The RTM Companies (Model Articles) (Wales) Regulations 2011

Regulation 2

SCHEDULE 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNI RTMDEDDF CWMNÏAU 2006ERTHYGLAU CYMDEITHASU [ENW] CWMNI RTM CYFYNGEDIGCWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT SYDD HEB GYFALAF CYFRANDDALIADAU

RHAN 1DEHONGLI, ENWAU AC AMCANION CWMNI RTM A CHYFYNGU ATEBOLRWYDD

Diffinio termau

1.  Yn yr erthyglau, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

mae i “aelod” yr ystyr a roddir i “member” yn adran 112 o Ddeddf 2006;

mae i “cadeirydd” yr ystyr a roddir yn erthygl 17;

mae i “cadeirydd y cyfarfod” yr ystyr a roddir yn erthygl 30;

mae i “cwmni RTM” (cwmni Hawl i Reoli) yr ystyr a roddir i “RTM company” yn adran 73 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfarwyddwr” yw cyfarwyddwr cwmni, ac y mae'n cynnwys unrhyw berson sy'n dal swydd cyfarwyddwr, pa bynnag enw a roddir ar y swydd honno;

mae i “cymryd rhan”, mewn perthynas â chyfarfod cyfarwyddwyr, yr ystyr a roddir yn erthygl 15;

ystyr “Deddf 2002” yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

mae i “Deddfau Cwmnïau” yr ystyr a roddir i “Companies Acts” fel y'u diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Cwmnïau 2006(1), i'r graddau y maent yn gymwys i'r cwmni;

mae “dogfen”, oni phennir yn wahanol, yn cynnwys unrhyw ddogfen a anfonir neu a gyflenwir mewn ffurf electronig;

ystyr “erthyglau” yw erthyglau cymdeithasu'r cwmni;

ystyr “y Fangre” yw [enw a chyfeiriad];

mae i “ffurf electronig” yr ystyr a roddir i “electronic form” yn adran 1168 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (“Deddf 2006”);

mae i “hysbysiad dirprwy” yr ystyr a roddir yn erthygl 36;

mae i “is-gwmni” yr ystyr a roddir i “subsidiary” yn adran 1159 o Ddeddf 2006;

ystyr “landlord uniongyrchol”, mewn perthynas ag uned yn y Fangre, yw'r person—

(a)

os yw'r uned yn ddarostyngedig i les, sy'n landlord o dan y les; neu

(b)

os yw'r uned yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o lesoedd, sy'n landlord o dan ba un bynnag o'r lesoedd sy'n israddol i'r lleill;

mae “methdaliad” yn cynnwys achos ansolfedd unigol, sy'n cael effaith gyffelyb i fethdaliad, mewn awdurdodaeth arall ac eithrio Cymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon;

mae i “penderfyniad arbennig” yr ystyr a roddir i “special resolution” yn adran 283 o Ddeddf 2006;

mae i “penderfyniad cyffredin” yr ystyr a roddir i “ordinary resolution” yn adran 282 o Ddeddf 2006;

mae i “tenant cymwys” yr ystyr a roddir i “qualifying tenant” yn adrannau 72 a 112 o Ddeddf 2002;

ystyr “uned breswyl” yw fflat neu unrhyw set arall ar wahân sy'n fangre a adeiladwyd neu a addaswyd at ddibenion annedd; ac

ystyr “ysgrifen” yw geiriau, symbolau neu wybodaeth arall, a gynrychiolir neu a atgynhyrchir mewn ffurf weladwy, gan ddefnyddio unrhyw ddull neu gyfuniad o ddulliau, ar gyfer eu hanfon neu'u cyflenwi mewn ffurf electronig neu rywfodd arall.

(2) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion eraill a geir yn yr erthyglau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Cwmnïau 2006 fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad y gwnaed Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011.

ENW AC AMCANION Y CWMNI RTM

2.  Enw'r cwmni yw [enw]Cwmni RTM Cyfyngedig.

3.  Lleolir swyddfa gofrestredig y cwmni yng [Nghymru] /[Nghymru a Lloegr].

4.  Yr amcanion y sefydlir y cwmni ar eu cyfer yw caffael ac arfer, yn unol â Deddf 2002, yr hawl i reoli'r Fangre.

5.  Rhaid peidio â dehongli'r amcanion hyn mewn ffordd gyfyng ond yn hytrach, rhaid rhoi'r dehongliad ehangaf iddynt. Er mwyn hyrwyddo'r amcanion, ond nid fel arall, bydd gan y cwmni y pŵer i wneud popeth a awdurdodir neu sy'n ofynnol i gwmni RTM ei wneud, drwy ac o dan Ddeddf 2002, ac yn benodol (ond heb randdirymu grym cyffredinol yr uchod)—

(a)paratoi, gwneud a bwrw ymlaen â hawliad i gaffael yr hawl i reoli'r Fangre, neu ei dynnu'n ôl;

(b)arfer swyddogaethau rheoli o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn unol ag adrannau 96 a 97 o Ddeddf 2002;

(c)arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhoi cymeradwyaethau o dan lesoedd hir o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn unol ag adrannau 98 a 99 o Ddeddf 2002;

(ch)yn unol ag adrannau 100 a 101 o Ddeddf 2002, monitro, cadw golwg, adrodd wrth y landlord, a sicrhau neu orfodi cyflawni telerau unrhyw gyfamod, ymgymeriad, dyletswydd neu ymrwymiad, gan unrhyw berson, sy'n gysylltiedig mewn unrhyw fodd â'r Fangre neu'n effeithio arni neu unrhyw rai o'i meddianwyr;

(d)negodi a gwneud ceisiadau i amrywio lesoedd yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (“Deddf 1987”);

(dd)gwneud y pethau eraill hynny a chyflawni'r swyddogaethau eraill hynny mewn perthynas â'r Fangre neu unrhyw lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre y cytunir arnynt o bryd i'w gilydd gyda'r landlord neu'r landlordiaid neu unrhyw bartïon eraill i'r les, yn ôl fel y digwydd;

(e)darparu a chynnal gwasanaethau ac amwynderau o bob disgrifiad mewn perthynas â'r Fangre;

(f)cynnal, ailaddurno, trwsio, adnewyddu, ailbeintio a glanhau'r Fangre; a thrin, cynnal, tirlunio a phlannu unrhyw erddi, libart neu dir sy'n rhan o'r Fangre;

(ff)ymrwymo mewn contractau ag adeiladwyr, glanhawyr, contractwyr, addurnwyr, garddwyr, tenantiaid neu unrhyw berson arall;

(g)ymgynghori ag unrhyw gynghorwyr proffesiynol a chadw eu gwasanaeth;

(ng)cyflogi unrhyw staff ac asiantwyr rheoli neu asiantwyr eraill;

(h)talu, rhoi cydnabyddiaeth neu wobrwyo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson sy'n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r cwmni;

(i)gwneud unrhyw gytundebau priodol neu ganlyniadol neu drefniadau er mwyn i'r hawl i reoli'r Fangre beidio â bod yn arferadwy gan y cwmni;

(j)dyroddi a derbyn unrhyw hysbysiad, gwrth-hysbysiad, caniatâd neu gyfathrebiad arall a gohebu ynghylch y Fangre neu'r hyn sy'n effeithio arni mewn unrhyw fodd, rheolaeth y Fangre, meddianwyr y Fangre, y cwmni, unrhyw un o'i weithgareddau, neu unrhyw un o'i aelodau;

(l)cychwyn, amddiffyn, cymryd rhan mewn, neu fwrw ymlaen ag unrhyw gais i unrhyw lys neu dribiwnlys o unrhyw ddisgrifiad neu mewn unrhyw achos arall gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys o'r fath;

(ll)yswirio'r Fangre neu unrhyw eiddo arall y cwmni, neu eiddo y mae ganddo fuddiant ynddo, hyd at a chan gynnwys cost lawn ailadeiladu ac adfer y Fangre, gan gynnwys TAW, ffioedd penseiri, peirianwyr, cyfreithwyr, syrfewyr a'r holl bersonau proffesiynol eraill, y ffioedd sy'n daladwy ar unrhyw geisiadau am ganiatâd cynllunio neu ganiatadau neu gydsyniadau eraill a allai fod yn ofynnol mewn perthynas ag ailadeiladu neu adfer y Fangre, y gost o baratoi'r safle gan gynnwys cludo malurion ymaith, chwalu, gwaith cynnal ac ategu, clirio'r safle ac unrhyw waith a all fod yn ofynnol drwy statud, a mân dreuliau, yn ddarostyngedig i ba bynnag symiau trothwy, eithriadau neu gyfyngiadau sy'n arferol ym marchnad yswiriant Llundain. Yswirio'r cwmni a'i gyfarwyddwyr, swyddogion neu archwilwyr rhag atebolrwydd cyhoeddus ac unrhyw risgiau eraill yr ystyria'n ddoeth neu'n ddymunol yswirio rhagddynt;

(m)casglu neu dderbyn arian oddi wrth unrhyw berson ar gyfer taliadau gweinyddol, taliadau gwasanaeth, neu daliadau eraill mewn perthynas â'r Fangre a phan fo'n ofynnol yn ôl y gyfraith, trafod, dal neu fuddsoddi'r arian yn unol â darpariaethau Deddf 1987 ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno o bryd i'w gilydd;

(n)sefydlu, gwneud a gweithredu unrhyw ymddiriedolaethau y gellir yn gyfreithiol, neu sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, eu sefydlu, eu gweithredu neu eu gwneud gan y cwmni;

(o)sefydlu a chynnal cronfeydd cyfalaf wrth gefn, cronfeydd rheoli ac unrhyw ffurf ar gronfa ad-dalu er mwyn talu, neu gyfrannu tuag at, yr holl gostau, ffioedd a threuliau eraill a dynnir wrth weithredu amcanion y cwmni;

(p)buddsoddi unrhyw arian sydd gan y cwmni yn y Deyrnas Unedig drwy ei adneuo gyda llog gydag unrhyw sefydliad ariannol lle y ceir dal cronfa ymddiriedolaeth o gyfraniadau tâl gwasanaeth yn unol â Deddf 1987; neu ei fuddsoddi mewn modd arall (gan gynnwys prynu gwarannau a buddsoddiadau eraill) a awdurdodir gan y cwmni o bryd i'w gilydd mewn cyfarfod cyffredinol; a dal, gwerthu neu waredu fel arall unrhyw fuddsoddiadau o'r fath;

(ph)yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y cwmni mewn cyfarfodydd cyffredinol o bryd i'w gilydd, ac yn ddarostyngedig i ddarparu sicrwydd digonol a thalu llog, talu blaensymiau a rhoi benthyg arian neu roi credyd i unrhyw berson; ymrwymo mewn gwarantau, contractau indemnio a meichiau; derbyn arian ar adnau neu ar fenthyg; a sicrhau neu warantu y telir unrhyw swm o arian neu y cyflawnir unrhyw ymrwymiad gan unrhyw berson;

(r)yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a osodir gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol o bryd i'w gilydd, cymryd benthyg a chodi arian mewn unrhyw fodd a sicrhau yr ad-delir unrhyw arian a gymerir ar fenthyg, a godir neu sy'n ddyledus drwy forgais, arwystl, sicrwydd safonol, hawlrwym neu sicrwydd arall ar y cyfan neu ar ran o eiddo neu asedau'r cwmni (boed yn y presennol neu'r dyfodol);

(rh)gweithredu cyfrifon banc a thynnu, gwneud, derbyn, ardystio, disgowntio, negodi, gweithredu a dyroddi sieciau, biliau cyfnewid, dyledebion, nodion addewidiol ac offerynnau cyfnewidiadwy neu drosglwyddadwy eraill;

(s)talu'r cyfan neu unrhyw rai o'r treuliau a dynnwyd mewn cysylltiad â hyrwyddo, ffurfio ac ymgorffori'r cwmni, neu gontractio ag unrhyw berson i dalu treuliau o'r fath;

(t)monitro a phenderfynu, at ddibenion pleidleisio neu at unrhyw ddiben arall, dimensiynau ffisegol y Fangre ac unrhyw ran neu rannau o'r Fangre, a chymryd neu gael unrhyw fesuriadau priodol;

(th)ymrwymo mewn unrhyw gytundebau neu drefniadau gydag unrhyw lywodraeth, neu awdurdod (canolog, trefol, lleol, neu fel arall) sy'n ymddangos yn fuddiol er mwyn cyflawni amcanion y cwmni, a sicrhau gan unrhyw lywodraeth neu awdurdod o'r fath unrhyw siarteri, archddyfarniadau, hawliau, breintiau neu gonsesiynau a ystyrir yn ddymunol gan y cwmni, a chyflawni, arfer, a chydymffurfio ag unrhyw siarteri, archddyfarniadau, hawliau, breintiau a chonsesiynau o'r fath;

(u)gwneud yr holl bethau a bennir am y tro yn erthyglau cymdeithasu'r cwmni;

(w)gwneud neu gaffael neu drefnu ar gyfer gwneud y cyfan neu unrhyw rai o'r pethau neu faterion a grybwyllir uchod mewn unrhyw ran o'r byd, a hynny naill ai fel penaduriaid, asiantwyr, contractwyr neu fel arall, a chan neu drwy asiantwyr, broceriaid, is-gontractwyr neu fel arall, a naill ai ar ei ben ei hunan neu ar y cyd ag eraill; ac

(y)gwneud yr holl bethau cyfreithlon eraill hynny sy'n gysylltiedig ag ymgyrraedd at neu gyflawni amcanion y cwmni, neu'n ffafriol iddo.

6.  Rhaid defnyddio incwm y cwmni, o ba le bynnag y deillia, at yr unig ddiben o hyrwyddo amcanion y cwmni, ac ni cheir gwneud dosraniad i'w aelodau, mewn arian nac fel arall, ac eithrio wrth ddirwyn y cwmni i ben.

CYFYNGU ATEBOLRWYDD

Atebolrwydd yr aelodau

7.  Mae atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig i £1 yr un, sef y swm y maent yn ymgymryd i'w gyfrannu i asedau'r cwmni os digwydd iddo gael ei ddirwyn i ben tra bônt yn aelod, neu o fewn un flwyddyn wedi iddynt beidio â bod yn aelod, ar gyfer—

(a)talu dyledion a rhwymedigaethau'r cwmni a gontractiwyd cyn iddynt beidio â bod yn aelod;

(b)talu costau, ffioedd a threuliau dirwyn i ben; ac

(c)addasu hawliau'r cyfranwyr ymysg ei gilydd.

RHAN 2CYFARWYDDWYR

PWERAU A CHYFRIFOLDEBAU CYFARWYDDWYR

Awdurdod cyffredinol cyfarwyddwyr

8.  Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, mae'r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am reoli busnes y cwmni, ac at y diben hwnnw cânt arfer holl bwerau'r cwmni.

Pŵer wrth gefn yr aelodau

9.—(1) Caiff yr aelodau, drwy benderfyniad arbennig, gyfarwyddo'r cyfarwyddwyr i gymryd cam penodol, neu ymatal rhag cymryd cam penodol.

(2) Ni chaiff unrhyw benderfyniad arbennig o'r fath annilysu unrhyw beth a wnaed gan y cyfarwyddwyr cyn pasio'r penderfyniad.

Caiff cyfarwyddwyr ddirprwyo

10.—(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, caiff y cyfarwyddwyr ddirprwyo unrhyw rai o'r pwerau a roddir iddynt o dan yr erthyglau—

(a)i ba bynnag berson neu bwyllgor;

(b)drwy ba bynnag ddull (gan gynnwys atwrneiaeth);

(c)i ba bynnag raddau;

(ch)mewn perthynas â pha bynnag faterion; a

(d)ar ba bynnag delerau ac amodau;

ag y tybiant yn briodol.

(2) Os yw'r cyfarwyddwyr yn pennu felly, caiff unrhyw ddirprwyo o'r fath awdurdodi dirprwyo pwerau'r cyfarwyddwyr ymhellach, gan unrhyw berson y dirprwywyd y pwerau iddo.

(3) Caiff y cyfarwyddwyr ddirymu unrhyw ddirprwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol, neu newid amodau a thelerau'r dirprwyo.

Pwyllgorau

11.  Rhaid i bwyllgorau y mae'r cyfarwyddwyr yn dirprwyo unrhyw rai o'u pwerau iddynt, ddilyn gweithdrefnau sy'n seiliedig, i'r graddau y maent yn gymwys, ar y darpariaethau hynny o'r erthyglau sy'n llywodraethu gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr.

GWNEUD PENDERFYNIADAU GAN GYFARWYDDWYR

Cyfarwyddwyr i wneud penderfyniadau ar y cyd

12.—(1) Y rheol gyffredinol ynglŷn â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr yw fod rhaid i unrhyw benderfyniad gan y cyfarwyddwyr fod naill ai'n benderfyniad mwyafrif mewn cyfarfod neu'n benderfyniad a wneir yn unol ag erthygl 13.

(2) Os—

(a)un cyfarwyddwr yn unig sydd gan y cwmni, a

(b)nad oes darpariaeth o'r erthyglau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ganddo fwy nag un cyfarwyddwr,

nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys, a chaiff y cyfarwyddwr wneud penderfyniadau heb ystyried unrhyw ddarpariaethau o'r erthyglau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr.

Penderfyniadau unfrydol

13.—(1) Gwneir penderfyniad gan y cyfarwyddwyr yn unol â'r erthygl hon pan fo pob un o'r cyfarwyddwyr cymwys yn dynodi, y naill wrth y llall gan ddefnyddio unrhyw ddull, eu bod yn rhannu safbwynt cyffredin ar y mater.

(2) Caiff penderfyniad o'r fath fod ar ffurf penderfyniad ysgrifenedig, y llofnodwyd copïau ohono gan bob cyfarwyddwr cymwys, neu y dynododd pob cyfarwyddwr cymwys, mewn ysgrifen rywfodd arall, ei fod yn cytuno â'r penderfyniad.

(3) Mae'r cyfeiriadau yn yr erthygl hon at gyfarwyddwyr cymwys yn gyfeiriadau at gyfarwyddwyr y byddai hawl ganddynt i bleidleisio ar y mater pe bai'r mater wedi ei gynnig fel penderfyniad mewn cyfarfod o'r cyfarwyddwyr.

(4) Ni chaniateir gwneud penderfyniad yn unol â'r erthygl hon os na fyddai'r cyfarwyddwyr cymwys wedi ffurfio cworwm mewn cyfarfod o'r fath.

Galw cyfarfod cyfarwyddwyr

14.—(1) Caiff unrhyw gyfarwyddwr alw cyfarfod o'r cyfarwyddwyr drwy roi hysbysiad o'r cyfarfod i'r cyfarwyddwyr neu drwy awdurdodi ysgrifennydd y cwmni (os oes ysgrifennydd) i roi hysbysiad o'r fath.

(2) Rhaid i hysbysiad o unrhyw gyfarfod o'r cyfarwyddwyr bennu—

(a)dyddiad ac amser arfaethedig y cyfarfod;

(b)y man lle y'i cynhelir; ac

(c)os rhagwelir na fydd y cyfarwyddwyr a fydd yn cymryd rhan yn y cyfarfod i gyd yn yr un man, sut y bwriedir iddynt gyfathrebu â'i gilydd yn ystod y cyfarfod.

(3) Rhaid rhoi hysbysiad o gyfarfod o'r cyfarwyddwyr i bob cyfarwyddwr, ond nid oes raid i'r hysbysiad fod mewn ysgrifen.

(4) Nid oes raid rhoi hysbysiad o gyfarfod o'r cyfarwyddwyr i gyfarwyddwyr sy'n ildio'u hawl i gael eu hysbysu o'r cyfarfod hwnnw, drwy roi hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r cwmni, ddim mwy na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y cynhelir y cyfarfod. Pan roddir hysbysiad o'r fath ar ôl cynnal y cyfarfod, nid yw hynny'n effeithio ar ddilysrwydd y cyfarfod nac unrhyw fusnes a gyflawnir ynddo.

Cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyfarwyddwyr

15.—(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, mae cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfarwyddwyr, neu ran o gyfarfod cyfarwyddwyr—

(a)pan fo'r cyfarfod wedi ei alw ac yn cael ei gynnal yn unol â'r erthyglau, a

(b)pan fo modd i bob un ohonynt gyfathrebu i'r lleill unrhyw wybodaeth neu farnau sydd ganddynt ynglŷn ag unrhyw eitem benodol o fusnes y cyfarfod.

(2) Wrth benderfynu a yw cyfarwyddwyr yn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfarwyddwyr ai peidio, mae'r lle y mae unrhyw gyfarwyddwr ynddo a'r dull a ddefnyddiant i gyfathrebu â'i gilydd yn amherthnasol.

(3) Os nad yw'r cyfarwyddwyr sy'n cymryd rhan mewn cyfarfod i gyd yn yr un lle, cânt benderfynu bod y cyfarfod i'w drin fel pe bai'n cael ei gynnal yn y lle y mae unrhyw un ohonynt ynddo.

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr

16.—(1) Mewn cyfarfod cyfarwyddwyr, oni fydd cworwm yn cymryd rhan, rhaid peidio â phleidleisio ar unrhyw gynnig ac eithrio cynnig i alw cyfarfod arall.

(2) Ceir pennu'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyfarwyddwyr o bryd i'w gilydd gan benderfyniad y cyfarwyddwyr, ond ni chaiff y cworwm byth fod yn llai na dau, ac oni phennir fel arall, y cworwm fydd dau.

(3) Os yw nifer cyfanswm y cyfarwyddwyr am y tro yn llai na'r cworwm gofynnol, rhaid i'r cyfarwyddwyr beidio â gwneud unrhyw benderfyniad ac eithrio penderfyniad—

(a)i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol, neu

(b)i alw cyfarfod cyffredinol er mwyn galluogi'r aelodau i benodi cyfarwyddwyr ychwanegol.

Cadeirio cyfarfodydd cyfarwyddwyr

17.—(1) Caiff y cyfarwyddwyr benodi cyfarwyddwr i weithredu fel cadeirydd yn eu cyfarfodydd.

(2) Cyfeirir at y person a benodir felly am y tro fel y cadeirydd.

(3) Caiff y cyfarwyddwyr derfynu penodiad y cadeirydd ar unrhyw adeg.

(4) Os na fydd y cadeirydd yn cymryd rhan mewn cyfarfod cyfarwyddwyr o fewn deng munud o'r amser a bennwyd i gychwyn y cyfarfod, rhaid i'r cyfarwyddwyr sy'n cymryd rhan benodi un o'u plith i weithredu fel cadeirydd.

Pleidlais fwrw

18.—(1) Os yw nifer y pleidleisiau o blaid ac yn erbyn cynnig, mae gan y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr arall sy'n cadeirio'r cyfarfod bleidlais fwrw.

(2) Ond nid yw hyn yn gymwys os yn unol â'r erthyglau, ni cheir cyfrif y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr arall hwnnw fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm neu bleidleisio.

Gwrthdrawiadau buddiannau

19.—(1) Os yw penderfyniad arfaethedig gan y cyfarwyddwyr yn ymwneud â thrafodiad neu drefniant gwirioneddol neu arfaethedig gyda'r cwmni, a buddiant gan gyfarwyddwr yn y trafodiad neu'r trefniant hwnnw, rhaid peidio â chyfrif y cyfarwyddwr hwnnw fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm neu bleidleisio.

(2) Ond os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid cyfrif cyfarwyddwr, sydd â buddiant mewn trafodiad neu drefniant gwirioneddol neu arfaethedig gyda'r cwmni, fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, at ddibenion cworwm a phleidleisio.

(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo'r cwmni, drwy benderfyniad cyffredin, yn datgymhwyso'r ddarpariaeth o'r erthyglau a fyddai, fel arall, yn rhwystro cyfarwyddwr rhag cael ei gyfrif fel un sy'n cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;

(b)pan na ellir, yn rhesymol, ystyried bod buddiant y cyfarwyddwr yn debygol o achosi gwrthdrawiad buddiannau; neu

(c)pan fo gwrthdrawiad buddiannau'r cyfarwyddwr yn tarddu o achos a ganiateir.

(4) At ddibenion yr erthygl hon, mae'r canlynol yn achosion a ganiateir—

(a)gwarant a roddwyd, neu sydd i'w rhoi, gan neu i gyfarwyddwr mewn perthynas â rhwymedigaeth a dynnwyd gan neu ar ran y cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau;

(b)tanysgrifiad, neu gytundeb i danysgrifio, am warannau'r cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau, neu danysgrifennu neu is-danysgrifennu neu warantu tanysgrifiad am unrhyw warannau o'r fath; ac

(c)trefniadau y rhoddir buddion yn unol â hwy i gyflogeion a chyfarwyddwyr neu gyn-gyflogeion a chyn-gyfarwyddwyr y cwmni neu unrhyw un o'i is-gwmnïau, ac nad ydynt yn darparu buddion arbennig i gyfarwyddwyr neu gyn-gyfarwyddwyr.

(5) At ddibenion yr erthygl hon, mae cyfeiriadau at benderfyniadau arfaethedig a phrosesau gwneud penderfyniadau yn cynnwys unrhyw gyfarfod cyfarwyddwyr neu ran o gyfarfod cyfarwyddwyr.

(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os oes cwestiwn yn codi mewn cyfarfod cyfarwyddwyr neu mewn pwyllgor o'r cyfarwyddwyr ynghylch hawl cyfarwyddwr i gymryd rhan yn y cyfarfod (neu ran o'r cyfarfod) at ddibenion pleidleisio neu gworwm, ceir cyfeirio'r cwestiwn, cyn diwedd y cyfarfod, i'r cadeirydd, a bydd dyfarniad y cadeirydd, mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwr ac eithrio'r cadeirydd, yn derfynol a phendant.

(7) Os oes unrhyw gwestiwn ynghylch hawl i gymryd rhan yn y cyfarfod (neu ran o'r cyfarfod) yn codi mewn perthynas â'r cadeirydd, rhaid penderfynu'r cwestiwn drwy benderfyniad o'r cyfarwyddwyr yn y cyfarfod hwnnw, ac at y diben hwnnw, ni cheir cyfrif y cadeirydd fel un sy'n cymryd rhan yn y cyfarfod (neu'r rhan honno o'r cyfarfod) at ddibenion pleidleisio neu gworwm.

Rhaid cadw cofnodion o benderfyniadau

20.  Rhaid i'r cyfarwyddwyr sicrhau bod y cwmni yn cadw cofnod, mewn ysgrifen, am 10 mlynedd o leiaf ar ôl dyddiad y penderfyniad a gofnodir, o bob penderfyniad unfrydol neu benderfyniad mwyafrif a wneir gan y cyfarwyddwyr.

Disgresiwn y cyfarwyddwyr i wneud rheolau pellach

21.  Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, caiff y cyfarwyddwyr wneud unrhyw reol a ystyriant yn briodol ynglŷn â'r modd y gwnânt benderfyniadau, a sut y cofnodir rheolau o'r fath neu y'u cyfathrebir i gyfarwyddwyr.

PENODI CYFARWYDDWYR

Dulliau o benodi cyfarwyddwyr

22.—(1) Ceir penodi yn gyfarwyddwr unrhyw berson sy'n fodlon i weithredu fel cyfarwyddwr, ac y caniateir iddo wneud hynny gan y gyfraith, naill ai—

(a)drwy benderfyniad cyffredin, neu

(b)drwy benderfyniad y cyfarwyddwyr.

(2) Mewn unrhyw achos pan, oherwydd marwolaeth, nad oes gan y cwmni unrhyw aelodau na chyfarwyddwyr, mae hawl gan gynrychiolwyr personol yr aelod olaf a fu farw, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i benodi person i fod yn gyfarwyddwr.

(3) At ddibenion paragraff (2), os bu 2 neu ragor o aelodau farw mewn amgylchiadau sy'n creu ansicrwydd pa un a fu farw ddiwethaf, rhaid tybio bod yr aelod ieuengaf wedi goroesi aelod hŷn.

Terfynu penodiad cyfarwyddwr

23.  Mae person yn peidio â bod yn gyfarwyddwr cyn gynted ag—

(a)y bo'r person hwnnw'n peidio â bod yn gyfarwyddwr yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu y gwaherddir ef drwy gyfraith rhag bod yn gyfarwyddwr;

(b)y gwneir gorchymyn methdalu yn erbyn y person hwnnw;

(c)y gwneir compównd gyda chredydwyr y person hwnnw yn gyffredinol, er mwyn bodloni dyledion y person hwnnw;

(ch)y cyflwynir i'r cwmni farn ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n trin y person hwnnw, yn datgan bod y person hwnnw wedi mynd yn analluog, yn gorfforol neu'n feddyliol, i weithredu fel cyfarwyddwr, ac y gallai'r person hwnnw barhau felly am fwy na thri mis;

(d)oherwydd iechyd meddyliol y person hwnnw, y gwneir gorchymyn gan lys sydd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yn rhwystro'r person hwnnw rhag arfer yn bersonol unrhyw bwerau neu hawliau a fyddai gan y person hwnnw fel arall;

(dd)y caiff y cwmni hysbysiad gan y cyfarwyddwr ei fod yn ymddiswyddo, a'r cyfryw ymddiswyddiad wedi cael effaith yn unol â thelerau'r hysbysiad.

Cydnabyddiaeth cyfarwyddwyr

24.  Ac eithrio gyda chydsyniad y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol, nid oes hawl gan y cyfarwyddwyr i gael unrhyw gydnabyddiaeth. Rhaid i unrhyw benderfyniad sy'n rhoi cydsyniad o'r fath bennu swm y gydnabyddiaeth sydd i'w thalu i'r cyfarwyddwyr, ac oni fydd y penderfyniad yn darparu'n wahanol, ystyrir bod y gydnabyddiaeth yn cronni o ddiwrnod i ddiwrnod.

Treuliau cyfarwyddwyr

25.  Caiff y cwmni dalu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir yn briodol gan y cyfarwyddwyr mewn cysylltiad â'u presenoldeb mewn—

(a)cyfarfodydd cyfarwyddwyr neu bwyllgorau o'r cyfarwyddwyr,

(b)cyfarfodydd cyffredinol, neu

(c)cyfarfodydd ar wahân o ddeiliaid dyledebion y cwmni,

neu rywfodd arall mewn cysylltiad ag arfer eu pwerau a chyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r cwmni.

RHAN 3DOD YN AELOD A PHEIDIO Å BOD YN AELOD

Cais am aelodaeth

26.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i bob person sy'n dymuno dod yn aelod o'r cwmni draddodi i'r cwmni gais cyflawn am aelodaeth yn y ffurf ganlynol (neu mewn ffurf sydd mor agos at y ffurf ganlynol ag y mae amgylchiadau'n caniatáu, neu mewn unrhyw ffurf arall sy'n arferol neu a gymeradwyir gan y cyfarwyddwyr):

  • At Fwrdd [enw'r cwmni], Yr wyf i, [enw] o [cyfeiriad] yn denant cymwys o [cyfeiriad y fflat] ac yn dymuno dod yn aelod o [enw'r cwmni] yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthyglau Cymdeithasu'r cwmni ac i unrhyw reolau a wnaed o dan yr Erthyglau hynny. Yr wyf yn cytuno i dalu i'r cwmni swm o hyd at £1 os caiff y cwmni ei ddirwyn i ben tra byddaf yn aelod neu hyd at 12 mis wedi imi beidio â bod yn aelod. [Llofnodwyd gan y ceisydd] [Dyddiedig]

(2) Nid oes hawl gan unrhyw berson i gael ei dderbyn yn aelod o'r cwmni onid yw'r person hwnnw, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag eraill—

(a)yn denant cymwys o fflat sydd yn y Fangre, fel a bennir yn adran 75 o Ddeddf 2002; neu

(b)o'r dyddiad y mae'r cwmni'n caffael yr hawl i reoli'r Fangre yn unol â Deddf 2002, yn landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre.

(3) Mae person sydd, ynghyd â rhywun arall neu rywrai eraill, i'w ystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, i'w ystyried, unwaith y bydd wedi ei dderbyn, yn gyd-aelod o'r cwmni mewn perthynas â'r fflat neu'r les honno (yn ôl fel y digwydd).

(4) Rhaid i geisiadau am aelodaeth gan bersonau sydd i'w hystyried yn gyd-denant cymwys o fflat neu'n gyd-landlord o dan les o'r cyfan neu ran o'r Fangre, ddatgan enwau a chyfeiriadau pob un arall sydd â buddiant ar y cyd â hwy, ac ym mha drefn y maent yn dymuno ymddangos ar y gofrestr o aelodau mewn perthynas â'r cyfryw fflat neu les (yn ôl fel y digwydd).

(5) Rhaid i'r cyfarwyddwyr, unwaith y byddant wedi eu bodloni ynglŷn â chais y person a'i hawl i fod yn aelod, gofrestru'r cyfryw berson yn aelod o'r cwmni.

Peidio â bod yn aelod

27.—(1) Nid yw aelodaeth o'r cwmni yn drosglwyddadwy.

(2) Bydd unrhyw aelod nad yw, ar unrhyw adeg, yn bodloni'r gofynion ar gyfer aelodaeth a bennir yn erthygl 26 yn peidio â bod yn aelod o'r cwmni ar unwaith.

(3) Os bydd farw aelod (neu gyd-aelod) neu os â'n fethdalwr, bydd gan ei gynrychiolwyr personol neu'i ymddiriedolwr mewn methdaliad yr hawl i'w cofrestru, neu i'w gofrestru, yn aelod (neu'n gyd-aelod yn ôl fel y digwydd) drwy wneud cais i'r cwmni.

(4) Caiff aelod dynnu allan o'r cwmni a thrwy hynny beidio â bod yn aelod drwy hysbysu'r cwmni mewn ysgrifen saith diwrnod clir o leiaf ymlaen llaw. Nid yw unrhyw hysbysiad o'r fath yn effeithiol os rhoddir ef yn y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y mae'r cwmni'n cyflwyno hysbysiad o'i hawliad i gaffael yr hawl i reoli'r Fangre ac yn diweddu ar y dyddiad sydd naill ai—

(a)y dyddiad caffael yn unol ag adran 90 o Ddeddf 2002; neu

(b)y dyddiad y tynnir yr hysbysiad hwnnw yn ôl neu yr ystyrir iddo gael ei dynnu'n ôl yn unol ag adrannau 86 neu 87 o'r Ddeddf honno.

(5) Beth bynnag fo'r rheswm—

(a)os yw person nad yw'n aelod o'r cwmni yn dod yn denant cymwys neu'n landlord ar y cyd â phersonau sy'n aelodau o'r cwmni, ond nad yw'n gwneud cais am aelodaeth o fewn 28 diwrnod, neu

(b)os bydd farw aelod sydd yn denant cymwys neu'n landlord ar y cyd â phersonau o'r fath, neu os â'n fethdalwr ac nad yw ei gynrychiolwyr personol neu'i ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gwneud cais am aelodaeth o fewn 56 diwrnod, neu

(c)os yw aelod sydd yn denant cymwys neu'n landlord ar y cyd â phersonau eraill o'r fath yn ymddiswyddo o fod yn aelod yn unol ag erthygl 27(3),

mae'r personau hynny, onid oes ganddynt hawl fel arall i fod yn aelodau o'r cwmni oherwydd eu buddiant mewn rhyw fflat neu les arall, hefyd yn peidio â bod yn aelodau o'r cwmni ar unwaith. Er hynny, bydd gan bob person o'r fath yr hawl i ailgeisio am aelodaeth yn unol ag erthygl 26.

RHAN 4GWNEUD PENDERFYNIADAU GAN AELODAU

TREFNIADAETH CYFARFODYDD CYFFREDINOL

Presenoldeb a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol

28.—(1) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i siarad mewn cyfarfod cyffredinol pan fo'r person hwnnw mewn sefyllfa i gyfathrebu i bawb sy'n bresennol yn y cyfarfod, yn ystod y cyfarfod, unrhyw wybodaeth neu farnau sydd gan y person hwnnw ynglŷn â busnes y cyfarfod.

(2) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol—

(a)os gall y person hwnnw bleidleisio, yn ystod y cyfarfod, ar benderfyniadau y pleidleisir arnynt yn y cyfarfod, a

(b)os gellir cymryd pleidlais y person hwnnw i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a basiwyd penderfyniadau o'r fath ai peidio ar yr un pryd â phleidleisiau pob person arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(3) Caiff y cyfarwyddwyr wneud pa bynnag drefniadau a ystyriant yn briodol i alluogi'r rhai sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol i arfer eu hawl i siarad neu bleidleisio ynddo.

(4) Wrth benderfynu ynghylch presenoldeb mewn cyfarfod cyffredinol, nid yw'n berthnasol pa un a yw unrhyw ddau neu ragor o'r aelodau sy'n bresennol yn yr un lle â'i gilydd ai peidio.

(5) Mae dau neu ragor o bersonau nad ydynt yn yr un lle â'i gilydd yn bresennol mewn cyfarfod cyffredinol os yw eu hamgylchiadau yn rhai sy'n caniatáu, os oes ganddynt (neu pe byddai ganddynt) hawliau i siarad a phleidleisio yn y cyfarfod hwnnw, y gallant (neu y gallent) arfer yr hawliau hynny.

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol

29.—(1) Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio penodi cadeirydd y cyfarfod os nad yw'r personau sy'n bresennol yn y cyfarfod yn cyfansoddi cworwm fel a bennir ym mharagraff (2).

(2) Y cworwm ar gyfer y cyfarfod yw 20 y cant o aelodau'r cwmni sydd â hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i'w drafod, neu ddau aelod o'r cwmni sydd â hawl o'r fath (pa un bynnag yw'r nifer mwyaf), yn bresennol naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy.

Cadeirio cyfarfodydd cyffredinol

30.—(1) Os yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, rhaid i'r cadeirydd lywyddu'r cyfarfodydd cyffredinol os yw'n bresennol ac yn fodlon gwneud hynny.

(2) Os nad yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, neu os nad yw'r cadeirydd yn fodlon llywyddu'r cyfarfod, neu os nad yw'n bresennol o fewn deng munud o'r amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, rhaid i'r—

(a)cyfarwyddwyr sy'n bresennol, neu

(b)(os nad oes cyfarwyddwyr yn bresennol), cyfarfod,

benodi cyfarwyddwr neu aelod i weithredu fel cadeirydd y cyfarfod, a rhaid i benodi cadeirydd fod yn fusnes cyntaf y cyfarfod.

(3) Cyfeirir at y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod yn unol â'r erthygl hon fel “cadeirydd y cyfarfod”.

Cyfarwyddwyr a rhai nad ydynt yn aelodau yn bresennol ac yn siarad

31.—(1) Caiff cyfarwyddwyr fod yn bresennol a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol, pa un a ydynt yn aelodau ai peidio.

(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ganiatáu i bersonau eraill, nad ydynt yn aelodau o'r cwmni, fod yn bresennol a siarad mewn cyfarfod cyffredinol.

Gohirio

32.—(1) Os nad yw'r personau sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol yn cyfansoddi cworwm o fewn hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, neu os yw cworwm yn peidio â bod yn bresennol yn ystod cyfarfod, rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio'r cyfarfod.

(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol y mae cworwm yn bresennol ynddo—

(a)os yw'r cyfarfod yn cydsynio i'w ohirio, neu

(b)os yw'n ymddangos i gadeirydd y cyfarfod bod gohirio'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod neu sicrhau y cyflawnir busnes y cyfarfod mewn modd trefnus.

(3) Rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan y cyfarfod.

(4) Wrth ohirio cyfarfod cyffredinol, rhaid i gadeirydd y cyfarfod—

(a)naill ai bennu'r amser a'r lle y cynhelir y cyfarfod gohiriedig neu ddatgan y parheir y cyfarfod ar yr amser ac mewn lle sydd i'w pennu gan y cyfarwyddwyr, a

(b)rhoi sylw i unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y cyfarfod ynglŷn ag amser a lleoliad unrhyw gyfarfod gohiriedig.

(5) Os yw'r cyfarfod gohiriedig i'w barhau ymhen mwy na 14 diwrnod ar ôl ei ohirio, rhaid i'r cwmni roi hysbysiad y'i cynhelir o leiaf 7 diwrnod clir (hynny yw, heb gynnwys diwrnod y cyfarfod gohiriedig na'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad) ymlaen llaw—

(a)i'r un personau y mae'n ofynnol rhoi iddynt hysbysiad o gyfarfodydd cyffredinol y cwmni, a

(b)gan gynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol i hysbysiad o'r fath ei chynnwys.

(6) Ni cheir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol gohiriedig, na ellid bod wedi ei drafod yn briodol yn y cyfarfod pe na bai'r gohirio wedi digwydd.

PLEIDLEISIO MEWN CYFARFODYDD CYFFREDINOL

Pleidleisio: cyffredinol

33.—(1) Rhaid i benderfyniad y pleidleisir arno mewn cyfarfod cyffredinol gael ei benderfynu drwy ddangos dwylo oni ofynnir yn briodol am gynnal pôl yn unol â'r erthyglau.

(2) Os nad oes landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, yna bydd un bleidlais ar gael i'w bwrw mewn perthynas â phob fflat yn y Fangre. Rhaid i'r bleidlais gael ei bwrw gan yr aelod sy'n denant cymwys y fflat.

(3) Ar unrhyw adeg pan fo unrhyw landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre yn aelodau o'r cwmni, penderfynir ar y pleidleisiau sydd ar gael i'w bwrw fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, dyrennir i bob uned breswyl yn y Fangre yr un nifer o bleidleisiau sy'n hafal i gyfanswm nifer aelodau'r cwmni sy'n landlordiaid o dan lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre. Bydd landlordiaid o dan les o'r fath yr ystyrir eu bod yn gyd-aelod o'r cwmni eu cyfrif fel un aelod at y diben hwn;

(b)os yw'r Fangre ar unrhyw adeg yn cynnwys unrhyw ran ddibreswyl, dyrennir cyfanswm nifer pleidleisiau i'r rhan honno sy'n hafal i gyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r unedau preswyl wedi'i luosi â'r ffactor A/B, lle mae A yn gyfanswm arwynebedd llawr mewnol y rhannau dibreswyl a B yn gyfanswm arwynebedd mewnol yr holl rannau preswyl. Rhaid penderfynu ar rannau dibreswyl ac arwynebedd llawr mewnol yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002. Rhaid cyfrifo mesur arwynebedd y llawr mewnol mewn metrau sgwâr, gan anwybyddu ffracsiynau o arwynebedd llawr sy'n llai na hanner metr sgwâr a chyfrif ffracsiynau o arwynebedd llawr sydd dros hanner metr sgwâr fel metr sgwâr cyfan;

(c)yr aelod sy'n denant cymwys uned breswyl sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r uned honno, neu os nad oes tenant cymwys gan yr uned honno, yr aelod sy'n landlord uniongyrchol sydd â'r hawl honno. Ni fydd gan y landlord uniongyrchol yr hawl i bleidlais uned breswyl a ddelir gan denant cymwys nad yw'n aelod o'r cwmni RTM;

(ch)landlord uniongyrchol rhan ddibreswyl o'r Fangre sydd â'r hawl i fwrw'r pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan honno, neu os nad oes les o'r rhan ddibreswyl, y rhydd-ddeiliad sydd â'r hawl honno. Os oes mwy nag un person o'r fath, rhaid rhannu cyfanswm nifer y pleidleisiau a ddyrannwyd i'r rhan ddibreswyl rhyngddynt, yn ôl cyfran arwynebedd llawr mewnol eu rhannau perthnasol. Rhaid diystyru unrhyw hawl ganlyniadol i ffracsiwn o bleidlais;

(d)os nad yw uned breswyl yn ddarostyngedig i unrhyw les, nid oes hawl i fwrw unrhyw bleidleisiau mewn perthynas â hi;

(dd)mae gan unrhyw berson, sy'n landlord o dan les neu lesoedd o'r cyfan neu unrhyw ran o'r Fangre ac sy'n aelod o'r cwmni ond nad oes ganddo hawl fel arall i unrhyw bleidleisiau, yr hawl i un bleidlais.

(4) Yn achos personau yr ystyrir eu bod yn gyd-aelodau o'r cwmni, caiff unrhyw berson o'r fath arfer yr hawliau pleidleisio sydd gan yr aelodau hynny ar y cyd, ond os oes mwy nag un person o'r fath yn cyflwyno pleidlais, naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy, caiff pleidlais y blaenaf ohonynt ei derbyn tra gwaherddir pleidleisiau'r lleill, a phenderfynir y flaenoriaeth yn ôl y drefn y mae enwau'r personau hynny yn ymddangos yn y gofrestr aelodau mewn perthynas â'r fflat neu'r les (yn ôl fel y digwydd) y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddi.

Gwallau ac anghydfodau

34.—(1) Ni cheir codi gwrthwynebiad i gymhwyster unrhyw berson sy'n pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio yn y cyfarfod neu'r cyfarfod gohiriedig y cyflwynir y bleidlais a wrthwynebir ynddo, ac y mae pob pleidlais nas gwrthodir yn y cyfarfod yn ddilys.

(2) Rhaid cyfeirio unrhyw wrthwynebiad o'r fath i gadeirydd y cyfarfod, ac y mae penderfyniad cadeirydd y cyfarfod yn derfynol.

Pleidleisiau pôl

35.—(1) Ceir galw am gynnal pôl ar benderfyniad—

(a)cyn cynnal y cyfarfod blynyddol lle y bwriedir pleidleisio ar y penderfyniad, neu

(b)mewn cyfarfod cyffredinol, naill ai cyn pleidleisio drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw neu'n union ar ôl datgan canlyniad pleidlais drwy ddangos dwylo ar y penderfyniad hwnnw.

(2) Caiff y canlynol alw am gynnal pôl—

(a)cadeirydd y cyfarfod;

(b)y cyfarwyddwyr;

(c)dau neu ragor o bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad; neu

(ch)person neu bersonau sy'n cynrychioli dim llai na degfed ran o gyfanswm hawliau pleidleisio'r holl aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad.

(3) Ceir tynnu galwad am gynnal pôl yn ôl—

(a)os nad yw'r pôl eto wedi ei gynnal, a

(b)os yw cadeirydd y cyfarfod yn cydsynio i'w dynnu yn ôl.

(4) Rhaid cynnal polau ar unwaith ac ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.

Cynnwys hysbysiadau dirprwy

36.—(1) Ni fydd penodiad dirprwy yn ddilys ac eithrio drwy hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad dirprwy”) sydd—

(a)yn datgan enw a chyfeiriad yr aelod sy'n penodi'r dirprwy;

(b)yn enwi'r person a benodir i fod yn ddirprwy'r aelod hwnnw ac yn nodi'r cyfarfod cyffredinol y'i penodir mewn perthynas ag ef;

(c)wedi ei lofnodi gan neu ar ran yr aelod sy'n penodi'r dirprwy, neu wedi ei dilysu ym mha bynnag fodd a benderfynir gan y cyfarwyddwyr; ac

(ch)wedi ei draddodi i'r cwmni yn unol â'r erthyglau ac unrhyw gyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr hysbysiad o'r cyfarfod cyffredinol y maent yn ymwneud ag ef.

(2) Caiff y cwmni ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiadau dirprwy yn cael eu traddodi mewn ffurf benodol, a phennu gwahanol ffurfiau at ddibenion gwahanol.

(3) Caiff hysbysiadau dirprwy bennu sut y mae'r dirprwy a benodir odanynt i bleidleisio (neu fod y dirprwy i ymatal rhag pleidleisio) ar un neu ragor o benderfyniadau.

(4) Oni fydd hysbysiad dirprwy yn dynodi'n wahanol, rhaid trin yr hysbysiad dirprwy fel pe bai—

(a)yn caniatáu disgresiwn i'r person a benodir yn ddirprwy odano ynglŷn â sut i bleidleisio ar unrhyw benderfyniadau ategol neu weithdrefnol a osodir gerbron y cyfarfod, a

(b) yn penodi'r person hwnnw yn ddirprwy mewn perthynas ag unrhyw ohiriad o'r cyfarfod cyffredinol y mae'r hysbysiad dirprwy yn ymwneud ag ef, yn ogystal â'r cyfarfod ei hunan.

Traddodi hysbysiadau dirprwy

37.—(1) Mae person sydd â hawl i fod yn bresennol, siarad neu bleidleisio (naill ai drwy ddangos dwylo neu mewn pôl) mewn cyfarfod cyffredinol yn parhau â'r hawl honno mewn perthynas â'r cyfarfod hwnnw neu unrhyw addasiad ohono, hyd yn oed pan fo hysbysiad dirprwy dilys wedi ei draddodi i'r cwmni gan neu ar ran y person hwnnw.

(2) Ceir dirymu penodiad o dan hysbysiad dirprwy drwy draddodi i'r cwmni hysbysiad mewn ysgrifen a roddwyd gan neu ar ran y person a roddodd yr hysbysiad dirprwy neu y rhoddwyd yr hysbysiad dirprwy ar ei ran.

(3) Ni fydd hysbysiad sy'n dirymu penodiad dirprwy yn cael effaith oni thraddodir ef cyn cychwyn y cyfarfod neu'r cyfarfod gohiriedig y mae'n ymwneud ag ef.

(4) Os nad yw hysbysiad dirprwy wedi ei gyflawni gan y person ei hunan sy'n penodi'r dirprwy, rhaid ei draddodi ynghyd â thystiolaeth ysgrifenedig bod gan y person a'i cyflawnodd awdurdod i'w gyflawni ar ran y penodwr.

Gwelliannau i benderfyniadau

38.—(1) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad cyffredin sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—

(a)os rhoddir hysbysiad o'r gwelliant arfaethedig i'r cwmni, mewn ysgrifen gan berson sydd â hawl i bleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y gwelliant ynddo, ddim llai na 48 awr cyn cynnal y cyfarfod (neu ba bynnag amser diweddarach a bennir gan gadeirydd y cyfarfod), a

(b)os nad yw'r gwelliant arfaethedig, ym marn resymol cadeirydd y cyfarfod, yn newid cwmpas y penderfyniad yn sylweddol.

(2) Ceir cynnig gwelliant i benderfyniad arbennig sydd i'w gynnig mewn cyfarfod cyffredinol, drwy benderfyniad cyffredin—

(a)os yw cadeirydd y cyfarfod yn cynnig y gwelliant yn y cyfarfod cyffredinol y bwriedir cynnig y penderfyniad ynddo, a

(b)os nad yw'r gwelliant yn mynd ymhellach nag sydd ei angen i gywiro gwall gramadegol, neu wall arall nad oes a wnelo ddim â sylwedd y penderfyniad.

(3) Os digwydd i gadeirydd y cyfarfod, gan weithredu'n ddidwyll, benderfynu yn anghywir bod gwelliant i benderfyniad allan o drefn, nid yw camgymeriad y cadeirydd yn annilysu'r bleidlais ar y penderfyniad hwnnw.

RHAN 5TREFNIADAU GWEINYDDOL

Y dulliau cyfathrebu sydd i'w defnyddio

39.—(1) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi unrhyw beth a anfonir neu a gyflenwir gan y cwmni neu i'r cwmni o dan yr erthyglau, mewn unrhyw ffordd a ddarperir yn y Deddfau Cwmnïau ar gyfer dogfennau neu wybodaeth yr awdurdodir, neu y gwneir yn ofynnol, gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau hynny eu hanfon neu eu cyflenwi gan y cwmni neu i'r cwmni.

(2) Yn ddarostyngedig i'r erthyglau, ceir anfon neu gyflenwi hefyd unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau sydd i'w hanfon neu'u cyflenwi i gyfarwyddwr, mewn cysylltiad â gwneud penderfyniadau gan gyfarwyddwyr, yn y dull y mae'r cyfarwyddwr hwnnw am y tro wedi gofyn am i'r cyfryw hysbysiadau neu ddogfennau gael eu hanfon neu'u cyflenwi.

(3) Caiff cyfarwyddwr gytuno gyda'r cwmni y ceir ystyried y bydd y cyfarwyddwr hwnnw wedi cael hysbysiadau neu ddogfennau a anfonir ato mewn ffordd benodol o fewn amser penodedig ar ôl eu hanfon, ac y bydd yr amser penodedig yn llai na 48 awr.

Seliau cwmnïau

40.—(1) O dan awdurdod y cyfarwyddwyr yn unig y ceir defnyddio unrhyw sêl gyffredin.

(2) Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu drwy ba ddull ac ym mha ffurf y defnyddir unrhyw sêl gyffredin.

(3) Oni fydd y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall, os oes gan y cwmni sêl gyffredin ac os gosodir y sêl honno ar ddogfen, rhaid i'r ddogfen gael ei llofnodi hefyd gan o leiaf un person awdurdodedig ym mhresenoldeb tyst sy'n ardystio'r llofnod.

(4) At ddibenion yr erthygl hon, person awdurdodedig yw—

(a)unrhyw gyfarwyddwr y cwmni;

(b)ysgrifennydd y cwmni (os oes un); neu

(c)unrhyw berson a awdurdodwyd gan y cyfarwyddwyr at y diben o lofnodi dogfennau y gosodwyd y sêl gyffredin arnynt.

Archwilio a chopïo cyfrifon a chofnodion eraill

41.  Yn ychwanegol at unrhyw hawl a roddir drwy statud, a heb randdirymu unrhyw hawl o'r fath, mae gan unrhyw aelod yr hawl, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i'r cwmni, i archwilio unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu o eiddo'r cwmni, ac i gael copi o'r cyfryw ar ôl talu unrhyw ffi resymol am gopïo. Mae hawliau o'r fath yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw benderfyniad gan y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol;

(b)yn achos unrhyw lyfr, cofnod, dogfen neu gofnod cyfrifyddu sydd, ym marn resymol y cyfarwyddwyr, yn cynnwys deunydd cyfrinachol y byddai ei ddatgelu yn groes i fuddiannau'r cwmni, hepgor neu dorri allan unrhyw ddeunydd cyfrinachol o'r fath (gan ddatgelu i'r aelod y ffaith bod hepgor neu dorri allan wedi digwydd); ac

(c)unrhyw amodau rhesymol eraill a osodir gan y cyfarwyddwyr.

Darpariaeth ar gyfer cyflogeion wrth derfynu'r busnes

42.  Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu gwneud darpariaeth er budd personau a gyflogir neu a gyflogwyd yn flaenorol gan y cwmni neu gan unrhyw un o'i is-gwmnïau (ac eithrio cyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr neu gyfarwyddwr cysgodol) mewn cysylltiad â therfynu, neu drosglwyddo i unrhyw berson, y cyfan neu ran o ymgymeriad y cwmni neu'r is-gwmni hwnnw.

RHAN 6INDEMNIAD AC YSWIRIANT CYFARWYDDWYR

Indemniad

43.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ceir indemnio cyfarwyddwr perthnasol y cwmni neu gwmni cysylltiol, allan o asedau'r cwmni, rhag—

(a)unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw esgeulustod, diffyg, tor-dyletswydd neu dor-ymddiriedaeth mewn perthynas â'r cwmni neu gwmni cysylltiol,

(b)unrhyw atebolrwydd a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw mewn cysylltiad â gweithgareddau'r cwmni neu gwmni cysylltiol yn ei swyddogaeth fel ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol (fel y'i diffinnir yn adran 235(6) o Ddeddf Cwmnïau 2006),

(c)unrhyw atebolrwydd arall a dynnir gan y cyfarwyddwr hwnnw fel swyddog y cwmni neu gwmni cysylltiol.

(2) Nid yw'r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw indemniad a waherddid neu a wneid yn ddi-rym gan unrhyw ddarpariaeth o'r Deddfau Cwmnïau neu gan unrhyw ddarpariaeth arall o'r gyfraith.

(3) Yn yr erthygl hon—

(a)mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol, a

(b)ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol.

Yswiriant

44.—(1) Caiff y cyfarwyddwyr benderfynu prynu a chynnal yswiriant, ar gost y cwmni, er budd unrhyw gyfarwyddwr perthnasol mewn perthynas ag unrhyw golled berthnasol.

(2) Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “cyfarwyddwr perthnasol” yw unrhyw gyfarwyddwr neu gyn-gyfarwyddwr y cwmni neu gwmni cysylltiol,

(b)ystyr “colled berthnasol” yw unrhyw golled neu atebolrwydd a dynnwyd gan gyfarwyddwr perthnasol, neu y gallai cyfarwyddwr perthnasol ei thynnu, mewn cysylltiad â dyletswyddau neu bwerau'r cyfarwyddwr hwnnw mewn perthynas â'r cwmni, a chwmni cysylltiol neu unrhyw gronfa bensiwn neu gynllun cyfranddaliadau cyflogeion y cwmni neu gwmni cysylltiol, ac

(c)mae cwmnïau yn gysylltiol os yw un yn is-gwmni i'r llall, neu'r ddau yn is-gwmnïau i'r un corff corfforaethol.