xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
15.—(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, mae cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfarwyddwyr, neu ran o gyfarfod cyfarwyddwyr—
(a)pan fo'r cyfarfod wedi ei alw ac yn cael ei gynnal yn unol â'r erthyglau, a
(b)pan fo modd i bob un ohonynt gyfathrebu i'r lleill unrhyw wybodaeth neu farnau sydd ganddynt ynglŷn ag unrhyw eitem benodol o fusnes y cyfarfod.
(2) Wrth benderfynu a yw cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfarwyddwyr ai peidio, mae'r lle y mae unrhyw gyfarwyddwr ynddo a'r dull a ddefnyddiant i gyfathrebu â'i gilydd yn amherthnasol.
(3) Os nad yw'r cyfarwyddwyr sy'n cymryd rhan mewn cyfarfod i gyd yn yr un lle, cânt benderfynu bod y cyfarfod i'w drin fel pe bai'n cael ei gynnal yn y lle y mae unrhyw un ohonynt ynddo.