerthuswyr gael gwybodaeth.

Mae rheoliad 42 yn darparu bod rhaid cynnal adolygiad gwerthuso tua diwedd y cylch. Rhaid i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyflwyno'r cofnod sy'n cynnwys asesiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei hun o berfformiad i gael ei ystyried yn yr adolygiad. Ar ôl yr adolygiad rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig.

Mae rheoliad 43 yn rhoi hawl i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt apelio yn erbyn gwerthusiad ac yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer apêl.

Mae rheoliadau 44 a 45 yn darparu ar gyfer datgelu datganiadau gwerthuso, eu cadw a'u defnyddio. Rhaid i gopïau gael eu rhoi i bobl benodol. Rhaid cadw datganiadau am dair blynedd.

Mae rheoliad 46 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae rheoliad 47 yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000.

Yn yr Atodlen ceir arbedion a darpariaethau trosiannol cyffredinol. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer sut y caiff penaethiaid, athrawon ysgol ac athrawon digyswllt sydd wedi cwblhau cylch gwerthuso o dan Reoliadau 2002 apelio yn erbyn y gwerthusiad. Mae paragraff 2 o'r Atodlen yn darparu yn achos y rhai sydd ran o'r ffordd drwy gylch gwerthuso pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, fod rhaid barnu bod y cylch gwerthuso wedi dod i ben ac y bydd cylch newydd yn dechrau o dan y Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p.32; a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Addysg 2002 ac a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

O.S. 2002/1394 (Cy.137). Cafodd Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 eu diwygio gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944) (Cy.80), Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2159) (Cy. 183), Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/2864) (Cy.251) a Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142) (Cy. 101).

(7)

A elwir yn gyffredin “Estyn”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources