Pleidlais fwrw
18.—(1) Os yw nifer y pleidleisiau o blaid ac yn erbyn cynnig, mae gan y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr arall sy'n cadeirio'r cyfarfod bleidlais fwrw.
(2) Ond nid yw hyn yn gymwys os yn unol â'r erthyglau, ni cheir cyfrif y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr arall hwnnw fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm neu bleidleisio.