xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

SCHEDULE 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNI RTMDEDDF CWMNÏAU 2006ERTHYGLAU CYMDEITHASU [ENW] CWMNI RTM CYFYNGEDIGCWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT SYDD HEB GYFALAF CYFRANDDALIADAU

RHAN 4GWNEUD PENDERFYNIADAU GAN AELODAU

TREFNIADAETH CYFARFODYDD CYFFREDINOL

Presenoldeb a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol

28.—(1) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i siarad mewn cyfarfod cyffredinol pan fo'r person hwnnw mewn sefyllfa i gyfathrebu i bawb sy'n bresennol yn y cyfarfod, yn ystod y cyfarfod, unrhyw wybodaeth neu farnau sydd gan y person hwnnw ynglŷn â busnes y cyfarfod.

(2) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol—

(a)os gall y person hwnnw bleidleisio, yn ystod y cyfarfod, ar benderfyniadau y pleidleisir arnynt yn y cyfarfod, a

(b)os gellir cymryd pleidlais y person hwnnw i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a basiwyd penderfyniadau o'r fath ai peidio ar yr un pryd â phleidleisiau pob person arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(3) Caiff y cyfarwyddwyr wneud pa bynnag drefniadau a ystyriant yn briodol i alluogi'r rhai sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol i arfer eu hawl i siarad neu bleidleisio ynddo.

(4) Wrth benderfynu ynghylch presenoldeb mewn cyfarfod cyffredinol, nid yw'n berthnasol pa un a yw unrhyw ddau neu ragor o'r aelodau sy'n bresennol yn yr un lle â'i gilydd ai peidio.

(5) Mae dau neu ragor o bersonau nad ydynt yn yr un lle â'i gilydd yn bresennol mewn cyfarfod cyffredinol os yw eu hamgylchiadau yn rhai sy'n caniatáu, os oes ganddynt (neu pe byddai ganddynt) hawliau i siarad a phleidleisio yn y cyfarfod hwnnw, y gallant (neu y gallent) arfer yr hawliau hynny.

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol

29.—(1) Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio penodi cadeirydd y cyfarfod os nad yw'r personau sy'n bresennol yn y cyfarfod yn cyfansoddi cworwm fel a bennir ym mharagraff (2).

(2) Y cworwm ar gyfer y cyfarfod yw 20 y cant o aelodau'r cwmni sydd â hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i'w drafod, neu ddau aelod o'r cwmni sydd â hawl o'r fath (pa un bynnag yw'r nifer mwyaf), yn bresennol naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy.

Cadeirio cyfarfodydd cyffredinol

30.—(1) Os yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, rhaid i'r cadeirydd lywyddu'r cyfarfodydd cyffredinol os yw'n bresennol ac yn fodlon gwneud hynny.

(2) Os nad yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, neu os nad yw'r cadeirydd yn fodlon llywyddu'r cyfarfod, neu os nad yw'n bresennol o fewn deng munud o'r amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, rhaid i'r—

(a)cyfarwyddwyr sy'n bresennol, neu

(b)(os nad oes cyfarwyddwyr yn bresennol), cyfarfod,

benodi cyfarwyddwr neu aelod i weithredu fel cadeirydd y cyfarfod, a rhaid i benodi cadeirydd fod yn fusnes cyntaf y cyfarfod.

(3) Cyfeirir at y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod yn unol â'r erthygl hon fel “cadeirydd y cyfarfod”.

Cyfarwyddwyr a rhai nad ydynt yn aelodau yn bresennol ac yn siarad

31.—(1) Caiff cyfarwyddwyr fod yn bresennol a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol, pa un a ydynt yn aelodau ai peidio.

(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ganiatáu i bersonau eraill, nad ydynt yn aelodau o'r cwmni, fod yn bresennol a siarad mewn cyfarfod cyffredinol.

Gohirio

32.—(1) Os nad yw'r personau sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol yn cyfansoddi cworwm o fewn hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, neu os yw cworwm yn peidio â bod yn bresennol yn ystod cyfarfod, rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio'r cyfarfod.

(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol y mae cworwm yn bresennol ynddo—

(a)os yw'r cyfarfod yn cydsynio i'w ohirio, neu

(b)os yw'n ymddangos i gadeirydd y cyfarfod bod gohirio'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod neu sicrhau y cyflawnir busnes y cyfarfod mewn modd trefnus.

(3) Rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan y cyfarfod.

(4) Wrth ohirio cyfarfod cyffredinol, rhaid i gadeirydd y cyfarfod—

(a)naill ai bennu'r amser a'r lle y cynhelir y cyfarfod gohiriedig neu ddatgan y parheir y cyfarfod ar yr amser ac mewn lle sydd i'w pennu gan y cyfarwyddwyr, a

(b)rhoi sylw i unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y cyfarfod ynglŷn ag amser a lleoliad unrhyw gyfarfod gohiriedig.

(5) Os yw'r cyfarfod gohiriedig i'w barhau ymhen mwy na 14 diwrnod ar ôl ei ohirio, rhaid i'r cwmni roi hysbysiad y'i cynhelir o leiaf 7 diwrnod clir (hynny yw, heb gynnwys diwrnod y cyfarfod gohiriedig na'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad) ymlaen llaw—

(a)i'r un personau y mae'n ofynnol rhoi iddynt hysbysiad o gyfarfodydd cyffredinol y cwmni, a

(b)gan gynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol i hysbysiad o'r fath ei chynnwys.

(6) Ni cheir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol gohiriedig, na ellid bod wedi ei drafod yn briodol yn y cyfarfod pe na bai'r gohirio wedi digwydd.

PLEIDLEISIO MEWN CYFARFODYDD CYFFREDINOL

Pleidleisio: cyffredinol

33.—(1) Rhaid i benderfyniad y pleidleisir arno mewn cyfarfod cyffredinol gael ei benderfynu drwy ddangos dwylo oni ofynnir yn briodol am gynnal pôl yn unol â'r erthyglau.

(2) Os nad oes landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, yna bydd un bleidlais ar gael i'w bwrw mewn perthynas â phob fflat yn y Fangre. Rhaid i'r bleidlais gael ei bwrw gan yr aelod sy'n denant cymwys y fflat.

(3) Ar unrhyw adeg pan fo unrhyw landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, penderfynir ar y pleidleisiau sydd ar gael i'w bwrw fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, dyrennir i bob uned breswyl yn y Fangre yr un nifer o bleidleisiau sy'n hafal i gyfanswm nifer aelodau'r cwmni sy'n landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre. Bydd landlordiaid o dan les o'r fath yr ystyrir eu bod yn gyd-aelod o'r cwmni eu cyfrif fel un aelod at y diben hwn;

(b)os yw'r Fangre ar unrhyw adeg yn cynnwys unrhyw ran ddibreswyl, dyrennir cyfanswm nifer pleidleisiau i'r rhan honno sy'n hafal i gyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r unedau preswyl wedi'i luosi â'r ffactor A/B, lle mae A yn gyfanswm arwynebedd llawr mewnol y rhannau dibreswyl a B yn gyfanswm arwynebedd mewnol yr holl rannau preswyl. Rhaid penderfynu ar rannau dibreswyl ac arwynebedd llawr mewnol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002. Rhaid cyfrifo mesur arwynebedd y llawr mewnol mewn metrau sgwâr, gan anwybyddu ffracsiynau o arwynebedd llawr sy'n llai na hanner metr sgwâr a chyfrif ffracsiynau o arwynebedd llawr sydd dros hanner metr sgwâr fel metr sgwâr cyfan;

(c)yr aelod sy'n denant cymwys uned breswyl sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r uned honno, neu os nad oes tenant cymwys gan yr uned honno, yr aelod sy'n landlord uniongyrchol sydd â'r hawl honno. Ni fydd gan y landlord uniongyrchol yr hawl i bleidlais uned breswyl a ddelir gan denant cymwys nad yw'n aelod o'r cwmni RTM;

(ch)landlord uniongyrchol rhan ddibreswyl o'r Fangre sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan honno, neu os nad oes les o'r rhan ddibreswyl, y rhydd-ddeiliad sydd â'r hawl honno. Os oes mwy nag un person o'r fath, rhaid rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan ddibreswyl rhyngddynt, yn ôl cyfran arwynebedd llawr mewnol eu rhannau perthnasol. Rhaid diystyru unrhyw hawl ganlyniadol i ffracsiwn o bleidlais;

(d)os nad yw uned breswyl yn ddarostyngedig i unrhyw les, nid oes hawl i fwrw unrhyw bleidleisiau mewn perthynas â hi;

(dd)mae gan unrhyw berson, sy'n landlord o dan les neu lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre ac sy'n aelod o'r cwmni ond nad oes ganddo hawl fel arall i unrhyw bleidleisiau, yr hawl i un bleidlais.

(4) Yn achos personau yr ystyrir eu bod yn gyd-aelodau o'r cwmni, caiff unrhyw berson o'r fath arfer yr hawliau pleidleisio sydd gan yr aelodau hynny ar y cyd, ond os oes mwy nag un person o'r fath yn cyflwyno pleidlais, naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy, caiff pleidlais y blaenaf ohonynt ei derbyn tra gwaherddir pleidleisiau'r lleill, a phenderfynir y flaenoriaeth yn ôl y drefn y mae enwau'r personau hynny yn ymddangos yn y gofrestr aelodau mewn perthynas â'r fflat neu'r les (yn ôl fel y digwydd) y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddi.

Gwallau ac anghydfodau

34.—(1) Ni cheir codi gwrthwynebiad i gymhwyster unrhyw berson sy'n pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio yn y cyfarfod neu'r cyfarfod gohiriedig y cyflwynir y bleidlais a wrthwynebir ynddo, ac y mae pob pleidlais nas gwrthodir yn y cyfarfod yn ddilys.

(2) Rhaid cyfeirio unrhyw wrthwynebiad o'r fath i gadeirydd y cyfarfod, ac y mae penderfyniad cadeirydd y cyfarfod yn derfynol.

Pleidleisiau pôl

35.—(1) Ceir galw am gynnal pôl ar benderfyniad—

(a)cyn cynnal y cyfarfod blynyddol lle y bwriedir pleidleisio ar y penderfyniad, neu

(b)mewn cyfarfod cyffredinol, naill ai cyn pleidleisio drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw neu'n union ar ôl datgan canlyniad pleidlais drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw.

(2) Caiff y canlynol alw am gynnal pôl—

(a)cadeirydd y cyfarfod;

(b)y cyfarwyddwyr;

(c)dau neu ragor o bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad; neu

(ch)person neu bersonau sy'n cynrychioli dim llai na degfed ran o gyfanswm hawliau pleidleisio'r holl aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad.

(3) Ceir tynnu galwad am gynnal pôl yn ôl—

(a)os nad yw'r pôl eto wedi ei gynnal, a

(b)os yw cadeirydd y cyfarfod yn cydsynio i'w dynnu yn ôl.

(4) Rhaid cynnal polau ar unwaith ac ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.

Cynnwys hysbysiadau dirprwy

36.—(1) Ni fydd penodiad dirprwy yn ddilys ac eithrio drwy hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad dirprwy”) sydd—

(a)yn datgan enw a chyfeiriad yr aelod sy'n penodi'r dirprwy;

(b)yn enwi'r person a benodir i fod yn ddirprwy'r aelod hwnnw ac yn nodi'r cyfarfod cyffredinol y'i penodir mewn perthynas ag ef;

(c)wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr aelod sy'n penodi'r dirprwy, neu wedi ei dilysu ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y cyfarwyddwyr; ac

(ch)wedi ei draddodi i'r cwmni yn unol â'r erthyglau ac unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr hysbysiad o'r cyfarfod cyffredinol y maent yn ymwneud ag ef.

(2) Caiff y cwmni ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiadau dirprwy yn cael eu traddodi mewn ffurf benodol, a phennu gwahanol ffurfiau at ddibenion gwahanol.

(3) Caiff hysbysiadau dirprwy bennu sut y mae'r dirprwy a benodir odanynt i bleidleisio (neu fod y dirprwy i ymatal rhag pleidleisio) ar un neu ragor o benderfyniadau.

(4) Oni fydd hysbysiad dirprwy yn dynodi'n wahanol, rhaid trin yr hysbysiad dirprwy fel pe bai—

(a)yn caniatáu disgresiwn i'r person a benodir yn ddirprwy odano ynglŷn â sut i bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau ategol neu weithdrefnol a osodir gerbron y cyfarfod, a

(b) yn penodi'r person hwnnw yn ddirprwy mewn perthynas ag unrhyw ohiriad o'r cyfarfod cyffredinol y mae'r hysbysiad dirprwy yn ymwneud ag ef, yn ogystal â'r cyfarfod ei hunan.

Traddodi hysbysiadau dirprwy

37.—(1) Mae person sydd â hawl i fod yn bresennol, siarad neu bleidleisio (naill ai drwy ddangos dwylo neu mewn pôl) mewn cyfarfod cyffredinol yn parhau â'r hawl honno mewn perthynas â'r cyfarfod hwnnw neu unrhyw addasiad ohono, hyd yn oed pan fo hysbysiad dirprwy dilys wedi ei draddodi i'r cwmni gan neu ar ran y person hwnnw.

(2) Ceir dirymu penodiad o dan hysbysiad dirprwy drwy draddodi i'r cwmni hysbysiad mewn ysgrifen a roddwyd gan neu ar ran y person a roddodd yr hysbysiad dirprwy neu y rhoddwyd yr hysbysiad dirprwy ar ei ran.

(3) Ni fydd hysbysiad sy'n dirymu penodiad dirprwy yn cael effaith oni thraddodir ef cyn cychwyn y cyfarfod neu'r cyfarfod gohiriedig y mae'n ymwneud ag ef.

(4) Os nad yw hysbysiad dirprwy wedi ei gyflawni gan y person ei hunan sy'n penodi'r dirprwy, rhaid ei draddodi ynghyd â thystiolaeth ysgrifenedig bod gan y person a'i cyflawnodd awdurdod i'w gyflawni ar ran y penodwr.

Gwelliannau i benderfyniadau

38.—(1) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad cyffredin sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—

(a)os rhoddir hysbysiad o'r gwelliant arfaethedig i'r cwmni, mewn ysgrifen gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y gwelliant ynddo, ddim llai na 48 awr cyn cynnal y cyfarfod (neu ba bynnag amser diweddarach a bennir gan gadeirydd y cyfarfod), a

(b)os nad yw'r gwelliant arfaethedig, ym marn resymol cadeirydd y cyfarfod, yn newid cwmpas y penderfyniad yn sylweddol.

(2) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad arbennig sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—

(a)os yw cadeirydd y cyfarfod yn cynnig y gwelliant yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y penderfyniad ynddo, a

(b)os nad yw'r gwelliant yn mynd ymhellach nag sydd ei angen i gywiro gwall gramadegol, neu wall arall nad oes a wnelo ddim â sylwedd y penderfyniad.

(3) Os digwydd i gadeirydd y cyfarfod, gan weithredu'n ddidwyll, benderfynu yn anghywir bod gwelliant i benderfyniad allan o drefn, nid yw camgymeriad y cadeirydd yn annilysu'r bleidlais ar y penderfyniad hwnnw.