xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn unrhyw drefniadau asesu sydd yn eu barn hwy yn briodol i'r cyfnod sylfaen.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i ddisgyblion gael eu hasesu yn y flwyddyn olaf o'r cyfnod sylfaen gan athro neu athrawes ac mae'n gosod diben yr asesiadau hynny (erthyglau 3 a 4). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau a wneir gan y Gorchymyn neu yn ychwanegu atynt fel arall (erthygl 5).

Ar ben hynny, mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer dirymu trefniadau asesu'r cyfnod allweddol cyntaf a nodir yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 (erthygl 1(4)).