xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2011 (Cy.221) (C.74)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

Gwnaed

9 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 178(3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1).

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Y darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Awst 2011

2.  Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 31 Awst 2011—

(a)adrannau 1 i 3 (arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr);

(b)adran 141 (y Panel);

(c)adran 142 (swyddogaethau sy'n ymwneud â thaliadau i aelodau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ch)adran 143 (swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau aelodau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(d)adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.);

(dd)adran 145 (adroddiadau blynyddol) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(e)adran 146 (yr adroddiad blynyddol cyntaf);

(f)adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ff)adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(g)adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ng)adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(h)adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(i)adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(j)is-adrannau (2), (3) a (4) o adran 155 (peidio â gwneud taliadau) i'r graddau y maent yn ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(l)adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(ll)adran 157 (canllawiau) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adroddiad o dan adran 146;

(m)adran 158 (y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y Panel);

(n)adran 161 (canllawiau ynghylch cydlafurio rhwng awdurdodau gwella Cymreig);

(o)adrannau 162 i 171 (cyfuno);

(p)Atodlen 2 (y Panel).

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Un o Weinidogion Cymru

9 Awst 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 31 Awst 2011 ddarpariaethau yn y Mesur a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

Atodlen 2 (y Panel) sy'n nodi'r gweithdrefnau o ran penodi, gweinyddu a sicrhau cymorth ar gyfer y Panel (gan gynnwys anghymhwyso rhag bod yn aelod).

Gweler hefyd adran 178 (cychwyn) ar gyfer darpariaethau sy'n dod i rym ar ôl pasio'r Mesur.