29.—(1) Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio penodi cadeirydd y cyfarfod os nad yw'r personau sy'n bresennol yn y cyfarfod yn cyfansoddi cworwm fel a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y cworwm ar gyfer y cyfarfod yw 20 y cant o aelodau'r cwmni sydd â hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i'w drafod, neu ddau aelod o'r cwmni sydd â hawl o'r fath (pa un bynnag yw'r nifer mwyaf), yn bresennol naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy.