- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
36.—(1) Ni fydd penodiad dirprwy yn ddilys ac eithrio drwy hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad dirprwy”) sydd—
(a)yn datgan enw a chyfeiriad yr aelod sy'n penodi'r dirprwy;
(b)yn enwi'r person a benodir i fod yn ddirprwy'r aelod hwnnw ac yn nodi'r cyfarfod cyffredinol y'i penodir mewn perthynas ag ef;
(c)wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr aelod sy'n penodi'r dirprwy, neu wedi ei dilysu ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y cyfarwyddwyr; ac
(ch)wedi ei draddodi i'r cwmni yn unol â'r erthyglau ac unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr hysbysiad o'r cyfarfod cyffredinol y maent yn ymwneud ag ef.
(2) Caiff y cwmni ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiadau dirprwy yn cael eu traddodi mewn ffurf benodol, a phennu gwahanol ffurfiau at ddibenion gwahanol.
(3) Caiff hysbysiadau dirprwy bennu sut y mae'r dirprwy a benodir odanynt i bleidleisio (neu fod y dirprwy i ymatal rhag pleidleisio) ar un neu ragor o benderfyniadau.
(4) Oni fydd hysbysiad dirprwy yn dynodi'n wahanol, rhaid trin yr hysbysiad dirprwy fel pe bai—
(a)yn caniatáu disgresiwn i'r person a benodir yn ddirprwy odano ynglŷn â sut i bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau ategol neu weithdrefnol a osodir gerbron y cyfarfod, a
(b) yn penodi'r person hwnnw yn ddirprwy mewn perthynas ag unrhyw ohiriad o'r cyfarfod cyffredinol y mae'r hysbysiad dirprwy yn ymwneud ag ef, yn ogystal â'r cyfarfod ei hunan.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: