SCHEDULE 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNI RTMDEDDF CWMNÏAU 2006
ERTHYGLAU CYMDEITHASU [ENW] CWMNI RTM CYFYNGEDIG
CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT SYDD HEB GYFALAF CYFRANDDALIADAU
RHAN 4GWNEUD PENDERFYNIADAU GAN AELODAU
TREFNIADAETH CYFARFODYDD CYFFREDINOL
Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol29
1
Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio penodi cadeirydd y cyfarfod os nad yw'r personau sy'n bresennol yn y cyfarfod yn cyfansoddi cworwm fel a bennir ym mharagraff (2).
2
Y cworwm ar gyfer y cyfarfod yw 20 y cant o aelodau'r cwmni sydd â hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i'w drafod, neu ddau aelod o'r cwmni sydd â hawl o'r fath (pa un bynnag yw'r nifer mwyaf), yn bresennol naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy.