xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
39.—(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi unrhyw beth a anfonir neu a gyflenwir gan y cwmni neu i'r cwmni o dan yr erthyglau, mewn unrhyw ffordd a ddarperir yn y Deddfau Cwmnïau ar gyfer dogfennau neu wybodaeth yr awdurdodir, neu y gwneir yn ofynnol, gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau hynny eu hanfon neu eu cyflenwi gan y cwmni neu i'r cwmni.
(2) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi hefyd unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau sydd i'w hanfon neu'u cyflenwi i gyfarwyddwr, mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr, yn y dull y mae'r cyfarwyddwr hwnnw am y tro wedi gofyn am i'r cyfryw hysbysiadau neu ddogfennau gael eu hanfon neu'u cyflenwi.
(3) Caiff cyfarwyddwr gytuno gyda'r cwmni y ceir ystyried y bydd y cyfarwyddwr hwnnw wedi cael hysbysiadau neu ddogfennau a anfonir ato mewn ffordd benodol o fewn amser penodedig ar ôl eu hanfon, ac y bydd yr amser penodedig yn llai na 48 awr.
40.—(1) O dan awdurdod y cyfarwyddwyr yn unig y ceir defnyddio unrhyw sêl gyffredin.
(2) Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu drwy ba ddull ac ym mha ffurf y defnyddir unrhyw sêl gyffredin.
(3) Oni fydd y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall, os oes gan y cwmni sêl gyffredin ac os gosodir y sêl honno ar ddogfen, rhaid i'r ddogfen gael ei llofnodi hefyd gan o leiaf un person awdurdodedig ym mhresenoldeb tyst sy'n ardystio'r llofnod.
(4) At ddibenion yr erthygl hon, person awdurdodedig yw—
(a)unrhyw gyfarwyddwr y cwmni;
(b)ysgrifennydd y cwmni (os oes un); neu
(c)unrhyw berson a awdurdodwyd gan y cyfarwyddwyr at y diben o lofnodi dogfennau y gosodwyd y sêl gyffredin arnynt.
41. Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddir drwy statud, a heb randdirymu unrhyw hawl o'r fath, mae gan unrhyw aelod yr hawl, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i'r cwmni, i archwilio unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu o eiddo'r cwmni, ac i gael copi o'r cyfryw ar ôl talu unrhyw ffi resymol am gopïo. Mae hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i—
(a)unrhyw benderfyniad gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol;
(b)yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu sydd, ym marn resymol y cyfarwyddwyr, yn cynnwys deunydd cyfrinachol y byddai ei ddatgelu yn groes i fuddiannau'r cwmni, hepgor neu dorri allan unrhyw ddeunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith bod hepgor neu dorri allan wedi digwydd); ac
(c)unrhyw amodau rhesymol eraill a osodir gan y cyfarwyddwyr.
42. Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu gwneud darpariaeth er budd personau a gyflogir neu a gyflogwyd yn flaenorol gan y cwmni neu gan unrhyw un o'i is-gwmnïau (ac eithrio cyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr neu gyfarwyddwr cysgodol) mewn cysylltiad â therfynu, neu drosglwyddo i unrhyw berson, y cyfan neu ran o ymgymeriad y cwmni neu'r is-gwmni hwnnw.