ATODLEN 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNI RTMDEDDF CWMNÏAU 2006
ERTHYGLAU CYMDEITHASU [ENW] CWMNI RTM CYFYNGEDIG
CWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT SYDD HEB GYFALAF CYFRANDDALIADAU
RHAN 4GWNEUD PENDERFYNIADAU GAN AELODAU
TREFNIADAETH CYFARFODYDD CYFFREDINOL
Presenoldeb a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol28
1
Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i siarad mewn cyfarfod cyffredinol pan fo'r person hwnnw mewn sefyllfa i gyfathrebu i bawb sy'n bresennol yn y cyfarfod, yn ystod y cyfarfod, unrhyw wybodaeth neu farnau sydd gan y person hwnnw ynglŷn â busnes y cyfarfod.
2
Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol—
a
os gall y person hwnnw bleidleisio, yn ystod y cyfarfod, ar benderfyniadau y pleidleisir arnynt yn y cyfarfod, a
b
os gellir cymryd pleidlais y person hwnnw i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a basiwyd penderfyniadau o'r fath ai peidio ar yr un pryd â phleidleisiau pob person arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.
3
Caiff y cyfarwyddwyr wneud pa bynnag drefniadau a ystyriant yn briodol i alluogi'r rhai sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol i arfer eu hawl i siarad neu bleidleisio ynddo.
4
Wrth benderfynu ynghylch presenoldeb mewn cyfarfod cyffredinol, nid yw'n berthnasol pa un a yw unrhyw ddau neu ragor o'r aelodau sy'n bresennol yn yr un lle â'i gilydd ai peidio.
5
Mae dau neu ragor o bersonau nad ydynt yn yr un lle â'i gilydd yn bresennol mewn cyfarfod cyffredinol os yw eu hamgylchiadau yn rhai sy'n caniatáu, os oes ganddynt (neu pe byddai ganddynt) hawliau i siarad a phleidleisio yn y cyfarfod hwnnw, y gallant (neu y gallent) arfer yr hawliau hynny.