Amnewid rheoliad 8 (cadw cofnodion)

6.  Yn lle rheoliad 8, rhodder—

Cadw cofnodion

8.(1) Rhaid i werthwr gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.

(2) Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.

(3) Dyma'r wybodaeth—

(a)nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir sy'n denu'r tâl;

(b) y swm a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl ;

(c)y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd;

(ch)enillion net y tâl(1);

(d)dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd ac enillion net y tâl, gan gynnwys—

(i)y dosraniad rhwng unrhyw TAW y gellir ei chodi a chostau rhesymol;

(ii)y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;

(dd)at ba ddibenion y defnyddiwyd enillion net y tâl.

(4) Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008(2)

(a)unrhyw swm sy'n fwy na'r tâl a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;

(b)unrhyw swm o TAW y gellir ei chodi a gafwyd drwy'r tâl;

(c)swm unrhyw gostau rhesymol.

(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—

(a)costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(b)costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.

(6) Mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd gyntaf, mae “costau rhesymol” yn cynnwys costau yr aeth gwerthwr iddynt cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym—

(a)i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(b)i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid..

(1)

I gael ystyr “enillion net y tâl” gweler y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.