Diffinio termau
1. Yn yr erthyglau, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
mae i “aelod” yr ystyr a roddir i “member” yn adran 112 o Ddeddf 2006;
mae i “cadeirydd” yr ystyr a roddir yn erthygl 17;
mae i “cadeirydd y cyfarfod” yr ystyr a roddir yn erthygl 30;
mae i “cwmni RTM” (cwmni Hawl i Reoli) yr ystyr a roddir i “RTM company” yn adran 73 o Ddeddf 2002;
ystyr “cyfarwyddwr” yw cyfarwyddwr cwmni, ac y mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n dal swydd cyfarwyddwr, pa bynnag enw a roddir ar y swydd honno;
mae i “cymryd rhan”, mewn perthynas â chyfarfod cyfarwyddwyr, yr ystyr a roddir yn erthygl 15;
ystyr “Deddf 2002” yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;
mae i “Deddfau Cwmnïau” yr ystyr a roddir i “Companies Acts” fel y'u diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Cwmnïau 2006(1), i'r graddau y maent yn gymwys i'r cwmni;
mae “dogfen”, oni phennir yn wahanol, yn cynnwys unrhyw ddogfen a anfonir neu a gyflenwir mewn ffurf electronig;
ystyr “erthyglau” yw erthyglau cymdeithasu'r cwmni;
ystyr “y Fangre” yw [enw a chyfeiriad];
mae i “ffurf electronig” yr ystyr a roddir i “electronic form” yn adran 1168 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”);
mae i “hysbysiad dirprwy” yr ystyr a roddir yn erthygl 36;
mae i “is-gwmni” yr ystyr a roddir i “subsidiary” yn adran 1159 o Ddeddf 2006;
ystyr “landlord uniongyrchol”, mewn perthynas ag uned yn y Fangre, yw'r person—
os yw'r uned yn ddarostyngedig i les, sy'n landlord o dan y les; neu
os yw'r uned yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o lesoedd, sy'n landlord o dan ba un bynnag o'r lesoedd sy'n israddol i'r lleill;
mae “methdaliad” yn cynnwys achos ansolfedd unigol, sy'n cael effaith gyffelyb i fethdaliad, mewn awdurdodaeth arall ac eithrio Cymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon;
mae i “penderfyniad arbennig” yr ystyr a roddir i “special resolution” yn adran 283 o Ddeddf 2006;
mae i “penderfyniad cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary resolution” yn adran 282 o Ddeddf 2006;
mae i “tenant cymwys” yr ystyr a roddir i “qualifying tenant” yn adrannau 72 a 112 o Ddeddf 2002;
ystyr “uned breswyl” yw fflat neu unrhyw set arall ar wahân sy'n fangre a adeiladwyd neu a addaswyd at ddibenion annedd; ac
ystyr “ysgrifen” yw geiriau, symbolau neu wybodaeth arall, a gynrychiolir neu a atgynhyrchir mewn ffurf weladwy, gan ddefnyddio unrhyw ddull neu gyfuniad o ddulliau, ar gyfer eu hanfon neu'u cyflenwi mewn ffurf electronig neu rywfodd arall.
(2) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion eraill a geir yn yr erthyglau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Cwmnïau 2006 fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad y gwnaed Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011.