Search Legislation

Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5TREFNIADAU GWEINYDDOL

Y dulliau cyfathrebu sydd i'w defnyddio

39.—(1Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi unrhyw beth a anfonir neu a gyflenwir gan y cwmni neu i'r cwmni o dan yr erthyglau, mewn unrhyw ffordd a ddarperir yn y Deddfau Cwmnïau ar gyfer dogfennau neu wybodaeth yr awdurdodir, neu y gwneir yn ofynnol, gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau hynny eu hanfon neu eu cyflenwi gan y cwmni neu i'r cwmni.

(2Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi hefyd unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau sydd i'w hanfon neu'u cyflenwi i gyfarwyddwr, mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr, yn y dull y mae'r cyfarwyddwr hwnnw am y tro wedi gofyn am i'r cyfryw hysbysiadau neu ddogfennau gael eu hanfon neu'u cyflenwi.

(3Caiff cyfarwyddwr gytuno gyda'r cwmni y ceir ystyried y bydd y cyfarwyddwr hwnnw wedi cael hysbysiadau neu ddogfennau a anfonir ato mewn ffordd benodol o fewn amser penodedig ar ôl eu hanfon, ac y bydd yr amser penodedig yn llai na 48 awr.

Seliau cwmnïau

40.—(1O dan awdurdod y cyfarwyddwyr yn unig y ceir defnyddio unrhyw sêl gyffredin.

(2Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu drwy ba ddull ac ym mha ffurf y defnyddir unrhyw sêl gyffredin.

(3Oni fydd y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall, os oes gan y cwmni sêl gyffredin ac os gosodir y sêl honno ar ddogfen, rhaid i'r ddogfen gael ei llofnodi hefyd gan o leiaf un person awdurdodedig ym mhresenoldeb tyst sy'n ardystio'r llofnod.

(4At ddibenion yr erthygl hon, person awdurdodedig yw—

(a)unrhyw gyfarwyddwr y cwmni;

(b)ysgrifennydd y cwmni (os oes un); neu

(c)unrhyw berson a awdurdodwyd gan y cyfarwyddwyr at y diben o lofnodi dogfennau y gosodwyd y sêl gyffredin arnynt.

Archwilio a chopïo cyfrifon a chofnodion eraill

41.  Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddir drwy statud, a heb randdirymu unrhyw hawl o'r fath, mae gan unrhyw aelod yr hawl, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i'r cwmni, i archwilio unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu o eiddo'r cwmni, ac i gael copi o'r cyfryw ar ôl talu unrhyw ffi resymol am gopïo. Mae hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw benderfyniad gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol;

(b)yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu sydd, ym marn resymol y cyfarwyddwyr, yn cynnwys deunydd cyfrinachol y byddai ei ddatgelu yn groes i fuddiannau'r cwmni, hepgor neu dorri allan unrhyw ddeunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith bod hepgor neu dorri allan wedi digwydd); ac

(c)unrhyw amodau rhesymol eraill a osodir gan y cyfarwyddwyr.

Darpariaeth ar gyfer cyflogeion wrth derfynu'r busnes

42.  Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu gwneud darpariaeth er budd personau a gyflogir neu a gyflogwyd yn flaenorol gan y cwmni neu gan unrhyw un o'i is-gwmnïau (ac eithrio cyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr neu gyfarwyddwr cysgodol) mewn cysylltiad â therfynu, neu drosglwyddo i unrhyw berson, y cyfan neu ran o ymgymeriad y cwmni neu'r is-gwmni hwnnw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources