RHAN 3Adnabod

Tagiau clust a thatŵs6

1

Rhaid i dag clust—

a

bod yn hawdd i'w ddarllen drwy gydol oes y mochyn;

b

bod wedi ei wneud naill ai o fetel neu o blastig neu o gyfuniad o fetel a phlastig;

c

gwrthsefyll ymyrryd ag ef;

ch

bod yn amhosibl i'w ailddefnyddio;

d

gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu'i stampio arno; ac

dd

bod wedi ei ddylunio i barhau ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.

2

Rhaid gosod tatŵnaill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwnnw rhaid ei osod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwnnw rhaid ei osod ar y ddwy ysgwydd, ac yn y ddau achos rhaid iddo fod yn hawdd i'w ddarllen.

3

Fel dewis arall, yn hytrach na gosod tatŵgan ddefnyddio'r dulliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff ceidwad osod tatŵar y ddwy ysgwydd gan ddefnyddio cyfarpar sy'n defnyddio aer cywasgedig i yrru'r pinnau tatwio i mewn i groen y mochyn, ar yr amod bod y tatŵyn hawdd i'w ddarllen.

4

Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth bellach, neu ychwanegu gwybodaeth bellach ar y tag clust neu at y tatŵ, ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n eglur rhwng yr wybodaeth bellach a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.

Adnabod moch a symudir oddi ar ddaliad7

1

Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni fydd gan y mochyn—

a

tag clust sy'n dwyn y llythrennau “UK” a ddilynir gan farc cenfaint y daliad y symudir y mochyn ohono; neu

b

tatŵ, a osodwyd yn unol ag erthygl 6, sy'n dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau “UK” neu hebddynt).

2

Yn ddarostyngedig i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 20032, yn achos marchnad—

a

caniateir symud mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â marc cenfaint y daliad y cyrhaeddodd y mochyn ohono;

b

os nad yw'r mochyn wedi ei farcio'n gywir yn unol â'r Rheoliadau hyn pan yw'n cyrraedd y farchnad, caiff ei geidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc cenfaint y daliad y cyrhaeddodd y mochyn ohono, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny, ni chaniateir ond dychwelyd y mochyn i'r daliad y daeth ohono.

Eithriad ar gyfer mochyn nad yw eto'n flwydd oed8

1

Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd—

a

naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan symudir ef, yn galluogi adnabod y daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf;

b

yn parhau hyd nes bo'r mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.

2

Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir—

a

i farchnad;

b

i ladd-dy;

c

at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu

ch

i sioe.

Gofynion adnabod ychwanegol ar gyfer symud moch i sioeau, canolfannau semen moch etc.9

1

Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad—

a

i sioe neu arddangosfa;

b

at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y'i symudwyd ohono; neu

c

at y diben o gasglu semen mewn canolfan semen moch,

oni fydd y mochyn wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 neu gyda marc cenfaint sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw.

Gofynion ychwanegol ar gyfer allforio10

Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵsydd yn y ddau achos yn dwyn y llythrennau “UK” a ddilynir gan farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw.

Adnabod moch a symudir i ddaliad o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd11

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd osod ar y mochyn dag clust neu datŵsy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn—

a

y llythrennau “UK”;

b

y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y cyflwynir y mochyn a fewnforir iddi;

c

unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno gosod y gyfryw wybodaeth; ac

ch

y llythyren “F”.

2

Rhaid gosod y tag clust neu'r tatŵar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag cyn symud y mochyn o'r daliad hwnnw.

3

Nid oes raid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd osod marc adnabod newydd yn unol â pharagraff (1) os symudir mochyn yn uniongyrchol i ladd-dy ac y'i cigyddir o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.