- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
27.—(1) Nid yw aelodaeth o'r cwmni yn drosglwyddadwy.
(2) Bydd unrhyw aelod nad yw, ar unrhyw adeg, yn bodloni'r gofynion ar gyfer aelodaeth a bennir yn erthygl 26 yn peidio â bod yn aelod o'r cwmni ar unwaith.
(3) Os bydd farw aelod (neu gyd-aelod) neu os â'n fethdalwr, bydd gan ei gynrychiolwyr personol neu'i ymddiriedolwr mewn methdaliad yr hawl i'w cofrestru, neu i'w gofrestru, yn aelod (neu'n gyd-aelod yn ôl fel y digwydd) drwy wneud cais i'r cwmni.
(4) Caiff aelod dynnu allan o'r cwmni a thrwy hynny beidio â bod yn aelod drwy hysbysu'r cwmni mewn ysgrifen saith diwrnod clir o leiaf ymlaen llaw. Nid yw unrhyw hysbysiad o'r fath yn effeithiol os rhoddir ef yn y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r cwmni'n cyflwyno hysbysiad o'i hawliad i gaffael yr hawl i reoli'r Fangre ac yn diweddu ar y dyddiad sydd naill ai—
(a)y dyddiad caffael yn unol ag adran 90 o Ddeddf 2002; neu
(b)y dyddiad y tynnir yr hysbysiad hwnnw yn ôl neu yr ystyrir iddo gael ei dynnu'n ôl yn unol ag adrannau 86 neu 87 o'r Ddeddf honno.
(5) Beth bynnag fo'r rheswm—
(a)os yw person nad yw'n aelod o'r cwmni yn dod yn denant cymwys neu'n landlord ar y cyd â phersonau sy'n aelodau o'r cwmni, ond nad yw'n gwneud cais am aelodaeth o fewn 28 diwrnod, neu
(b)os bydd farw aelod sydd yn denant cymwys neu'n landlord ar y cyd â phersonau o'r fath, neu os â'n fethdalwr ac nad yw ei gynrychiolwyr personol neu'i ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gwneud cais am aelodaeth o fewn 56 diwrnod, neu
(c)os yw aelod sydd yn denant cymwys neu'n landlord ar y cyd â phersonau eraill o'r fath yn ymddiswyddo o fod yn aelod yn unol ag erthygl 27(3),
mae'r personau hynny, onid oes ganddynt hawl fel arall i fod yn aelodau o'r cwmni oherwydd eu buddiant mewn rhyw fflat neu les arall, hefyd yn peidio â bod yn aelodau o'r cwmni ar unwaith. Er hynny, bydd gan bob person o'r fath yr hawl i ailgeisio am aelodaeth yn unol ag erthygl 26.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: